Mae gan bob un o’r rhanddeiliaid mewnol gyfrifoldeb penodol yn y broses o datblygu Rhaglen gyda Phartner/ rhaglenni cydweithredol:
Y Gwasanaethau Ansawdd AcademaiddPwyllgor(au): Y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, y Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol, y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni, y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd a’r Pwyllgor Cynghori Academaidd
Yn gyfrifol am:
- Cymeradwyaethau (partneriaid a rhaglenni trwy bwyllgorau priodol);
- Ymholiadau Diwydrwydd Dyladwy ar gynigion cyfnewid;
- Craffu gan y BPC ar drefniadau cydweddu;
- Goruchwylio/ gwirio ymholiadau diwydrwydd dyladwy;
- Asesu Risg;
- Fframwaith ac adolygiad ansawdd y Brifysgol;
- Sicrhau Ansawdd Academaidd;
- Adolygiadau Ansawdd;
- Rheoli Prosiectau (ar y cyd â’r UCaPhS, fel y bo angen);
- Cynorthwyo Colegau/Ysgolion i ddatblygu rhaglenni, gyda rheoliadau a.y.b.;
- Atal rhaglenni a’u tynnu’n ôl;
- Llunio prosesau wedi’u disgrifio’n eglur.
Y Coleg/Ysgol
Pwyllgor(au): Pwyllgor Dysgu ac Addysgu a Phwyllgor Ymchwil y Coleg
Yn gyfrifol am:
- Cwblhau ffurflenni asesu risg rhagarweiniol ar gyfer cynigion cyfnewid myfyrwyr;
- Cwblhau ffurflen cynigion cyfnewid myfyrwyr newydd ar gyfer cynigion a arweinir gan golegau;
- Sicrhau bod Pwyllgor Dysgu ac Addysgu/ Ymchwil y Coleg/Ysgol (fel y bo’n briodol) yn cefnogi’r bartneriaeth arfaethedig;
- Llunio a chynnal Llawlyfr i Fyfyrwyr;
- Cynnal ymweliad â safle’r partner arfaethedig;
- Cwblhau adroddiad ar yr ymweliad â’r safle a’i gyflwyno i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd;
- Cael CVs ar gyfer staff addysgu perthnasol y partner arfaethedig a chael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg (trefniadau breiniol a threfniadau dilysu);
- Cynnal cyswllt â’r partner arfaethedig ynghylch creu adroddiad blynyddol (templed ar gael);
- Penodi Tiwtor Cyswllt (gan ddibynnu ar y math o gydweithio);
- Sefydlu Cyd-fwrdd Astudiaethau, gan ddibynnu ar y math o gydweithio;
Enwebu myfyriwr i eistedd ar y panel cymeradwyo.
Partner Cydweithredol
Yn gyfrifol am:
- Nodi pwy yn y darpar bartner sydd ag awdurdod i gymryd rhan mewn negodiadau a gwneud penderfyniadau swyddogol;
- Ymateb i ymholiadau diwydrwydd dyladwy a darparu dogfennau ategol pan ofynnir;
- Cynnal cyswllt â’r Coleg/Ysgol ynghylch creu adroddiad blynyddol (templed ar gael);
- Cynnal cyswllt â’r SDRh ar gyfer trefniadau cyfnewid myfyrwyr;
- Cynnal cyswllt â’r GPA ar gyfer trefniadau cydweithredol eraill.
Y Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd (GPA)
Pwyllgor(au): Y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, y Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol a’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni
Yn gyfrifol am:
- Cynnal cyswllt â’r tîm marchnata a’r SDRh i adnabod cysyniadau a chyfleoedd;
- Ymweliadau â Safleoedd ac adroddiadau;
- Cynorthwyo colegau gyda chynigion;
- Gweithio gyda cholegau i lunio achos busnes;
- Cynnal ymholiadau Diwydrwydd Dyladwy;
- Cynnal cyswllt â’r Gwasanaethau Cyfreithiol parthed contractau;
- Cynnal cyswllt â’r Adran Gyllid parthed ffioedd;
- Creu trefn Rhannu Cyfrifoldebau;
- Rheoli Cyd-ddoethuriaethau;
- Cynnal data partneriaid ar y gronfa ddata PC;
- Rheoli perthnasoedd â phartneriaid;
- Adnabod cyfleoedd ar gyfer cyllid;
- Coladu/cefnogi’r broses Adolygiad Blynyddol o Berfformiad.
Y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (GYYA)
Yn gyfrifol am:
Datblygu Ymchwil:
- Dod o hyd i gyllid;
- Datblygu Cynigion;
- Cyflwyno Cynigion;
- Dyfarniad/ Grant.
Gwasanaethau Prosiect:
- Cefnogi Prosiectau;
- Dirwyn Prosiectau i Ben;
- Masnacheiddio.
Y Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol, gan gynnwys Llywodraethu, Cydymffurfio a Chyfreithiol
Pwyllgorau: Y Senedd
Yn gyfrifol am:
- Anfon deddfwriaeth a chanllawiau’r UKVI;
- Anfon deddfwriaeth a chanllawiau’r Awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd;
- Anfon deddfwriaeth a chanllawiau GDPR
Y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol (SDRh)
Pwyllgor(au): Y Grŵp Rheoli Strategol Rhyngwladol a’r Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol
Yn gyfrifol am:
- Symudedd Myfyrwyr
- Marchnata a recriwtio cyfleoedd symudedd myfyrwyr;
- Cyrraedd targedau;
- Trefniadau cydweddu;
- Cynnal trefniadau symudedd a chyfnewid myfyrwyr cywir; data cytundebau ar y gronfa ddata PC;
- Cytundebau cyfnewid;
- Myfyrwyr cyfnewid ac astudio dramor sy’n Dod i Mewn ac yn Mynd Allan;
- Cynnal cyswllt â Chydlynwyr Academaidd;
- Monitro gweithgareddau cyfnewid;
- Rhestr Wylio o drefniadau cyfnewid.
Gellir cael y ffurflenni bob gan y Gwasanaethau Quality Academaidd: collaborative@swan.ac.uk.
< Datblygu Rhaglen gyda Phartner (Rhaglenni Cydweithredol) | Diffiniadau >