Pobl i siarad â nhw:
Sharon Harvey, Athro Cyswllt – Coleg Y Gwyddorau Dynol Ac IechydMae Sharon yn cymryd rhan yn Rhaglen Drws Agored y Brifysgol, sy’n cael ei chydlynu gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT). Defnyddiwch y ddolen ganlynol os oes diddordeb gennych mewn arsylwi ar ddulliau Sharon.
Tom Hewes, Uwch-ddarlithydd Gwyddor Barafeddygol – Coleg y Gwoddorau Dynol ac Iechyd:
Cofiwch yr hanfodion!
Mae Tom yn credu mewn bod yn gadarnhaol ac amrywio ei ymagwedd at feithrin perthnasoedd:
“Rwy’n credu y dylem ni wrando’n astud ar ein myfyrwyr. Dylem amrywio’r dulliau cyflwyno a ddefnyddiwn wrth addysgu a theilwra ein deunydd i’r gynulleidfa benodol. I roi bach o liw i’n sesiynau, gallwn ddefnyddio lluniau, fideos, deunyddiau sain ac astudiaethau achos lle bo’n bosib. Dylem newid traw ein lleisiau ac annog a bod yn gadarnhaol bob amser. Wrth gyflwyno, rwy’n credu y dylem ni symud o amgylch yr ystafell ddosbarth a defnyddio enwau’r myfyrwyr, gofyn cwestiynau iddynt yn uniongyrchol ac fel grŵp.”