Egwyddor Arweiniol 6
Mae prosesau llunio, datblygu a chymeradwyo cyrsiau’n arwain at ddogfennau cyrsiau pendant.
Dylai prosesau cymeradwyo sicrhau bod dogfennaeth cyrsiau bendant yn cael ei llunio’n gywir ac yn deg, gan ddisgrifio’r cyfleoedd dysgu, y deilliannau myfyrwyr a’r gefnogaeth a gynigir. Mae darparwyr yn gyfrifol ac yn atebol am yr wybodaeth maent yn ei llunio, ynghyd â sicrhau bod dogfennaeth cyrsiau bendant yn parhau i fod yn gyfredol ac yn dryloyw a’u bod yn canolbwyntio ar y cynulleidfaoedd arfaethedig a’u bod yn cydymffurfio â gofynion allanol neu gyfreithiol.