Egwyddor Arweiniol 3

Defnyddir arweiniad mewnol a chyfeirbwyntiau allanol wrth lunio, datblygu a chymeradwyo cyrsiau.

Mae credadwyedd cyrsiau wedi’u hangori mewn fframweithiau cenedlaethol ac Ewropeaidd a gydnabyddir, gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol perthnasol a Safonau Prentisiaeth ar lefel gradd. Mae’r cyfeirbwyntiau hyn yn helpu i gynnal safonau a gydnabyddir gan sectorau drwy gynnig cysondeb ar draws ystod y ddarpariaeth. Mae darparwyr hefyd yn datblygu ac yn defnyddio arweiniad mewnol y cyfeirir ato wrth lunio, datblygu a chymeradwyo cyrsiau.

css.php