Egwyddor Arweiniol 7

Caiff prosesau llunio, datblygu a chymeradwyo eu hadolygu a’u gwella.

Mae darparwyr yn sicrhau bod prosesau llunio, datblygu a chymeradwyo’n parhau i fod yn effeithiol a’u bod yn parhau i gyfrannu at wella’r ddarpariaeth a gynigir (gweler hefyd y Thema Monitro a Gwerthuso). Yn ystod prosesau gwerthuso, gall darparwyr ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys adborth gan staff, gwasanaethau proffesiynol, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol. Ceir hefyd gyfleoedd i nodi a meincnodi yn erbyn arfer gorau’r sector.

css.php