Adroddiadau Cyrff Proffesiynol


Pam mae Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol yn Adolygu Rhaglenni/Modiwlau?

Mae Cyrff Statudol a Rheoleiddiol Proffesiynol yn ymgymryd ag ymweliadau neu’n cynnal adolygiadau papur o ddarpariaeth academaidd i roi cydnabyddiaeth broffesiynol i fyfyrwyr neu raglenni mewn nifer o feysydd galwedigaethol. Mae manylion y cyrff achredu perthnasol ar gael ar dudalennau gwe y cyrsiau unigol:

http://www.swansea.ac.uk/undergraduate/courses/ 

http://www.swansea.ac.uk/postgraduate/taught/


Beth yw Ymglymiad y Brifysgol mewn Achrediad Proffesiynol?

Yn ystod digwyddiadau achredu proffesiynol yn y Brifysgol, gall y corff achredu ofyn am gynnwys cynrychiolwyr uwch y Brifysgol sy’n gyfrifol am ansawdd a safonau i esbonio, er enghraifft, bolisïau a chyfeiriad strategol y Brifysgol.

Erys y Brifysgol yn annibynnol wrth gynnal safonau academaidd darpariaeth ac mae’r achrediad proffesiynol yn cydnabod bod y ddarpariaeth yn diwallu’r meini prawf a bennwyd gan y Corff Proffesiynol. Efallai na fydd rhaglen yn bodloni’r meini prawf i gael cydnabyddiaeth, serch hynny, nid yw hyn yn golygu bod y cwricwlwm a phrofiad y myfyrwyr islaw’r safon. Caiff y rhain eu sicrhau ar wahân drwy broses gymeradwyo’r Brifysgol, monitro blynyddol ac adolygu cyfnodol.

Serch hynny, mae’r Brifysgol yn chwilio am sicrwydd bod Colegau/Ysgolion yn ymateb yn briodol i bryderon cyrff achredu proffesiynol ac yn ystyried materion a allai gael effaith sefydliadol.


Yr Amserlen Achredu

Mae’r Corff Proffesiynol yn cynnal cofrestr o gyfnod yr achrediad a fel arfer bydd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r Colegau/Ysgolion ynghylch dyddiadau penodol. Weithiau, ceir oedi a gohiriadau felly nid yw’r dyddiadau bob amser yn sefydlog.

Gofynnir i Golegau/Ysgolion roi gwybod i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd am amserlen benodol ar gyfer achrediad, yn arbennig ymweliadau gan Gyrff Proffesiynol.

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cadw cofnod canolog o’r cyfnod achredu. 


Sut mae Colegau/Ysgolion yn Craffu ar Adroddiadau gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio?

Rhaid i Golegau/Ysgolion ystyried adroddiadau’r Cyrff Proffesiynol yn eu strwythurau sicrhau ansawdd mewnol a, lle y bo’n bosib, yn eu fframwaith rheoli. Wrth ymgynghori â Choleg/Ysgol, bydd Pennaeth y Coleg/Ysgol yn ymateb yn brydlon i Adroddiad Corff Proffesiynol ac yn awgrymu camau gweithredu perthnasol i gael yr achrediad terfynol.

Yn dilyn cadarnhad fod yr achrediad wedi’i roi, rhaid i Bennaeth y Coleg/Ysgol neu ei gynrychiolydd ddarparu’r canlynol i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd:

• copi o Adroddiad y Corff Proffesiynol; ac
• ymateb i’r argymhellion, gydag amserlen (mewn fformat a nodir gan y Corff Proffesiynol).

Mae’r ymateb yn amlinellu’r camau gweithredu a gymerwyd/a gaiff eu cymryd o’r adroddiad achredu ac yn nodi unrhyw faterion sy’n gwahaniaethu rhwng materion sy’n berthnasol i’r Coleg/Ysgol ac i’r Brifysgol yn gyffredinol. Dylai arfer da ac effeithiol a gydnabuwyd gan y corff achredu hefyd gael ei nodi.


Monitro Parhaus o Statws Achrededig Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio

Rhaid i argymhellion a chamau gweithredu allweddol mewn ymateb i adroddiadau corff proffesiynol gael eu monitro a thrafodir cynnydd mewn adroddiadau adolygu rhaglenni blynyddol (APR).
Rhoddir cyngor ac arweiniad ar ddisgwyliadau ar gyfer monitro drwy’r broses APR.


Ar ôl craffu gan Gyrff Proffesiynol

Ar ôl pob digwyddiad achredu neu adolygiad desg, rhaid i Gyrff Proffesiynol gyflwyno adroddiad i’r Coleg/Ysgol sy’n cael ei archwilio gan amlinellu meysydd pryder, a chan nodi unrhyw ganmoliaeth. Unwaith bydd y Coleg/Ysgol wedi ymateb i’r pryderon i foddhad y Corff Proffesiynol, darperir cadarnhad ysgrifenedig sy’n nodi bod y rhaglenni astudio sy’n cael ei harchwilio wedi cael ei hachredu’n ffurfiol. Bydd y Corff Proffesiynol yn cadw cofnod o’r cyfnodau achredu cymeradwy a dyddiadau chyflwyno am achrediad yn y dyfodol.


Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gyfrifol am anfon manylion achrediadau i’r Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd.

Mae gan y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd swyddogaeth Rheoli Ansawdd. Mae’r pwyllgor yn berchen, yn cynnal ac yn adrodd am fframwaith rheoleiddio, sicrhau ansawdd a dysgu, addysgu ac asesu’r Brifysgol ar gyfer yr holl raglenni a addysgir ac ymchwil, gan gynnwys cyrff proffesiynol a statudol.

Mae’r Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd yn archwilio adroddiadau Corff Proffesiynol ac ymateb Coleg/Ysgol drwy eithriad i bennu a oes gan faterion effaith ehangach ar y Brifysgol gyfan a gall gynghori Cyrff Proffesiynol ar unrhyw weithredu y bydd y Brifysgol yn ei gymryd ynghylch y materion hyn.

Rôl arall sydd gan y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd yw nodi enghreifftiau o arfer da a lledaenu hyn yn y Brifysgol. Mae staff y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn ymgymryd â’r gwaith hwn ar y cyd â Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Colegau/Ysgolion.


Rôl y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd wrth Achredu gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cefnogi amryw Bwyllgorau Ansawdd y Brifysgol lle mae’r adroddiadau (a/neu faterion sy’n deillio ohonynt) yn cael eu cyfeirio ac yn cadw cofnodion yn ganolog o ran adroddiadau proffesiynol, ymatebion y Coleg/Ysgol a sylwadau sefydliadol.


Terfynau Cau Achredu Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio

Yn gyffredinol, nid oes terfynau cau sefydledig ar draws Colegau/Ysgolion pan ceir achrediadau, ac felly mae dyddiadau derbyn Adroddiadau Cyrff Proffesiynol yn amrywio.

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn anfon negeseuon atgoffa bob semester i Golegau/Ysgolion ac yn cysylltu â’r cysylltiadau perthnasol yn y Coleg/Ysgol ynghylch y trefniadau achredu.

Os bydd unrhyw broblemau’n codi o adolygiad, bydd y Corff Proffesiynol yn gofyn iddynt gael eu datrys mewn amserlen benodol cyn dyfarnu achrediad llawn. Fel arfer da, dylai Colegau/Ysgolion sy’n destun achrediad allanol anfon copïau o adroddiadau ac ymatebion y Corff Proffesiynol yn brydlon i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd. 


Materion sy'n galw am Weithredu Brys

Os oes materion sefydliadol sy’n galw am weithredu ar frys, dylai Colegau/Ysgolion gysylltu â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd a fydd yn cysylltu â’r Dirprwy Is-ganghellor (Academaidd) fel Cadeirydd y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd yn syth. Yna cymerir camau gweithredu priodol.


 

< Externality: The role of External Subject Specialists and Employers | Learning, Teaching and Assessment >

css.php