Egwyddor Arweiniol 1
Mae goruchwylio strategol yn sicrhau bod prosesau a deilliannau llunio, datblygu a chymeradwyo’n parhau i fod yn gyson ac yn dryloyw. Yn ogystal â sicrhau safonau ac ansawdd eu cyrsiau, mae darparwyr yn sicrhau bod eu portffolio academaidd yn adlewyrchu eu cenhadaeth a’u hamcanion strategol.
Mae goruchwylio strategol yn galluogi darparwyr i osod cyfeiriad eglur a hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o brosesau a deilliannau llunio, datblygu a chymeradwyo cyrsiau. Mae’n galluogi darparwyr i oruchwylio’r broses o integreiddio agweddau academaidd, ac agweddau sy’n ymwneud â busnes, ar y broses o gymeradwyo cyrsiau mewn modd gwrthrychol.