Cyflwyno eich Cynnig i Gael ei Adolygu

Cyn eich bod yn Cyflwyno eich Cynnig am Raglen

Cyn cyflwyno’r cynnig terfynol i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg, mae’n ddefnyddiol gofyn i gydweithiwr neu aelod o’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd adolygu’r rhaglen i adnabod unrhyw wendidau neu elfennau sy’n eisiau. Bydd hyn yn cyflymu’r broses gymeradwyo.


Am Beth Ddylwn i Chwilio Wrth Adolygu Cynnig cyn ei Gyflwyno?

Mae’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni wedi cyflwyno rhestri gwirio hefyd ar gyfer rhaglenni israddedig, ôl-raddedig, ymchwil a chydweithredol i gynorthwyo yn ystod y broses adolygu. Mae’r rhestri gwirio hyn ar gael i gynigwyr ac adolygwyr mewn Colegau eu defnyddio i fyfyrio arnynt wrth adolygu cynigion cyn eu cyflwyno. I grynhoi, dylai unrhyw adolygiad ystyried a yw’r rhaglen yn cyrraedd y safonau allanol gofynnol, wedi’i goleuo gan ddeilliannau cyflogaeth perthnasol ac yn cynnwys map cwricwlwm clir strategaeth asesu glir sy’n darparu dysgu effeithiol, cynhwysol a dilys.


Adolygu a Chyflwyno Cynnig

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r holl ddogfennau sy’n ofynnol ac wedi cwblhau’r holl adrannau perthnasol yn llawn ar y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, wedyn bydd angen i chi adolygu eich cynnig a’i gyflwyno i gael ei adolygu gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu eich Coleg (neu’r pwyllgor ansawdd lle y bo’n berthnasol).


Sut ydw i’n Cyflwyno Rhaglen i Gael eu Hadolygu a’i Chymeradwyo??

Unwaith y byddwch wedi adolygu eich cynnig a’ch bod yn hyderus ei fod yn gyflawn, sicrhewch ei fod yn cael ei gadw ac yna cliciwch ar ‘Cyflwyno i’w Dderbyn’ ar waelod y sgrîn PAM. Bydd hyn yn creu hysbysiadau awtomatig i sicrhau y bydd eich cynnig wedyn yn mynd trwy’r cam craffu cychwynnol ac yn cael ei adolygu.


Ble Mae Allanoldeb o Fewn y Broses?

Mae allanoldeb yn hanfodol i sicrhau ansawdd rhaglenni newydd ac mae’n ganolog i’r broses. Mae sawl lefel o allanoldeb yn ofynnol o fewn y broses Datblygu a Chymeradwyo Rhaglenni. Cyn cyflwyno rhaglen i gael ei hadolygu dylech sicrhau bod y cynnig cyfan wedi cael ei anfon at eich dewis Aseswr Allanol i gael ei adolygu ac ar gyfer sylwadau, ynghyd â ffurflen Adroddiad yr Aseswr Allanol. Hefyd, dylech geisio cysylltu â chyflogwyr yn ystod y cam datblygu, a darparu ffurflen Adroddiad Cyflogwr wedi’i chwblhau.  Efallai y bydd allanoldeb pellach yn ofynnol yn ystod y broses gymeradwyo, ond gwneir y penderfyniad hwn yn ystod y cam craffu cychwynnol yn seiliedig ar risg.


Ble Allaf ddod o hyd i Enghreifftiau o Arfer Da?

Mae enghreifftiau o arfer da o bob agwedd ar ddatblygu rhaglenni ar gael ar wefan SharePoint y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.


 

< Ysgrifennu Deilliannau Dysgu | Proses Cymeradwyo Rhaglenni >

css.php