Mae rôl yr Arholwr Allanol yn cynnwys ystyried papurau arholi a chwestiynau asesu, ymhlith dyletswyddau eraill. Yn ogystal, disgwylir i Arholwyr Allanol adolygu a sicrhau cysondeb eitemau asesu, gan gynnwys papurau arholi, asesiadau arholi, aseiniadau’r cwrs, prosiectau neu draethodau hir ac arholiadau atodol. Mae hefyd yn ofynnol i Arholwyr Allanol adolygu newidiadau i’r cwricwlwm.
Disgwylir i Arholwyr Allanol gyflwyno adroddiad llawn ac onest i’r Brifysgol, gan grynhoi safon y cwestiynau, safon y broses arholi, sut caiff y broses arholi ei gweithredu ac ansawdd y myfyrwyr.
Rôl, Dyletswyddau a ChyfrifoldebauBydd disgwyl i bob Arholwr Allanol wneud y canlynol:
- Rhoi sylwadau ar safonau’r modiwlau/dyfarniadau a chadarnhau bod y modiwlau/dyfarniadau’n debyg i’r holl safonau priodol a gydnabyddir yn genedlaethol. Caiff Arholwyr Allanol eu cyfeirio’n bennaf at y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch a datganiadau meincnod pwnc perthnasol (gweler qaa.ac.uk). Gallai’r goruchwylio gynnwys modiwlau nad ydynt yn cyfrannu’n uniongyrchol at ganlyniadau dosbarth myfyriwr, ond sydd, serch hynny, yn bwysig o ran diffinio’r safon academaidd;
- Sicrhau bod dulliau asesu’n deg, bod gwaith asesu’n cael ei weithredu’n deg ac yn unol â rheoliadau’r Brifysgol. Cyfeirir Arholwyr at y Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu;
- Adolygu perfformiad asesu myfyrwyr fel carfan;
- Ystyried a chymeradwyo’r holl bapurau arholi, a’r holl asesiadau o fewn y rhaglen, boed y rhai hynny’n rhai ymarferol neu fel arall, sy’n cyfrannu at 50% neu fwy o’r asesiad ar gyfer modiwl;
- Derbyn papurau arholi/mynediad at GradeMark, asesiadau o fewn y rhaglen, aseiniadau ymarferol, tystiolaeth sy’n ymwneud ag arholiadau/cyflwyniadau llafar ac adroddiadau prosiect/traethodau hir y mae marciau wedi’u dyfarnu arnynt. Pan fydd carfan yn cynnwys mwy na deg myfyriwr, bydd sampl o bapurau arholi/asesu’n cael eu cyflwyno o bob lefel o berfformiad. Diben hyn yw sicrhau bod asesiadau’n cael eu safoni’n gadarn. Ni all Arholwyr Allanol fod yn gysylltiedig â marcio gwaith myfyrwyr;
- Gwirio bod polisi’r Brifysgol ar safoni marciau wedi’i ddilyn a darparu sylwadau ar y dystiolaeth a ddarparwyd;
- Rhoi sylwadau ar y ffordd y darperir adborth i fyfyrwyr ar asesiadau er mwyn hybu dysgu;
- Rhoi sylwadau ar unrhyw gyfleoedd eraill a ddarperir i wella ansawdd cyfleoedd dysgu’r myfyrwyr;
- Rhoi sylwadau ar enghreifftiau o arfer da ac arloesedd o ran dysgu, addysgu ac asesu;
- Mynychu Byrddau Arholi a chyflwyno argymhellion iddynt o ran dyfarnu graddau, diplomâu a thystysgrifau neu gadarnhau canlyniadau ar gyfer modiwlau annibynnol. Pan fydd Bwrdd Arholi’n ailgynnull i ailystyried, er enghraifft, ganlyniad apêl, nid oes angen mynychu. Fodd bynnag, dylid ymgynghori â’r Arholwr Allanol a dylai roi ei farn ar unrhyw ddiwygiad arfaethedig i’r dosbarthiad;
- Ymgynghori ag ef ar ddatblygiad y cwricwlwm, gan gynnwys cyflwyno rhaglenni astudio newydd a diwygio rhaglenni astudio cyfredol;
- Llunio adroddiad llawn ar y broses asesu i’r Brifysgol bob blwyddyn.
Dylai Arholwyr Allanol adrodd am unrhyw amgylchiadau sy’n ymwneud â honiadau o arfer annheg yn ysgrifenedig ar unwaith i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw. Nid oes angen i Arholwyr Allanol gymeradwyo dosbarthiadau gradd na marciau modiwl cyffredinol pan fydd penderfyniad wedi’i ohirio oherwydd materion sy’n ymwneud ag arfer annheg neu pan gafwyd camgymeriad gweinyddol o ran cofnodi marciau neu gyfrifo canlyniad.
Bydd gan Arholwyr Allanol ddigon o dystiolaeth i bennu bod y marciau a’r dosbarthiadau mewnol o safon briodol ac yn gyson. Byddant yn adolygu swm digonol o waith yr ymgeiswyr i’w galluogi i ddod i farn ar yr asesiad yn ei gyfanrwydd.
Rôl y Prif Arholwr Allanol
Gall Prif Arholwr Allanol gael ei benodi mewn sefyllfaoedd lle y mae tîm mawr o Arholwyr Allanol wedi’u penodi i ystyried casgliad o raglenni perthnasol a/neu fodiwlau annibynnol. Gellir hefyd penodi Prif Arholwr Allanol os yw’r tîm o Arholwyr Allanol yn cynnwys nifer sylweddol o arholwyr nad ydynt yn rhai academaidd a/neu rai sydd ag ychydig iawn o brofiad fel Arholwyr Allanol.
Bydd disgwyl i’r Prif Arholwr Allanol wneud y canlynol:
- Adolygu trawstoriad o waith a aseswyd er mwyn sicrhau cydraddoldeb ar draws modiwlau a sicrhau ansawdd y rhaglen yn gyffredinol;
- Nodi meysydd o arfer da neu feysydd sy’n peri pryder ar draws y rhaglen;
- Asesu arferion a rhoi sylwadau ar sicrwydd ansawdd yr holl arferion asesu;
- Cysylltu â Phrif Arholwyr Allanol eraill i gael trosolwg o’r safonau ar draws yr holl raglen;
- Bydd y Prif Arholwyr Allanol ar gyfer rhaglen yr MBBCh yn cael eu penodi i ymdrin â Cham 1 (Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) a Cham 2 (Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4);
- Mynychu arholiadau ymarferol (ar gyfer MBBCh).
Goruchwylio’r Broses Safoni
Rôl yr Arholwr Allanol yw sicrhau bod polisi’r Brifysgol ar safoni marciau wedi’i ddilyn yn llym ac nid yw wedi’i defnyddio i ail-farcio asesiadau.
O ganlyniad, mae’n bosibl na fydd yr Arholwr Allanol yn disgwyl nac yn annog Bwrdd Arholi i godi neu ostwng marciau ar gyfer myfyrwyr unigol os mai sampl o waith yn unig a gyflwynwyd i’r Arholwr Allanol. Efallai bydd yr Arholwr Allanol eisiau gweld sampl mwy o faint o’r asesiad neu amrediad mwy eang o waith a aseswyd os oes unrhyw bryderon ynghylch y broses marcio a safoni.
Ar gyngor ac awgrymiadau’r Arholwr Allanol o ran addasu marciau carfan gyfan, bydd y Bwrdd Arholi yn ystyried y dull perthnasol i’w gymryd (trwy ailwirio marciau mewn modd rhifyddol, ail-farcio neu ailraddio neu ddiwygio’r dulliau asesu/addysgu ar gyfer carfannau yn y dyfodol). Dylid adrodd am unrhyw addasiadau i Fwrdd Arholi’r Coleg/Ysgol, a ddylai gadarnhau a chofnodi’r rhain yn llawn.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y dylid ymdrin ag anghytundebau, gweler Anghydfod sy’n cynnwys Arholwyr Allanol.
Swm y Gwaith a Aseswyd i’w Graffu
Bydd yr holl asesiadau neu sampl ohonynt ar gael i’r Arholwr Allanol er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau asesu a safoni wedi’u dilyn. Bydd nifer yr asesiadau a anfonir at yr Arholwr Allanol yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:
- Nifer y myfyrwyr mewn carfan;
- Sicrhau dosbarthiad cynrychiadol o farciau ar gyfer y garfan, e.e. samplau ym mhob band dosbarth, gan gynnwys rhai na lwyddodd a rhai a berfformiodd yn rhagorol;
- Ai hwn yw’r garfan gyntaf ar gyfer rhaglen sydd newydd ei dilysu.
Bydd y trefniadau samplu, felly, yn galluogi Arholwyr Allanol i weld sampl gynrychiadol o bapurau neu waith a aseswyd o bob dosbarth fel arfer (gan gynnwys METHIANT, lle y bo’n briodol).Dylid dewis sampl gynrychiadol o thua 10% o gyfanswm y papurau neu asesiadau ar gyfer y modiwl, ond dylai gynnwys o leiaf bum papur ac 20 o bapurau ar y mwyaf. Os oes llai na deg myfyriwr yn y garfan, dylid cyflwyno’r holl waith i’r Arholwr Allanol. Fodd bynnag, awgrymir bod deg darn o asesiad yn cael eu cyflwyno fel mater o drefn ar gyfer pob modiwl.
Yn ogystal ag asesiadau gwirioneddol, dylid hefyd cyflwyno’r adborth ar y gwaith i graffu arno, ynghyd â thystiolaeth o’r broses safoni. Gweler y Rheoliadau ar gyfer Graddau Meistr a addysgir ‘Arholi’r Traethawd Hir’ i gael rhagor o wybodaeth am samplu traethodau hir. Rôl yr Arholwr Allanol yw gwirio bod polisi’r Brifysgol ar safoni marciau wedi’i ddilyn yn llym. Ni ddylid defnyddio’r rôl i ail-farcio asesiadau.
Goruchwylio’r Broses Asesu
Bydd yr Arholwr Allanol yn adolygu ac yn cymeradwyo’r holl bapurau arholi drafft a phynciau i’w hasesu’n barhaus pan fydd y rhain yn cyfrannu at o leiaf 50% a mwy o farc cyfanswm y modiwl. Gall yr Arholwr Allanol argymell addasu cwestiynau os teimlir nad yw’r rhain yn asesu’r canlyniadau dysgu arfaethedig yn ddigonol a/neu os nad ydynt yn adlewyrchu’r safon berthnasol ar gyfer y lefel astudio.
Cwrdd â Myfyrwyr, gan Gynnwys Arholiadau Llafar (Viva Voce)
Gall Arholwyr Allanol gwrdd â myfyrwyr ar bynciau neu raglenni y maen nhw’n eu harholi e.e. i gael adborth cyffredinol ar ansawdd yr addysgu, eglurder yr wybodaeth, cymorth academaidd/personol ac ati, ond nid yw hyn yn orfodol.
Ni chaniateir arholiadau llafar at ddiben penderfynu ar ddosbarthiad gradd yn achos ymgeiswyr sy’n astudio am raddau israddedig.
Cyfrannu at Asesiadau Ymarferol neu Lafar
Pan fydd y dull asesu a gymeradwywyd ar gyfer modiwl penodol yn cynnwys arholiad llafar neu ymarferol, gellir gwahodd Arholwyr Allanol i arsylwi ar arholiadau o’r fath.
Camymddygiad Academaidd
Ar ôl adolygu gwaith a aseswyd/arholiadau, os bydd Arholwr Allanol yn credu bod myfyriwr wedi cymryd rhan mewn arfer asesu camymddygiad academaidd, rhaid adrodd am yr amgylchiadau yn ysgrifenedig ar unwaith i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw.
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi Gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd y Brifysgol (y gellir dod o hyd iddynt yng Rheoliadau Academaidd y Brifysgol) ar waith.
Cyfrannu at Fyrddau Rheoli a Phresenoldeb Ynddynt
Rhaid i Arholwyr Allanol fod yn bresennol ym Mwrdd Arholi lefel pwnc y Coleg/Ysgol lle y penderfynir ar y canlyniadau arholi yn y pwnc/pynciau y maen nhw wedi bod yn ymwneud â nhw.
Mewn achosion eithriadol, os na all Arholwr Allanol fynychu Bwrdd Arholi, rhaid iddo fod ar gael i ymgynghori â Chadeirydd y Bwrdd Arholi dros y ffôn, dros rwydwaith fideo neu mewn rhyw fodd arall priodol. Rhaid i’r Arholwr Allanol fod â’r holl ddogfennau perthnasol sydd eu hangen er mwyn perfformio busnes y cyfarfod.
Os na fydd yr Arholwr Allanol yn gallu mynychu, bydd yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig o’i ganfyddiadau i Gadeirydd y Bwrdd Arholi ymlaen llaw, a dylai hwn gael ei ddosbarthu i holl aelodau’r Bwrdd a’i ystyried wrth gadarnhau marciau’r modiwl.
Ni fydd angen i’r Arholwr Allanol fynychu cyfarfodydd interim y Bwrdd Arholi, ond gall wneud hynny os yw’n dymuno. Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal trwy ohebiaeth neu ffordd briodol arall.
Bydd modd i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ymgynghori â’r Arholwr Allanol. Y Bwrdd hwn sy’n dyfarnu credyd, yn pennu problemau o ran dilyniant ac yn dyfarnu graddau.
Cyfrinachedd a Diogelwch
Caiff Arholwyr Allanol eu hatgoffa fod pob cwestiwn asesu drafft a gwaith myfyrwyr a gyflwynir yn gyfrinachol, a dylid gwneud trefniadau priodol i sicrhau ei fod yn ddiogel.