Croeso i Gwasanaethau Ansawdd Academaidd

Gwasanaethau Ansawdd Academaidd Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn rhan o Wasanaethau Academaidd Prifysgol Abertawe ac yn ymrwymedig i ddarparu dull cefnogol, sy’n canolbwyntio ar wella, sy’n galluogi ac sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau o sicrhau a gwella ansawdd, gan ymgorffori Gwerthoedd Gwasanaethau Proffesiynol craidd y Brifysgol: Rydym yn Broffesiynol, Rydym yn Malio, Rydym yn Cydweithio. Gan weithio mewn partneriaeth gyda’n rhanddeiliaid, gan gynnwys myfyrwyr a chydweithwyr mewn gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, rydym yn gwneud defnydd effeithiol o ddata, a systemau a phrosesau sydd wedi’u lliflinio a’u hintegreiddio i ddarparu gwasanaeth cymorth ymgysylltiol, proffesiynol ac agored sydd wedi’i fwriadu nid yn unig i fynd y tu hwnt i ofynion yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a chyrraedd nodau strategol y Brifysgol, ond hefyd i gyflawni dull sicrhau a gwella ansawdd sy’n cael effaith ystyrlon a chadarnhaol ar fusnes craidd ac, yn y pen draw, ar brofiad myfyrwyr. Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cwmpasu ystod eang o feysydd sydd wedi’u bwriadu i sicrhau a gwella ansawdd gan gynnwy

       Dylunio Rhaglen a ChymeradwyoPartneriaerhau Cydweithredol       Rheoliadau a Chyhoeddiadau

     Arolygon Ansawdd  Dysgu, Addysgu ac Asesu    Arholwyr AllanolYmgysylltiad a'r Cyfadran

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar Sicrhau a Gwella Ansawdd ym Mhrifysgol Abertawe, cysylltwch â ni. Phil Maull Pennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd

Ynglyn ag AQS >

css.php