Pobl i siarad â nhw:
Richard Thomas, Uwch-ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth – Coleg y Celfyddydau a'r DyniaethauProfiadau ‘Byd Go Iawn’
Dyma Richard yn disgrifio’r ymagwedd ‘byd go iawn’ at weithdai ar y rhaglen MA Newyddiaduriaeth Erasmus Mundus:
“Mae One World Media yn cynnal rhaglen diwrnod cyfan i ni sy’n mynd i’r afael â phroblemau gweithredol y mae’n rhaid i newyddiadurwyr eu hwynebu mewn ardaloedd peryglus. Y llynedd, cynhaliwyd y rhaglen gan gyn-wneuthurwr rhaglenni dogfennol y BBC. Y rhaglen hon yw’r pwnc arbenigol Rhyfel a Gwrthdaro sy’n rhan o radd ehangach Mundus Erasmus sy’n dechrau pan fydd myfyrwyr yn mynychu modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn Aarhus, Denmarc.
Gan fod myfyrwyr ar y rhaglen hon yn tueddu i feddu ar beth profiad fel newyddiadurwyr rhyfel (neu’n anelu at hyn fel gyrfa), mae’r deunydd yn hynod berthnasol iddynt. Mae’n mynd i’r afael â phynciau megis teithio a byw mewn ardaloedd rhyfel, ffyrdd o sicrhau cyfweliadau â phobl leol, ymdrin â threfnwyr a systemau diwylliannol gwahanol.
Yn ehangach, rydym hefyd yn gwreiddio’r cyngor a’r profiad bywyd go iawn hyn ym modiwlau ein rhaglen. Er enghraifft, y llynedd, gwahoddwyd cyn-wneuthurwr rhaglenni dogfennol y BBC i drafod ei phrofiadau o gynhyrchu ffilmiau yn Iraq a gohebydd y BBC a ddisgrifiodd ei phrofiadau ar adrodd am 9/11, a chipio Kenneth Bigley yn Baghdad a’i lofruddiaeth ddilynol. Rydym hefyd yn cynnig sesiwn a gynhelir gan arbenigwr diogelwch Prifysgol Abertawe, Russ Huxtable, sy’n dangos i fyfyrwyr sut i nodi a lliniaru risg wrth deithio o amgylch y byd. Yn 2019/20, byddwn hefyd yn gwahodd newyddiadurwr presennol gyda Reuters ac arbenigwr ar gasglu data a goruchwylio.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n ystyried sut i ehangu darpariaeth newyddiaduraeth yn Abertawe. Lluniwyd y radd gan ddefnyddio adborth gan fwy na 60 o gyn-raddedigion newyddiaduriaeth a’n panel diwydiant. Yn y tymor hwy, rydym yn cynllunio cynhadledd cyfryngau i’n myfyrwyr, lle gall yr holl westeion hyn rannu eu profiadau.
Er mwyn cefnogi’r gweithgareddau hyn, cyd-sefydlais i adnodd gwe sy’n gofyn i lawer o’n gwesteion rannu eu syniadau am weithio fel newyddiadurwyr, ymchwil ac ysgolheictod newyddiaduriaeth. Gellir ei weld yma: www.Journalismkx.com. Mae sawl myfyriwr wedi cyfrannu hefyd.”