Mae Prifysgol Abertawe yn hyrwyddo’n rhagweithiol amrywiaeth eang o fentrau sy’n annog ac yn gwobrwyo rhagoriaeth addysgu, dysgu ac asesu ac sy’n gwella arferion. Dangoswyd bod defnyddio’r arfer gorau hwn yn gwella profiad myfyrwyr ac yn galluogi canlyniadau cadarnhaol.
Mae’r gronfa, isod, yn casglu ynghyd enghreifftiau o arfer a nodwyd drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys gwobrau addysgu a gydnabuwyd drwy Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT).
Yn ogystal, mae Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS) ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) yn hyrwyddo datblygiad arfer da.
Mae SALT a SAILS yn cynnal cynadleddau blynyddol lle caiff arfer da ei raeadru a chyflwynir gwobrau. Cynhelir cinio blynyddol gan SEA lle dethlir mentrau staff sy’n gwella canlyniadau cyflogadwyedd yn effeithiol.
Mae’r sampl isod yn cynrychioli detholiad bach o’r arfer effeithiol cyfredol o bob rhan o Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth ac er mwyn archwilio ffyrdd o gydweithio i ddatblygu’r gwaith da hwn, efallai y byddwch chi am gysylltu â’r unigolion a’r timoedd hynny y cydnabuwyd eu harfer.
Rhagor o wybodaeth: