Pobl i siarad â nhw:
Sean Walton, Uwch-ddarlithydd yn y Ffowndri Gyfrifiadol – y Coleg Gwyddoniaeth:Datblygu ymdeimlad o gymuned mewn grwpiau mawr
Dyma Sean yn disgrifio’r gwaith a arweiniodd i’w Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn 2016:
“Derbyniais i wobr rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu yn 2016 am fy ngwaith yn cyflwyno modiwl sylfaen yn y Coleg Peirianneg. Roedd llawer o’r myfyrwyr ar y cwrs hwnnw naill ai wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar neu’n bobl nad oeddent wedi cael addysg ffurfiol am gryn dipyn o amser. Fy mhrif nod oedd pontio’r bwlch rhwng arddull fwy socrataidd addysgu mewn ysgolion i’r arddull ddidactig sy’n fwy cyffredin mewn prifysgolion.
Er mwyn gwneud hyn, rwy’n rhannu addysgu bob wythnos yn ddwy ran. Yn y sesiwn gyntaf, rwy’n cyflwyno darlith i grŵp mawr ac yn yr ail sesiwn, rwy’n cynnal dau ddosbarth enghreifftiol, un ar gyfer pob hanner o’r grŵp. Mae rhannu’r dosbarth fel hyn yn fy ngalluogi i siarad â phob myfyriwr unwaith yr wythnos, hyd yn oed os dim ond ‘helô, sut mae pethau’n mynd?’ oedd hi. Drwy wneud hyn, roeddwn i’n gallu meithrin ymddiriedaeth rhyngof i a’r myfyrwyr, ac mae hynny’n rhywbeth sydd bron yn amhosib i’w wneud wrth addysgu grwpiau mawr, gan olygu y gallwn i eu gwthio gyda chwestiynau anodd.
Mae rhannu’r grŵp yn y ffordd hon hefyd yn fy ngalluogi i osod tasgau asesu ffurfiannol wythnosol, wedi’u marcio’n anffurfiol gan gymheiriaid, heb ychwanegu at fy llwyth gwaith. Yn ogystal, ceisiais ddatblygu ymdeimlad o gymuned a chydweithrediad yn y dosbarth drwy annog myfyrwyr i ddod i’m gweld yn ystod oriau swyddfa mewn grwpiau bach a gweithio ar y cyd mewn dosbarthiadau enghreifftiol. Nid yn unig y gwnaeth hyn leihau fy llwyth gwaith, ond helpodd i fynd i’r afael â’r broblem o wahaniaethu, gan fod y bwlch dealltwriaeth rhwng myfyrwyr y dosbarth yn enfawr. Drwy feithrin ymdeimlad o gymuned, rhoddodd myfyrwyr y gorau i gystadlu yn erbyn ei gilydd a dechreuon nhw gefnogi ei gilydd yn lle.”
Dyma Sean yn disgrifio’r effaith hirdymor ar ei ymarfer:
“Daeth dwy wers allweddol i’r amlwg o hyn. Yn gyntaf, y syniad nad yw darlithoedd yn effeithiol ar eu pennau eu hunain ac, yn aml, gall ymdeimlad o gymuned ac ymddiriedaeth gael effaith rymusol ar ddysgwyr. Yr ymdeimlad o gymuned yw’r ffactor pwysicaf mwy na thebyg. Un peth y sylwais i arno pan ddechreuais fy rôl yn yr Adran Gyfrifiadureg oedd bod gan fyfyrwyr ofn gweithio gyda’i gilydd a helpu ei gilydd o ganlyniad i’r dulliau datgelu llên-lladrad a ddefnyddiwn. Rwy’n treulio cryn dipyn o amser yn ceisio lleihau’r ofn hwnnw ar ddechrau’r flwyddyn. Gwers allweddol arall oedd nid yw cymunedau ar-lein yr un mor effeithiol ag y maent yn ymddangos. Yn aml, mae ganddynt effaith negyddol ar feithrin ymdeimlad o gymuned gan eu bod yn galluogi myfyrwyr i bostio’n ddi-enw. Yn debyg iawn i rwydweithiau cymdeithasol, megis Twitter a Reddit, mae hyn yn ennyn naws negyddol a gelyniaeth, ac nid yw hyn yn dda ar gyfer amgylchedd dysgu. O ganlyniad, mae’n hanfodol annog myfyrwyr i fynychu sesiynau labordy a siarad â’i gilydd yn bersonol.“
Jafar Ojra, Uwch-ddarlithydd – Yr Ysgol Reolaeth
Mae Jafar yn adnabyddus am ei ddull o ennyn tawelwch meddwl a bod yn hawdd mynd ato. Dyma ei fyfyrwyr yn disgrifio ei ymagwedd ymroddedig a arweiniodd at ddyfarnu Gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu iddo yn 2018:
“Mae’n arwain yr holl seminarau sy’n ddefnyddiol ac mae’n ymateb i ymholiadau’n gyflym. Mae hefyd yn hawdd mynd ato ac mae’n mynd gam ymhellach i sicrhau bod ei holl fyfyrwyr yn cyflawni’r gorau y gallant.”
“Sefydlodd grŵp Cyfrifeg ar Facebook i alluogi myfyrwyr i helpu ei gilydd ond mae hefyd yn sicrhau ei fod ar gael ei hun drwy e-bost a sylwadau ar y sleidiau Zeetings.”
“Gallwn gysylltu â Jafar ar y grŵp Cyfrifeg ar gyfer Busnes ar Facebook. Mae Jafar yn postio cyhoeddiadau arno, yn ogystal â chwestiynau ychwanegol, gan ymgysylltu â ni mewn ffordd effeithiol iawn.”
“Mae ganddo’r gallu i wneud i bawb deimlo’n gyffyrddus a bod croeso iddynt, ac mae’n glir ei fod yn mwynhau ei swydd gan ei fod yn gwneud ymdrech arbennig ym mhob darlith. Ef yw’r darlithydd hawsaf mynd ato sydd gen i, heb os.”
“Jafar yw’r darlithydd mwyaf ymroddedig dw i wedi’i gael. Mae’n ffynnu ar egni ei fyfyrwyr, yn ymdrechu i roi darlithoedd gwych a’u gwneud yn hwyl.”