Egwyddor Arweiniol 5

Mae datblygu staff, myfyrwyr a chyfranogwyr eraill yn caniatáu ymgysylltu effeithiol â phrosesau llunio, datblygu a chymeradwyo cyrsiau.

Mae darparwyr yn pennu’r meini prawf sy’n ategu proses lunio effeithiol o fewn cyd-destun eu sefydliad, gan gynnwys sut y mae’r meini prawf yn cael eu hadlewyrchu yn y cwrs. Dylai darparwyr gefnogi’r sawl sy’n ymwneud â’r broses er mwyn iddynt gyflawni’r deilliannau a ddymunir a defnyddio arbenigedd ar y cyd. Mae rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn gofyn am wybodaeth ac arweiniad eglur a bydd angen cefnogaeth briodol ar y sawl sy’n newydd i’r prosesau hyn er mwyn iddynt gyfrannu.

css.php