Diwygio Rhaglen Astudio Bresennol

Beth yw'r Broses o 'Ddiwygio Rhaglen Bresennol'?

Dylai’r holl raglenni newid dros amser i ddilyn ymchwil, pynciau, tueddiadau a newidiadau allanol presennol (megis gofynion Cyrff Proffesiynol); ac efallai’n bwysicach na dim, newidiadau i’r galw yn y farchnad gan fyfyrwyr a chyflogwyr er mwyn sicrhau bod rhaglenni’n parhau i recriwtio. Os nad yw rhaglenni’n recriwtio’n effeithiol, gall fod yn rhaid eu gohirio neu eu tynnu’n ôl ond gall sicrhau bod eich rhaglen cystal â phosib ar bob adeg sicrhau y bydd yn parhau i lwyddo.

I alluogi newidiadau i raglenni heb ymgymryd â phroses ail-gymeradwyo gyflawn, mae’r brifysgol yn caniatáu i agweddau penodol gael eu newid – dyma’r broses ‘Diwygio Rhaglen Bresennol’. Goruchwylir y broses hon gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, ond fe’i rheolir gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a Phwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg/y Pwyllgor Ymchwil. Fel yn achos yr holl agweddau ar ddylunio ac adolygu’r rhaglen, dylai myfyrwyr a chyflogwyr fod yn rhan o’r holl broses.


Pam bod Rhaid i ni Gymeradwyo Newidiadau i Raglenni?

Fel yn achos newidiadau i  gynnyrch, mae’n rhaid i’r holl newidiadau gael eu hadolygu a’u cymeradwyo gan y Brifysgol cyn y gellir eu lansio’n swyddogol ar gyfer myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod y newidiadau’n parhau i fodloni safonau a disgwyliadau’r Brifysgol, a gofynion y Disgrifyddion Cymwysterau a datganiadau meincnodau pynciau’r ASA, ynghyd â gofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheolaethol. Mae dwy lefel o gymeradwyaeth (y Coleg a’r Brifysgol), ac mae gan y Brifysgol ymagwedd gymesurol sy’n seiliedig ar risgiau at gymeradwyo. 


Beth Sy'n Cyfansoddi Newid i Raglen Bresennol?

Mae’r tabl canlynol yn darparu rhestr nad yw’n gynhwysfawr o newidiadau a fyddai’n cychwyn y broses Ddiwygio Rhaglen Bresennol.

Byddai unrhyw un o’r newidiadau a restrir yn gofyn am gymeradwyaeth ar lefel y Coleg neu’r Brifysgol, a byddai  cyfuniad o newidiadau’n debygol o ofyn am gymeradwyaeth gan y Brifysgol. E-bostiwch y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn quality@abertawe.ac.uk i drafod eich newidiadau arfaethedig a bydd y tîm yn gweithio gyda chi i sicrhau y rhoddir y prosesau cymeradwyo priodol ar waith. 


Pa Newidiadau Fyddai’n Golygu Rhaglen Newydd?

Os byddai’ch newidiadau arfaethedig yn golygu rhaglen newydd i bob diben, er enghraifft, rydych yn creu amrywiolyn o raglen i’w gyflwyno ochr yn ochr â’r rhaglen rydych yn ei chynnal ar hyn o bryd, ond gyda theitl a chanolbwynt gwahanol, byddai hyn yn golygu rhaglen newydd.

Fodd bynnag, i symleiddio’r broses, gellir creu fersiwn gyfatebol o’ch rhaglen bresennol ar y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni i’n galluogi i ddefnyddio’r wybodaeth sylfaenol fel templed i’w ddatblygu. E-bostiwch y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn quality@abertawe.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am greu rhaglen newydd, gweler yr adran ynghylch Datblygu Rhaglen Newydd.


Pryd Gallaf Newid fy Rhaglen?

Gellir newid eich rhaglen ar unrhyw adeg, ond mae cyfyngiadau ynghylch pryd y gellir gweithredu’r newidiadau ar gyfer myfyrwyr, gan ddibynnu ar natur y newidiadau, oherwydd bod rhaid i raglenni gydymffurfio â gofynion yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a’r gyfraith defnyddwyr.

Ceir yma arweiniad ynghylch pryd y gellir cyflwyno newidiadau, ond e-bostiwch quality@abertawe.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth cyn i chi wneud  newidiadau. Mae newidiadau i Raglenni Ymchwil Ôl-raddedig yn fwy hyblyg oherwydd natur y rhaglenni, ond dylid eu gwneud cyn i fyfyrwyr gychwyn ar y rhaglenni.

Sylwer ei bod hi’n bwysig cynllunio newidiadau’n effeithiol, yn enwedig lle mae’r newidiadau hynny mewn ymateb i adborth gwael i fyfyrwyr a gellir gwneud rhai newidiadau yn ystod y flwyddyn os  ystyrir y byddant o fudd i’r myfyrwyr. Dylid trafod yr holl newidiadau a fydd yn effeithio ar fyfyrwyr ar raglen bresennol â’r myfyrwyr cyn rhoi’r newidiadau ar waith.


Pa Newidiadau nad oes Angen Cymeradwyaeth Ffurfio ar eu Cyfer?

Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o newidiadau’n gofyn am ryw fath o gymeradwyaeth ffurfiol.  Fodd bynnag, os ydych yn diweddaru ac yn tacluso Manyleb y Rhaglen, yn cywiro mân wallau neu’n diweddaru’r maes llafur neu’r derminoleg i adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn unig, yna nid oes angen cymeradwyaeth ffurfiol arnoch. Mae’r adrannau ‘Pa newidiadau y mae angen i’r Coleg eu cymeradwyo?’ a ‘Pa newidiadau y mae angen i’r Brifysgol eu cymeradwyo?’ yn disgrifio pa newidiadau y mae angen cymeradwyaeth ar eu cyfer.

Os nad ydych yn siŵr, e-bostiwch quality@abertawe.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.


Beth sy'n Digwydd os bydd Myfyrwyr Presennol yn Gwrthod y Newidiadau Arfaethedig?

Mae’n rhaid ymgynghori â myfyrwyr presennol y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio arnynt ac mae’n rhaid iddynt allu mynegi eu barn yn y drafodaeth. Fel arfer, pan fydd myfyrwyr presennol yn gwrthod newidiadau arfaethedig, gellir rhoi’r newid hwnnw ar waith ar gyfer myfyrwyr newydd sy’n cofrestru ar gyfer y rhaglen yn unig a bydd y myfyrwyr presennol yn cwblhau’r rhaglen yn ôl ei strwythur gwreiddiol. Fodd bynnag, mewn achosion lle ceir tystiolaeth eglur sy’n dangos y bydd y newidiadau o fudd sylweddol i fyfyrwyr, dylid cynnal trafodaethau pellach â chynrychiolwyr myfyrwyr.


Pa Newidiadau y mae Angen i'r Coleg eu Cymeradwyo a Pa Newidiadau y Mae Angen i'r Brifysgol eu Cymeradwyo?

Os ydych yn cynnig gwneud y newidiadau canlynol, yna gall Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg eu cymeradwyo (fel y bo’n briodol).

Os ydych yn cynnig gwneud y newidiadau canlynol, yna mae’n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni’r Brifysgol ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg.


Beth yw'r 'Rheol Newid 25%' Rwyf wedi Clywed Amdani?

Roedd y Brifysgol yn arfer dweud y byddai angen cymeradwyaeth gan y Brifysgol os byddai rhaglen yn newid mwy na 25% o’i chynnwys. Gellid cymeradwyo  newidiadau gwerth llai na 25% gan y Coleg.  Perodd hyn ddryswch – 25% o beth?  Casgliad cymhleth o wybodaeth yw rhaglen nad oes modd yn hawdd ei throsglwyddo’n ganran. Yn ogystal â hynny, roedd yn bosib newid 25% bob blwyddyn heb oruchwyliaeth gan y Brifysgol – dros gyfnod o 4 blynedd, gallai hyn olygu bod y canlyniad yn rhaglen hollol wahanol i’r hyn a gymeradwywyd! O ganlyniad, nid yw’r Brifysgol yn defnyddio’r ymagwedd hon mwyach ac mae hi wedi penderfynu nodi pa feysydd y gellir eu newid gan y Colegau a pha rai sy’n gofyn am gymeradwyaeth gan y Brifysgol. 


Sut Ydwyf yn Diwygio Rhaglen Bresennol a Addysgir?

Yn achos  newidiadau y gall y Coleg eu cymeradwyo, diweddarwch y ddogfennaeth berthnasol (e.e. Ffurflen Modiwl) a chyflwynwch hon i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’ch Coleg i’w chymeradwyo.

Yn achos  newidiadau y mae angen i’r Brifysgol eu cymeradwyo, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen Diwygio Rhaglen Bresennol. Hefyd, bydd yn rhaid i chi ddiweddaru’ch Manyleb Rhaglen drwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, a gall fod angen i chi ddarparu Mapiau Cwricwlwm, Ffurflenni Modiwlau a Strategaeth Asesu ddiweddar, gan ddibynnu ar natur y newid.

Cyn i chi ddechrau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd neu Swyddog Ymgysylltu eich Coleg, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar yr ymagwedd orau.

Unwaith eich bod wedi’i chwblhau, cyflwynwch eich ffurflen i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu eich Coleg i’w hadolygu.

Unwaith y bydd Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg wedi cymeradwyo’ch cynnig, dylech chi ei gyflwyno i quality@abertawe.ac.uk a chaiff ei ystyried gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Ni dderbynnir cynigion sydd heb eu cymeradwyo gan y Coleg yn gyntaf.


Sut Ydwyf yn Diwygio Rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig Bresennol?

Oherwydd y gwahaniaethau mewn Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig, ceir rhai mân wahaniaethau yn y broses ar gyfer diwygio rhaglenni ond, yn gyffredinol, mae’r broses yr un peth ag yw hi ar gyfer rhaglenni a addysgir. Rydym yn parhau i wella’r prosesau sicrhau a gwella ansawdd ar gyfer rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig er mwyn diogelu’r profiad i fyfyrwyr a rhoi trosolwg gwell.

Yn achos rhaglenni ymchwil ôl-raddedig sydd ag elfen a addysgir, mae’r un rheolau’n berthnasol o ran newidiadau i raglenni a modiwlau a amlinellir yn gynharach yn y Côd Ymarfer hwn. Yn achos rhaglenni sy’n cynnwys ymchwil yn unig, y canolbwynt fydd materion ynghylch strwythur, rheoli a phrofiad y myfyrwyr. Gall enghreifftiau o newidiadau gynnwys cyflwyno gyda phartner, newidiadau i strwythur neu leoliad cyflwyno (gan gynnwys dysgu o bell neu ddysgu cymysg). Os ydych yn dymuno datblygu rhaglenni ar y cyd, dwbl neu ddeuol, bydd hyn yn golygu rhaglen newydd a dylech chi ddilyn y broses Cymeradwyo Rhaglenni newydd ar gyfer rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig.

I wneud newidiadau sylweddol i Raglenni Ymchwil, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen Diwygio Rhaglen Bresennol. Hefyd, bydd yn rhaid i chi ddiweddaru’ch Manyleb Rhaglen drwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni a gall fod angen i chi ddarparu Mapiau Cwricwlwm, Ffurflenni Modiwlau a Strategaeth Asesu ddiweddar, gan ddibynnu ar natur y newid.

Cyn i chi ddechrau, dylech chi gysylltu â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd neu Swyddog Ymgysylltu’ch Coleg, a fydd yn gallu eich cynghori ar yr ymagwedd orau.

Unwaith eich bod wedi’i chwblhau, dylech chi gyflwyno’ch ffurflen i’r Pwyllgor Ymchwil i’w hadolygu.

Unwaith y bydd Pwyllgor Ymchwil y Coleg wedi cymeradwyo’ch cynnig, dylech chi ei gyflwyno i quality@abertawe.ac.uk a chaiff ei ystyried gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni.  Ni dderbynnir cynigion sydd heb eu cymeradwyo gan y Coleg yn gyntaf. 


Sut Ydwyf yn Ychwanegu Blwyddyn/Semester o Astudio Dramor Neu mewn Diwydiant (Neu Leoliad Gwaith Arall)?

ychwanegu cyfnod o symudedd myfyrwyr, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen Diwygio Rhaglen Bresennol. Hefyd, bydd yn rhaid i chi greu amrywiolyn o’r rhaglen newydd (os ydych yn ychwanegu blwyddyn) drwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, a gall fod angen i chi ddarparu Map Cwricwlwm a Strategaeth Asesu ddiweddar. Hefyd, bydd angen i chi greu neu ychwanegu’r modiwl sy’n berthnasol i’r cyfnod o waith neu astudio, gyda’r deilliannau dysgu a’r asesiadau priodol.

Cyn i chi ddechrau, dylech chi gysylltu â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd neu Swyddog Ymgysylltu’ch Coleg, a fydd yn gallu eich cynghori ar yr ymagwedd orau. Hefyd, dylech chi gyfeirio at y rheoliadau a’r arweiniad ynghylch Cyfleoedd Symudedd Myfyrwyr a gynhwysir yn y Canllaw Academaidd, sy’n darparu fframwaith ar gyfer sicrhau ansawdd ac asesu symudedd.

Unwaith eich bod wedi’i chwblhau, dylech chi gyflwyno’ch ffurflen i’r Pwyllgor Ymchwil i’w hadolygu.

Unwaith y bydd Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg wedi cymeradwyo’ch cynnig, dylech chi ei gyflwyno i quality@abertawe.ac.uk a chaiff ei ystyried gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Ni dderbynnir cynigion sydd heb eu cymeradwyo gan y Coleg yn gyntaf.


Sut Ydwyf yn Diwygio Rhaglen Gydweithredol Bresennol?

Mae diwygio rhaglen gydweithredol bresennol (rhaglen a addysgir neu un ymchwil) yn dilyn y broses safonol a amlinellwyd yn gynharach, gyda’r amod ychwanegol y dylid cynnwys y sefydliad (sefydliadau) partner yn ystod newidiadau arfaethedig (boed y newidiadau hynny’n berthnasol gartref neu yn y sefydliad partner).

Yn achos  newidiadau y gall y Coleg eu cymeradwyo, diweddarwch y ddogfennaeth berthnasol (e.e. Ffurflen Modiwl) a chyflwynwch hon i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’ch Coleg fel y bo’n berthnasol, ynghyd â’r corff cyfatebol yn y sefydliad partner, i’w chymeradwyo.

Yn achos  newidiadau y mae angen i’r Brifysgol eu cymeradwyo, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen Diwygio Rhaglen Bresennol. Hefyd, bydd yn rhaid i chi ddiweddaru’ch Manyleb Rhaglen drwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, a gall fod angen i chi ddarparu Mapiau Cwricwlwm, Ffurflenni Modiwlau a Strategaeth Asesu ddiweddar, gan ddibynnu ar natur y newid. Gall fod angen i’r Bwrdd Partneriaethau Cydweithrediadol adolygu newidiadau os bydd  newidiadau i drefniadau partneriaeth.

Cyn i chi ddechrau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd neu Swyddog Ymgysylltu’ch Coleg, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar yr ymagwedd orau.

Unwaith eich bod wedi’i chwblhau, cyflwynwch eich ffurflen i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu eich Coleg i’w hadolygu.

Unwaith y bydd Pwyllgor Dysgu ac Addysgu neu Bwyllgor Ymchwil y Coleg wedi cymeradwyo’ch cynnig, dylech chi ei gyflwyno i quality@abertawe.ac.uk a chaiff ei ystyried gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Ni dderbynnir cynigion sydd heb eu cymeradwyo gan y Coleg yn gyntaf.


Sut Ydwyf yn Newid fy Rhaglen i'w Chyflwyno Gyda Phartner (Neu Bartneriaid)?

I ychwanegu partner neu bartneriaid at y broses o gyflwyno rhaglen, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen Diwygio Rhaglen Bresennol. Hefyd, bydd yn rhaid i chi greu amrywiolyn o’r rhaglen newydd (os ydych yn ychwanegu blwyddyn) drwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, a gall fod angen i chi ddarparu Map Cwricwlwm a Strategaeth Asesu ddiweddar. Os oes  newidiadau i’r rhaglen ei hun, bydd yn rhaid adlewyrchu’r rhain yn y Fanyleb Rhaglen ddiwygiedig hefyd – dilynwch y broses ar gyfer Diwygio Rhaglen Bresennol a amlinellir yn y Côd Ymarfer hwn.

Bydd angen i  bartneriaid presennol rydych am eu hychwanegu fod yn destun diwydrwydd dyladwy academaidd a chraffu o ran cyfleusterau ac adnoddau sy’n benodol i’r pwnc. Bydd angen i Fwrdd Partneriaethau Cydweithrediadol y Brifysgol gymeradwyo  partneriaid newydd, gan ddilyn y broses ar gyfer cymeradwyo partneriaid newydd.

Cyn i chi ddechrau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd neu Swyddog Ymgysylltu’ch Coleg, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar yr ymagwedd orau.

Unwaith eich bod wedi’i chwblhau, cyflwynwch eich ffurflen i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu eich Coleg i’w hadolygu.

Unwaith y bydd Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg wedi cymeradwyo’ch cynnig, dylech chi ei gyflwyno i quality@abertawe.ac.uk a chaiff ei ystyried gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Ni dderbynnir cynigion sydd heb eu cymeradwyo gan y Coleg yn gyntaf.


Sut Ydwyf yn Newid Teitl y Rhaglen?

Newidir teitlau rhaglenni yn yr un modd ag y gwneir unrhyw ddiwygiad arall, ond dylech chi ymgynghori â’r tîm Gwybodaeth am y Farchnad i wneud yn siŵr y bydd y teitl newydd arfaethedig yn gwella’r potensial am recriwtio.

Bydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a’r Aseswr Allanol yn sicrhau bod y teitl newydd arfaethedig yn parhau i fod yn academaidd ddichonadwy o ran cynrychioli cynnwys y rhaglen.


A Allaf Newid Modiwlau Craidd Neu Orfodol?

Gallwch – Os yw’r newidiadau hyn yn sylweddol ac yn newid natur, strwythur neu gynnwys cyffredinol y modiwl, bydd angen i’r Brifysgol eu cymeradwyo gan fod y modiwlau craidd a gorfodol yn darparu fframwaith y rhaglen, sy’n galluogi’r Brifysgol i sicrhau bod cwricwlwm ac uniondeb cyffredinol y rhaglen yn gadarn.

Yn achos rhaglenni sydd â modiwlau craidd neu orfodol dewisol, mae’r rheol hon yn berthnasol i fodiwlau dewisol. Dylid gweithredu’r holl newidiadau drwy’r system Rheolau Meysydd Llafur.


A Allaf Newid Modiwlau Dewisol?

Gallwch – gall y Coleg newid a chymeradwyo modiwlau craidd drwy’r Pwyllgor Dysgu ac Addysgu a’u diweddaru drwy’r system Rheolau Meysydd Llafur, oni bai eu bod yn opsiynau gorfodol neu graidd.


Oes Angen Cymeradwyaeth ar Gyfer Newidiadau i Fodiwlau?

Oes – gall newidiadau i fodiwlau effeithio ar y rhaglen gyfan felly mae angen cymeradwyo’r modiwlau pan gânt eu newid. Fodd bynnag, ar yr amod nad ydynt yn newidiadau sylweddol i fodiwlau craidd neu orfodol, gall Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg gymeradwyo’r rhain.


Sut Ydwyf yn Newid neu'n Diweddaru Modiwlau?

Caiff modiwlau eu diweddaru drwy adrannau Cynnal a Chadw Gwybodaeth am Fodiwlau neu Ffurflen Modiwl y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni. Gallwch  ddiweddaru’r modiwl presennol neu greu un newydd, sy’n haws yn achos newidiadau sylweddol. Dylid adolygu a diweddaru modiwlau’n flynyddol drwy’r broses Adolygu Ansawdd:Adolygiad Blynyddol Modiwlau.

Hefyd, bydd yn rhaid i chi ddiweddaru’ch Rheolau Meysydd Llafur i wneud yn siŵr bod eich modiwlau newydd neu ddiwygiedig wedi’u cynnwys.

Os nad allwch gael mynediad at y system, e-bostiwch quality@abertawe.ac.uk i gael cymorth.


A oes Terfyn i Nifer y Modiwlau y Gallaf eu Newid?

Nac oes…. ond po fwyaf y modiwlau rydych yn eu newid, mwyaf y bydd naws gyffredinol y rhaglen yn newid, felly gall fod angen i’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni gynnal adolygiad llawn ac ail-gymeradwyo er mwyn sicrhau y cynhelir ansawdd a safonau’r rhaglen.

Gellir newid modiwlau dewisol ar yr amod eu bod yn parhau i gefnogi strwythur ac athroniaeth gyffredinol y rhaglen radd. Gellir newid modiwlau craidd neu orfodol, ond y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd neu’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni fydd yn penderfynu a fydd y newidiadau arfaethedig yn newid natur gyffredinol y rhaglen radd ac yn effeithio ar yr integreiddiad cyfannol. Os bydd y newidiadau arfaethedig yn newid naws y rhaglen, yna bydd angen ail-gymeradwyo’r rhaglen er mwyn gweithredu’r newidiadau, gan ddibynnu ar raddfa’r newidiadau.  Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gallu’ch cynghori a’ch cefnogi o ran yr ymagwedd orau i’w chymryd.


Sut Ydwyf yn Diweddaru'r Fanyleb Rhaglen?

Dylid diweddaru’r Fanyleb Rhaglen drwy adran Cynnal a Chadw Gwybodaeth am Raglenni’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, yn yr un modd â diweddariadau blynyddol rheolaidd fel rhan o’r broses Adolygu Ansawdd.

Gweler yr adran Adolygu Ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am ddiweddaru’ch Manyleb Rhaglen ar y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni.


Beth y mae Angen i mi ei Wneud ar y System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni?

Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod y fanyleb rhaglen ar y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni’n cael ei diweddaru i adlewyrchu’ch newid (newidiadau) arfaethedig, a’i bod yn gyflawn ac yn gyfoes ym mhob agwedd arall*. Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi ddiweddaru a lanlwytho Strategaeth Asesu, Map Cwricwlwm a strwythur rhaglen ddiwygiedig a/neu  ffurflenni modiwlau newydd/diwygiedig.

Gweler yr adran Adolygu Ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am ddiweddaru’ch Manyleb Rhaglen ar y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni.

*Rydym yn gweithio i sicrhau bod gan y system gymaint o wybodaeth â phosib ar hyn o bryd, ond bydd rhai meysydd y mae angen eu diweddaru.


Pam oes Rhaid i mi Ddiweddaru'r Fanyleb Rhaglen ar Wahân?

Cynhelir y broses o Ddiwygio Rhaglenni Presennol ‘all-lein’ ar hyn o bryd, wrth i ni barhau i weithio ar y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni ar-lein ac rydym yn bwriadu ychwanegu’r broses o Ddiwygio Rhaglen Bresennol at y system ar-lein cyn gynted â phosib. Ar hyn o bryd, golyga hyn y bydd angen diweddaru’r Manylebau Rhaglenni ar-lein er mwyn cadw’r broses yn effeithlon, fel y byddech yn flynyddol fel rhan o’r broses Adolygu Ansawdd: Adolygiad Blynyddol Rhaglenni.

Rydym yn gweithio cyn gynted â phosib gyda’r Tîm Datblygu Systemau Busnes i integreiddio’n prosesau a’n systemau a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn y Côd Ymarfer hwn ac yn eich hysbysu pan fydd y system yn barod i’w lansio.


Pam na Allaf Gynnig Aiwygiadau i'm Rhaglenni Ar-lein?

Cynhelir y broses Diwygio Rhaglenni Presennol ‘all-lein’ ar hyn o bryd.  Rydym yn parhau i ddatblygu’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni ar-lein ac rydym yn bwriadu ychwanegu’r broses o Ddiwygio Rhaglen Bresennol cyn gynted â phosib. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn y Côd Ymarfer hwn ac yn eich hysbysu pan fydd y system yn barod i’w lansio.


Pwy sy'n Cymeradwyo Diwygiadau i Raglenni Presennol?

Cymeradwyir diwygiadau i raglenni presennol yn yr un modd â rhaglenni newydd drwy’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni (a Phwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg). Diben hwn yw sicrhau y cynhelir safonau cyson yn yr holl raglenni a newidir, ac y parheir i ysgogi gwella ansawdd ar bob adeg.

Yn achos rhaglenni diwygiedig, mae’r broses yn gynt gan fod y rhaglenni’n peri llai o risg i’r Brifysgol.


 

< Rheoli a Gwella’r Portffolio a Rhaglenni | Adolygiad Rhaglenni Blynyddol >

css.php