Egwyddor Arweiniol 4
Defnyddir adborth gan randdeiliaid mewnol ac allanol i hysbysu cynnwys y cyrsiau.
Mae ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid mewnol ac allanol megis myfyrwyr, cydweithwyr academaidd sy’n gweithio gyda darparwyr eraill, cyflogwyr a chyrff proffesiynol yn hysbysu’r prosesau o lunio a datblygu cyrsiau, gan sicrhau bod meysydd llafur, dulliau asesu ac ymagweddau addysgu’n parhau i fod yn berthnasol. O fewn ei gyd-destun ei hun, gall darparwr ystyried sut y cesglir mewnbwn gan randdeiliaid a sut mae’n cael ei integreiddio fel rhan o’r broses graidd. Dylai natur a maint y mewnbwn allanol fod yn gymesur â cham y broses, y penderfyniad a wneir a lefel y risg sy’n gysylltiedig â’r datblygiad.