Cynnwys a darpariaeth Gymraeg ar y Platfform Dysgu Digidol (DLP)

Cefndir

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn ddogfen ategol i Bolisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau Platfform Dysgu Digidol y Brifysgol (diweddariad 2020-21), a darparu arweiniad pellach i staff academaidd a gweinyddol Prifysgol Abertawe sy’n cyflwyno neu’n cefnogi cynnwys naill ai yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Nod y canllawiau hyn yw amlinellu’n glir y disgwyliadau ar gyfer cynnwys ar y Platfform Dysgu Digidol er mwyn cefnogi dewis iaith astudio’r myfyriwr. Mae CCAUC (HEFCW) a’r Coleg Cymraeg yn mesur gweithgarwch myfyrwyr yn Gymraeg drwy gredydau, gan ddefnyddio 5 credyd, 40 credyd ac 80 credyd gradd fel trothwyau targed. Nod y ddogfen hon yw sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn profiad cyfartal wrth astudio yn Gymraeg ar draws y disgyblaethau a bod eu hamgylchedd gweithio yn y Platfform Dysgu Digidol yn cael ei ddarparu’n ddigonol yn Gymraeg neu’n ddwyieithog er mwyn cyd-fynd â’r iaith astudio o’u dewis.

Bydd holl Egwyddorion Craidd a chanllawiau a ddarperir gan Bolisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau Platfform Dysgu Digidol presennol y Brifysgol yn berthnasol i’r rhai sy’n addysgu ac yn astudio yn Gymraeg, ac mae’r canlynol yn darparu rhagor o fanylder ynghylch disgwyliadau. Darparwr Platfform Dysgu Digidol presennol Prifysgol Abertawe yw Canvas, ac mae’r canllawiau hyn yn mynd i’r afael â’r derminoleg neu’r cyfleusterau sydd ar gael drwy’r Platfform Dysgu Digidol penodol hwn.

Mae’r tabl canlynol yn amlinellu’r gwahanol ddulliau cyflwyno fesul iaith sydd ar gael yn y ddarpariaeth y mae Prifysgol Abertawe yn ei chynnig. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio o fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl yn Gymraeg, i’r rhai a addysgir yn Saesneg yn bennaf gyda pheth cymorth ar gael yn Gymraeg. Gwahoddir i gydlynwyr modiwlau ystyried y canllawiau sydd fwyaf priodol ar gyfer y math o ddarpariaeth ar gyfer pob un o’u modiwlau.

Amlinellir canllawiau pellach isod ynghylch paratoi gwahanol elfennau’r cwrs i gefnogi myfyrwyr sy’n dysgu yn Gymraeg:

Elfen y Cwrs

Gwybodaeth bellach

Cyfrifol

 

 

 

 

Iaith Rhyngwyneb y DLP

Ceir arweiniad Canvas ynghylch sut i osod iaith cwrs o’ch dewis yma: https://community.canvaslms.com/t5/Student-Guide/How-do-I-change-the-language-preference-in- my-user-account-as-a/tap/436

Fodd bynnag, os bydd aelod o staff yn gosod dewis iaith ar gyfer ei gwrs, bydd yn diystyru dewis iaith y defnyddiwr. Felly, yn y rhan fwyaf o achosion cynghorir i gydlynwyr modiwlau a addysgir yn ddwyieithog beidio â gosod y dewis iaith a’i adael fel “Not set (user configurable defaults to English UK)”. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i ddewis iaith eu rhyngwyneb. Ceir rhagor o ganllawiau yma: https://community.canvaslms.com/t5/Instructor-Guide/How-do-I-change-the-language-preference-for- a-course/tap/1246

 

 

 

 

Cydlynydd y Modiwl

Croes-restru modiwlau ar DLP (rhiant/plentyn)

Mae croes-restru cyrsiau yn galluogi cydlynwyr modiwlau i bostio cynnwys mewn un gragen a fydd yn cyrraedd mwy nag un garfan o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda chodau modiwl penodol. Er bod hyn yn galluogi cydlynwyr modiwlau i sicrhau’r un mynediad at ddeunyddiau ar gyfer pob myfyriwr, ac yn dod â charfannau at ei gilydd i rannu profiad addysgu ac yn lleddfu llwyth gwaith staff i raddau, mae’n bwysig bod profiad y myfyrwyr i bawb yn dal i fod yn ystyriaeth allweddol ac nad yw defnyddio un iaith yn diystyru’r llall.

Dylid cyflwyno ceisiadau am groes-restru cyrsiau drwy’r ddesg wasanaeth cyn gynted ag y bydd cregyn cyrsiau ar gael i’r aelod o staff ar Canvas, a chyn creu cynnwys yn y cregyn. Dylid croes-restru pan fydd y cyrsiau heb eu cyhoeddi. Cedwir gwaith cwrs gyda’r cwrs, nid gyda’r cofrestriadau am adrannau, felly os caiff cwrs cyhoeddedig ei groes-restru, bydd pob cofrestriad wedi’i groes-restru yn colli cyflwyniadau a graddau aseiniadau cysylltiedig.

Cydlynydd y Modiwl

Trosolwg o Gyrsiau Canvas

Mae angen cysylltu gwybodaeth am y modiwl/cwrs gan gynnwys trosolwg, maes llafur, oriau cyswllt a deiliannau dysgu â’r catalog modiwlau (SITS) drwy dudalen trosolwg y cwrs. Er mwyn galluogi’r wybodaeth i ymddangos yn Gymraeg ar Canvas, mae angen i’r wybodaeth fod yn Gymraeg ar SITS.

Cydlynydd y Modiwl

Modiwlau a addysgir gan dimau

Dylai pob modiwl a addysgir gan dimau, na chânt eu haddysgu’n gyfan gwbl yn Gymraeg, restru’r cyfranwyr at y modiwl ac yn benodol yr aelod o staff a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer y myfyrwyr sy’n astudio yn Gymraeg.

Anogir i’r tîm addysgu gynnwys fideo byr o bob aelod er mwyn iddynt gyflwyno eu hunain, y pynciau y byddant yn eu haddysgu ar y cwrs, a’u diddordebau ymchwil. Dylid recordio’r rhain yn Gymraeg neu’n ddwyieithog gan staff sy’n addysgu yn Gymraeg ar gwrs.

Cydlynydd y Modiwl a Darlithydd/Darlithwyr

Asesu yn Gymraeg

Dylid creu ardal ar wahân yn ‘Trosolwg o’r Cwrs’ er mwyn amlinellu’n glir yn Gymraeg ac yn Saesneg beth yw’r gofynion asesu. Hefyd, dylai’r datganiad egluro i fyfyrwyr bod modd iddynt gyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg a darparu gwybodaeth am y broses o ran rhoi gwybod i’r adran am eu dewis. Mae rhagor o fanylion am y weithdrefn ar gael: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd- academaidd/rheoliadau-academaidd/asesu-a-chynnydd/asesu-ac-arholiad-mewn-iaith-arall/

Cydlynydd y Modiwl

 

Dylai cwestiynau, cyfarwyddiadau neu ganllawiau ynglŷn ag aseiniad, neu’r matrics marcio etc ar gyfer pob cydran asesu, fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dylid gosod cwisiau sy’n gofyn am atebion testun rhydd ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond gellir gosod cwisiau gydag atebion aml-ddewis yn ddwyieithog gyda’r cwestiynau a’r atebion yn cael eu darparu yn y ddwy iaith ochr yn ochr. Dylai cydlynwyr modiwlau gymryd gofal i beidio â chynnwys rhagofyniadau i fyfyrwyr gwblhau cwis mewn un iaith a allai eu hatal rhag symud ymlaen ar y prawf os na chaiff ei gwblhau yn yr iaith arall hefyd. Gall SALT roi cyngor ar osodiadau er mwyn osgoi’r sefyllfa hon.

 

Byrddau Trafod Canvas

Er bod byrddau trafod yno i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu â chynnwys eu modiwlau, eu darlithwyr neu eu cydfyfyrwyr yn yr iaith o’u dewis, dylai cydlynwyr modiwlau a darlithwyr ystyried y ffordd orau o hybu defnyddwyr i bostio yn y naill iaith neu’r llall, neu’r ddwy.

Cydlynydd y Modiwl

Canllawiau’r Llyfrgell

Dylai cyfranwyr at y modiwlau sicrhau y caiff ffynonellau Cymraeg perthnasol eu cynnwys yng nghanllawiau’r llyfrgell.

Dylid atgyfeirio a chynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer cael mynediad at adnoddau perthnasol ar Y Porth (Platfform Dysgu Digidol Cymraeg Cenedlaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Cofiwch y bydd adnoddau ar gael yn Gymraeg i fyfyrwyr ar Y Porth hyd yn oed os nad addysgir pwnc neu gwrs penodol yn Gymraeg.

Cydlynydd y Modiwl a Darlithydd/Darlithwyr

Hygyrchedd

Mae gwneud eich adnoddau’n hygyrch i rai myfyrwyr, yn enwedig y rhai sydd ag anawsterau dysgu penodol a/neu anableddau, yn gwella hygyrchedd i bawb a bydd yn lleihau nifer yr addasiadau unigol y bydd angen eu gwneud. Drwy ddilyn yr arweiniad isod, gallwch ddechrau gwneud addasiadau rhesymol i’r deunyddiau dysgu ac addysgu rydych chi’n eu darparu i fyfyrwyr, beth bynnag eu dewis iaith, cyn i angen penodol godi.

Gweler Canllaw’r Brifysgol i Hygyrchedd ar gyfer Adnoddau Dysgu ac Addysgu sydd wedi’i greu gan SAILS.

Cydlynydd y Modiwl a Darlithydd/Darlithwyr

Turnitin

Os cyflwynir modiwl yn ddwyieithog, dylai canllawiau fod ar gael yn y ddwy iaith ynghylch sut i gyflwyno pob cydran asesu drwy Turnitin, ac yn Gymraeg yn unig os addysgir y modiwl yn gyfan gwbl yn Gymraeg.

Timau Asesu’r Gyfadran/Cydlynydd y Modiwl

Cofrestru ar fodiwl

Dylai rhaglenni sicrhau bod myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y côd modiwl cywir yn unol â’r iaith o’u dewis. Ni all y Brifysgol gyfleu profiad dysgu ei myfyrwyr yn Gymraeg yn gywir drwy ddata HESA os nad yw’r myfyriwr wedi’i gofrestru ar gôd modiwl sy’n cofnodi cynnwys Cymraeg. Sicrhewch nad yw myfyrwyr sy’n astudio yn Gymraeg wedi cofrestru ar fersiwn Saesneg y modiwl, oherwydd byddai hyn yn golygu na fyddem ni’n eu gweld wrth gasglu data.

Timau cymorth myfyrwyr y gyfadran/Cydlynydd y Modiwl

 

css.php