Dysgu, Addysgu ac Asesu

Beth yw Deilliant Dysgu?

Ystyr Deilliannau Dysgu yw datganiadau o’r hyn y bydd myfyrwyr wedi’i gyflawni ar ddiwedd sesiwn addysgu, modiwl neu raglen. Mae deilliannau’n canolbwyntio ar ddysgu myfyrwyr (beth fydd myfyrwyr yn ei ddysgu?) yn hytrach na’r addysgu (beth ydw i’n mynd i’w addysgu?). Dylai pob deilliant gynnwys tair elfen ganolog:

CONDITION

AMOD

Pryd y bydd disgwyl i fyfyrwyr gyflawni’r deilliant: ‘erbyn diwedd y wers/modiwl/rhaglen, bydd y myfyriwr yn gallu…

PERFFORMIAD 

Beth y mae’n RHAID i’r myfyriwr ei WNEUD i gyflawni’r Deilliannau Dysgu.

SAFON

Lefel academaidd y cyflawniad sy’n ofynnol (i adlewyrchu disgrifiadau lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch).


Sut mae ‘Deilliant’ Dysgu yn Wahanol i ‘Nod’?

Ystyr nod yw datganiad sy’n nodi bwriad y modiwl/rhaglen – yr hyn y mae’r modiwl/rhaglen yn bwriadu ei ddarparu ar gyfer y myfyriwr – ac mae’n canolbwyntio ar addysgu.

Mae Deilliant Dysgu yn nodi’r hyn y bydd y myfyriwr wedi ei gyflawni trwy gwblhau’r modiwl/rhaglen yn llwyddiannus ac mae’n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Enghraifft: “Nod y modiwl yw helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu rôl fel addysgwyr iechyd yn eu gwaith pob.


Sut ydw i’n Ysgrifennu Deilliant Dysgu?

Yn seiliedig ar dair elfen ganolog Deilliannau Dysgu: Amod, Perfformiad a Safon (gweler ‘Beth yw Deilliant Dysgu?’) mae tacsonomeg Bloom, Taxonomy of Educational Objectives (a gyhoeddwyd ym 1956 ac a ddiwygiwyd yn 2001) yn darparu ffordd o fynegi deilliannau dysgu mewn ffordd sy’n adlewyrchu sgiliau gwybyddol. Wrth ysgrifennu deilliannau dysgu, rhaid i chi gadw eich dulliau dysgu ac asesu arfaethedig mewn cof – efallai y byddwch yn canfod eich bod yn datblygu neu’n addasu’r rhain o ganlyniad i’ch gwaith ysgrifennu deilliannau.

Rhaid gallu cyflawni Deilliannau Dysgu o fewn y ffrâm amser a bennwyd – boed yn sesiwn addysgu, yn fodiwl neu’n rhaglen gyfan a dylent gael eu hysgrifennu gyda golwg ar yr egwyddorion CAMPUS (Gweler ‘Beth sy’n gwneud Deilliant Dysgu Da?’).

Mae’r fersiwn newydd o Dacsonomeg Bloom yn enghreifftio’r chwe lefel o sgiliau gwybyddol (o’r isaf i’r uchaf):

Gallwch ddefnyddio tacsonomeg Bloom i adnabod berfau i ddisgrifio dysgu myfyrwyr hefyd, fel a ddangosir yn y tabl isod.

 

Berfau i’w Hosgoi Wrth Ysgrifennu Deilliannau Dysgu

Mae rhai berfau i’w hosgoi wrth ysgrifennu deilliannau dysgu. Mae’r berfau hyn yn amwys ac yn aml ni ellir arsylwi arnynt na’u mesur. Er enghraifft, sut fyddech chi’n mesur a yw rhywun wedi “dod yn gyfarwydd ag” offeryn penodol neu’n “gwerthfawrogi” y pwnc? Defnyddiwch ferf fwy penodol y gellir ei dangos a’i hasesu. Os ydych am i fyfyrwyr “ddeall” rhywbeth, meddyliwch yn fwy manwl am yr hyn yr hoffech iddynt allu ei wneud neu ei gynhyrchu o ganlyniad i’w “dealltwriaeth”, ac ar ba lefel y bydd disgwyl iddynt ddangos hyn.


Faint o Ddeilliannau Dysgu Ddylai fod Gen i?

Nid oes unrhyw reolau o ran faint o ddeilliannau sy’n briodol i bob sesiwn addysgu, modiwl, rhaglen neu hyd yn oed pwynt credyd. Byddai unrhyw ymgais i safoni hyn yn ffug. Efallai y bydd gan rai modiwlau lawer o ddeilliannau y gellir eu cyflawni a’u hasesu’n gymharol rwydd. Efallai y bydd gan fodiwlau eraill, ar lefel uwch o bosibl, lai o ddeilliannau a’r rheiny’n fwy cymhleth ac yn anos i’w cyflawni a’u dangos.

Fodd bynnag, rhaid gallu cyflawni’r holl Ddeilliannau Dysgu o fewn ffrâm amser y sesiwn, modiwl neu raglen a dangos hynny trwy’r dulliau asesu a ddisgrifir. Gall Deilliannau Dysgu ar gyfer sesiynau addysgu fod yn benodol i bob elfen o addysgu, ond dylai deilliannau modiwlaidd gael eu cadw’n fwy cyffredinol. Dylai Deilliannau Dysgu ar Lefel y Rhaglen fod ar y lefel uchaf, a dylid cymryd gofal er mwyn sicrhau bod y deilliannau hyn yn adlewyrchu natur y rhaglen a’r maes pwnc, a darparu’r sgiliau y mae ar fyfyrwyr eu hangen ar gyfer eu dewis bwnc. Dylai deilliannau’r sesiwn addysgu a’r modiwl adlewyrchu deilliannau’r rhaglen ar y cyfan, a ddylai gael eu dangos yn glir trwy fap cwricwlwm.


Beth sy’n Gwneud Deilliant Dysgu da?

Mae deilliant dysgu da’n glir, yn uniongyrchol a hefyd CAMPUS: Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol. Dylai fod yn glir i fyfyrwyr beth mae’n rhaid iddynt ei gyflawni, ar ba lefel ac erbyn pryd – a sut y bydd hyn yn cael ei ddangos/asesu.

Caiff Deilliannau Dysgu Da eu hysgrifennu gan ddefnyddio iaith a sgiliau y gellir eu cyflawni’n eglur o fewn y ffrâm amser ac sy’n diffinio’r lefel cyflawniad yn effeithiol, gan fod wedi’u halinio â’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.

Gall Deilliannau Dysgu da gael eu hasesu gan ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau asesu i sicrhau hyblygrwydd a chynwysoldeb i’r holl fyfyrwyr, a fydd yn eu galluogi i ddangos eu sgiliau a’u dulliau dysgu eu hunain yn effeithiol.

Nid yw Deilliannau Dysgu da’n defnyddio disgrifiadau amwys neu anfesuradwy, megis y rhai a restrir isod:

  • Deall
  • Gwerthfawrogi
  • Gwybod am
  • Dod yn gyfarwydd â
  • Dysgu am
  • Dod yn ymwybodol o

Sut ydw i’n Defnyddio Deilliannau Dysgu i Wella fy Addysgu?

Pan fo gennych ddeilliannau dysgu pendant a phenodol gallwch ddefnyddio’r deilliannau dysgu hynny i asesu dysgu myfyrwyr trwy daflenni gwaith neu bapurau munud neu fathau arloesol eraill o ddulliau asesu megis profion clicwyr, lle mae myfyrwyr yn dangos eu bod wedi cyflawni’r deilliant dysgu.

Bydd Deilliannau Dysgu clir ac effeithiol a ddangosir ar Fap Cwricwlwm yn eich helpu i nodi unrhyw fylchau neu ailadrodd yn eich addysgu ac yn eich galluogi i ddatblygu strategaeth asesu glir i sicrhau bod yr holl ddeilliannau’n cael eu dangos yn effeithiol heb or-asesu myfyrwyr. Bydd hyn hefyd yn eich galluogi i wella dyluniad y cwricwlwm trwy ddefnyddio cwricwla troellog ac elfennau asesu ffurfiannol i wella’r dysgu gan fyfyrwyr.


Sut mae Deilliannau Dysgu yn Goleuo fy Ngweithgarwch Dysgu?

Mae Deilliannau Dysgu clir ar gyfer sesiynau addysgu’n eich galluogi i ddeall yr hyn y mae disgwyl i chi ei ddysgu o bob sesiwn, a gallant eich helpu i dargedu gwaith darllen ychwanegol i ddyfnhau eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth am y maes pwnc. Byddant hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer asesu ac arholiadau trwy eich galluogi i ganolbwyntio eich gwaith adolygu ar yr hyn y mae disgwyl i chi ei gyflawni ar ddiwedd y rhaglen neu’r modiwl.

Gall Deilliannau Dysgu eich helpu i ymgysylltu â’r broses o ddylunio a gwella modiwlau a’ch cwrs hefyd lle’r ydych yn teimlo bod unrhyw ddeilliannau heb eu diffinio neu heb gael eu cynnwys yn ddigonol trwy addysgu neu asesu.


Ble Allaf Ddod o hyd i Ddeilliannau Dysgu ar Gyfer fy Nghwrs Neu Fodiwl?

Byddwch yn gallu dod o hyd i’r Deilliannau Dysgu ar gyfer eich Rhaglen a’ch Modiwlau yn eich Llawlyfr Myfyriwr a/neu drwy’r tudalennau perthnasol ar Blackboard.

Mae rhai meysydd pwnc yn pennu Deilliannau Dysgu ar gyfer pob sesiwn addysgu – mae hyn yn cael ei annog er mwyn eich helpu i drefnu eich gweithgarwch dysgu. Dylai’r rhain gael eu darparu ar eich cyfer cyn neu ar ddechrau’r sesiwn.


Deilliannau Dysgu Enghreifftiol

Arfer Da

Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Llunio datganiad chwilio gan ddefnyddio geirfa benodedig a pherthnasol i’r testun er mwyn chwilio cronfeydd data mewn modd mor effeithiol â phosibl.
  • Datblygu geirfa sy’n berthnasol i’r testun er mwyn chwilio cronfeydd data mewn modd mor hyblyg ac effeithiol â phosibl.
  • Disgrifio strwythur a threfniadaeth yr ymennydd mewn perthynas â thestunau allweddol straen, gordewdra a phoen
  • Cydnabod, defnyddio a diffinio termau allweddol mewn niwrowyddoniaeth
  • Trafod rôl genynnau a’r cydadwaith rhwng genynnau a’r amgylchedd a sut y maent yn dylanwadu ar weithrediad yr ymennydd ac ymddygiad
  • Cymhwyso egwyddorion sylfaenol seicoffarmacoleg mewn perthynas â chyffuriau hamdden
  • Gwerthuso’r prif systemau ymenyddol sy’n tanategu rheolaeth emosiynol

Mae’r deilliannau hyn yn glir, wedi’u diffinio’n dda, wedi’u cysylltu â lefelau astudio priodol a gellir eu hasesu mewn ystod o wahanol ffyrdd i sicrhau bod asesu yn hyblyg ac yn gynhwysol i’r holl fyfyrwyr.

Arfer Gwael

Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Deall pwysigrwydd damcaniaeth rheoli a threfniadaethol i gyd-fynd ag effeithiolrwydd
  • Bod yn ymwybodol o werth cynllunio cyfalaf a masnachol da.
  • Gwerthfawrogi pwysigrwydd Rheoli Ansawdd a’r amryw ddulliau o sicrhau ansawdd ar gyfer cwsmeriaid mewn gweithgynhyrchu traddodiadol ac yn y dulliau cydosod cyfansawdd.

Nid yw’r deilliannau hyn wedi’u diffinio’n dda, nid ydynt wedi’u cysylltu’n glir â lefel astudio na chyflawniad ac nid ydynt yn cynnwys mecanwaith clir ar gyfer asesu.


 

< Dylunio, Datblygu a Chymeradwyo Rhaglenni Astudio Newydd | Cyflwyno eich Cynnig i Gael ei Adolygu >

css.php