Mae’r Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau (y cyfeirir ato’n aml fel ABM) yn hanfodol o ran gwella rhaglenni’n barhaus, cyfleoedd dysgu a dyfarniadau a roddir gan y Brifysgol ac sy’n ategu profiad y myfyrwyr. Yn 2016, gwellwyd y broses Adolygiad Blynyddol o Raglenni i adlewyrchu’r strwythur a’r data a ddefnyddiwyd fel rhan o’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, gan sicrhau bod meysydd pynciau a rhaglenni wedi’u cysylltu â’r amgylchedd allanol cenedlaethol a rhyngwladol.
Erbyn hyn, mae’r Adolygiad Blynyddol o Raglenni’n defnyddio ymagwedd fwy rhagweithiol at reoli’r broses o adolygu rhaglenni drwy gydol y flwyddyn ac mae hon yn cyd-fynd â rhyddhau dangosyddion perfformiad allweddol ac elfennau cydymffurfiaeth. Fodd bynnag, er bod y broses wedi’i hysbysu gan ddata a dadansoddiad risg, ni fydd yn colli’i sylfaen ansoddol ac adlewyrchol graidd o ran sicrhau ansawdd ar sail gwella, adolygu a datblygu’r cwricwlwm a chyflwyno profiad eithriadol i fyfyrwyr, sydd wrth wraidd y broses hon.
Mae proses yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni’n darparu fframwaith defnyddiol i feysydd pynciau adolygu a ffurfioli gwelliannau ac ymarfer adlewyrchol presennol, ac mae’n cynnig dogfen ffurfiol a chydlynol ar gyfer ystyried amrywiaeth o ddata presennol (gan gynnwys adroddiadau gan Arholwyr Allanol, adborth gan fyfyrwyr, nifer y myfyrwyr a dderbynnir, dilyniant a chwblhau, canlyniadau asesu, deilliannau a chyflogadwyedd graddau) er mwyn ysgogi gwelliant parhaus ym mhrofiad y myfyrwyr.
Bwriad yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni yw bod yn ymarfer monitro a gwerthuso parhaus â’r nod o wella, yn hytrach nag ymarfer ‘ticio blychau’ sy’n cynyddu’r baich o ran llwythi gwaith academaidd. Hysbysir yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni gan Gyngor ac Arweiniad Côd Ansawdd yr ASA ar Fonitro a Gwerthuso.
Diben yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni
Hysbysir yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni gan Gyngor ac Arweiniad Côd Ansawdd yr ASA ar Fonitro a Gwerthuso.
Diben yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni yw:
- Sicrhau bod rhaglenni a chwricwla’n parhau i fod yn ddilys, gan ystyried Meincnodi Pwnc diwygiedig yr ASA, datblygiadau yn y sector a’r maes pwnc a/neu ymchwil ac ymarfer diweddar, wrth iddynt barhau i gyflwyno yn unol â’u deilliannau dysgu arfaethedig.
- Sicrhau ansawdd a chysondeb profiad y myfyrwyr a sicrhau bod myfyrwyr yn cyfrannu’n llawn at lunio ac adolygu’r holl raglenni astudio mewn partneriaeth â staff academaidd.
- Sicrhau bod mentrau a datblygiadau allweddol y Brifysgol wedi’u hymgorffori’n llawn ar draws yr holl raglenni a’u hadolygu fel y bo’n briodol.
- Myfyrio ar gwricwla, rhaglenni a modiwlau presennol, a gwerthuso a gwella’r rhain, gan ddefnyddio gwybodaeth allweddol am reoli i hysbysu ymarfer.
- Nodi ymarfer neu arloesedd sy’n werth ei lledaenu a thynnu sylw’r sefydliad at faterion sydd o ddiddordeb iddo neu sy’n peri pryder iddo.
- Sicrhau yr ymgymerir â chamau gweithredu priodol i ymdrin â diffygion a nodir gan y Coleg/Ysgol, y Sefydliad neu’r Cyrff Allanol.
Ceir rhagor o arweiniad ar broses yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni yn nogfen Cwestiynau Cyffredin yr adran hon.
Camau Gweithredu Gofynnol:
- Rhaid i chi adolygu’r holl raglenni astudio rydych yn eu cyfarwyddo fel Cyfarwyddwr Rhaglen, gan ddefnyddio’r data a ddarperir a ffynonellau eraill o wybodaeth sydd ar gael.
- Cwblhewch adrannau perthnasol proses yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni yn ystod adegau allweddol drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio ffurflen yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni.
- Gwnewch yn siŵr bod yr holl gamau gweithredu a godir o ganlyniad i’r Adolygiad Blynyddol o Raglenni wedi’u cofnodi yng Nghynllun Camau Gweithredu’r Coleg/Ysgol ar gyfer Profiad y Myfyrwyr.
< Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau | Eglurhad ar y Broses Adolygu Ansawdd >