Egwyddor Arweiniol 2

“Mae prosesau hygyrch a hyblyg ar gyfer llunio, datblygu a chymeradwyo cyrsiau’n hwyluso gwelliant parhaus o ran darpariaeth ac maent yn gymesur â risgiau. Dylai prosesau llunio a datblygu cyrsiau fod yn syml ac yn gyfatebol â lefel y risg a nodir. Mae hyn yn annog staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i ymgysylltu mewn modd adeiladol ac mae’n cefnogi’r gwaith o wella cyrsiau’n barhaus. Gellir cefnogi ymgysylltu’n effeithiol drwy ddarparu gwybodaeth hygyrch sy’n rhoi manylion am gamau allweddol, amserlenni, rolau a chyfrifoldebau, ynghyd â dolenni i ddeunydd mewnol/allanol y gellir cyfeirio atynt.”

css.php