Gall y gwaith o sefydlu partneriaeth gydweithredol newydd gynnwys nifer o randdeiliaid mewnol (gweler y tabl isod), gan ddibynnu ar natur y cydweithio. Rhaid i’r holl bartneriaethau cydweithredol arfaethedig gael cefnogaeth Pwyllgor Dysgu ac Addysgu neu Bwyllgor Ymchwil y Coleg, fel y bo’n briodol, cyn y gall y cynnig symud ymlaen i ystyriaeth sefydliadol.
Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cydweithio’n agos gyda’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd, y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi a Thîm Gwasanaethau Cyfreithiol y Brifysgol i gynorthwyo Colegau ac Ysgolion i ddatblygu, cymeradwyo ac adolygu partneriaethau cydweithredol.
Mae’r canlynol yn Dangos y Drefn o Rannu Cyfrifoldebau Rhanddeiliaid:
Rhaid i gynigion gyda phartneriaid cydweithredol gwblhau’r prosesau ychwanegol canlynol hefyd:
- Datganiad o Ddiddordeb
- Diwydrwydd Dyladwy ar bartner(iaid)
- Adroddiad ar Ymweliad â’r Safle
- Asesiad Risg
- Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
- Cytuno ar Faterion Ariannol, Cyfreithiol a Rheoleiddiol
- Memorandwm Cytundeb
- Cymeradwyo Rhaglenni
< Y Cam Cymeradwyo: Ar ôl Cymeradwyo | Dangos y Drefn o Rannu Cyfrifoldebau Rhanddeiliaid >