Eglurhad ar y Broses Adolygu Ansawdd

Mae’r Broses Adolygu Ansawdd wedi’i hysbysu gan ddata, ar sail risgiau, ac mae’n cyflwyno ymagwedd â ffocws at Sicrhau Ansawdd a Gwella, gan adlewyrchu newidiadau cenedlaethol sy’n cynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ac ymagwedd ddiwygiedig yr ASA at Adolygiadau Gwella Ansawdd sefydliadau yng Nghymru. Mae’r Adolygiad Ansawdd yn ystyried canfyddiadau a chamau gweithredu proses yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni ar gyfer y pum mlynedd blaenorol mewn cyd-destun ymagwedd ehangach a mwy cyfannol at adolygu. Mae’r Adolygiad Ansawdd yn ystyried yr holl agweddau sy’n ysgogi brofiad y myfyrwyr neu sy’n effeithio arno, gan gynnwys dysgu, addysgu ac asesu; perfformiad ymchwil a’i ryngwyneb ag addysgu; diwylliant ac ymarfer adrannol; a gwybodaeth arall am sicrhau ansawdd (megis ymgysylltu â Chyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiadol (PSRB)), gan sicrhau bod yr ymagwedd wedi’i hintegreiddio a’i bod yn osgoi dyblygu ymdrech lle y bo’n briodol.  Mae’r Broses Adolygu Ansawdd yn berthnasol i’r HOLL feysydd pynciau a rhaglenni, gan gynnwys rhaglenni newydd eu cyflwyno lle nad yw’r myfyrwyr wedi graddio eto ac mae’r rhaglenni’n destun achrediad gan gyrff proffesiynol/statudol. Mae’r Gwasanaeth Ansawdd Academaidd wedi datblygu ymagwedd sydd wedi’i hoptimeiddio a’i graddio at weithredu’r Broses Adolygu Ansawdd. Mae hyn yn sicrhau ei bod yn gryno, yn gadarn, yn rhagweithiol, yn hyblyg ac yn addas at y diben. Fel arfer, cynhelir yr Adolygiad Ansawdd bob pum mlynedd lle bydd rhaglen yn perfformio o fewn paramedrau a ddiffinnir a phan fydd wedi’i hasesu fel risg isel. Os yw’r maes pwnc/rhaglen wedi bod yn destun Adolygiad Ansawdd Uwch, bydd pwynt yr Adolygiad Ansawdd yn newid i sicrhau y cynhelir y broses adolygu bum mlynedd, oni bennir fel arall drwy asesiad risg.


Adolygiadau Ansawdd Uwch
Defnyddir Adolygiadau Ansawdd Uwch i sicrhau y gall y Brifysgol ymyrryd yn gynnar pan nodir risg i brofiad y myfyrwyr (e.e. pan fydd perfformiad maes pwnc yn is na’r disgwyl mewn arolwg y myfyrwyr), i nodi problemau a helpu Colegau/Ysgolion i’w datrys yn gyflym. Gall Adolygiadau Ansawdd Uwch gael eu cynnal mor aml ag y mae eu hangen ac, er eu bod yn gymesur, gallant fod yn ddwys a chyda ffocws lle bydd angen camau gweithredu i wella rhaglen neu faes pwnc penodol. Ar y llaw arall, os yw’r dystiolaeth a gasglwyd ynghylch adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol yn nodi hanes o berfformiad uchel parhaus, yna ni fydd angen yr adolygiad bob pum mlynedd. Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn pennu math yr Adolygiad Ansawdd y bydd eich rhaglen/maes pwnc yn destun iddo Ffactorau sy’n pennu Math yr Adolygiad Ansawdd y mae ei angen:

  • Aeddfedrwydd y rhaglen
  • Achrediad allanol diwethaf gan gorff proffesiynol
  • Model ariannu
  • Tueddiadau o ran cofrestru/derbyn
  • Tueddiadau o ran cadw
  • Tueddiadau o ran perfformiad y modiwl
  • Tueddiadau o ran perfformiad y rhaglen/deilliannau myfyrwyr
  • Risg i Brofiad y Myfyrwyr (NSS)
  • Risgiau o ran Arholwyr Allanol
  • Cynlluniau Camau Gweithredu/Risgiau APR
  • Risg o ran diwylliant
  • Cwynion myfyrwyr

Sut mae’r mathau o Adolygiad Ansawdd yn amrywio?
Mae’r Adolygiad Ansawdd a’r Adolygiad Ansawdd Uwch yn cynnwys yr un wybodaeth gyda’r un manylder. Mae hyn yn sicrhau bod y broses sicrhau ansawdd gyfan yn gyson ac yn gadarn. Fodd bynnag, oherwydd amrywiaeth eang y mathau o raglenni a meysydd pynciau yn Abertawe, ynghyd â’r problemau lleol a hynod benodol a allai godi o ganlyniad i hyn, gall y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd weithio gyda Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu’r Coleg/Ysgol a/neu Ymchwil Ôl-raddedig i addasu’r broses Adolygiad Ansawdd i ddiwallu anghenion lleol. E-bostiwch quality@abertawe.ac.uk i drafod gofynion penodol. Diben yr Adolygiad Ansawdd yw:

  • Sicrhau bod y cwricwla, y deilliannau dysgu, y strwythur, yr addysgu a’r dulliau addysgu ac asesu’n parhau i fod yn ddilys, yn gyfredol ac yn briodol, gan ystyried safonau pynciau allanol, yr ymchwil a’r ymarfer academaidd ac addysgegol ddiweddaraf a Chôd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch, a chyflwyno profiad i fyfyrwyr y mae ei ddisgwyl gan ddyfarniad Prifysgol Abertawe.
  • Sicrhau bod gan y Maes Pwnc neu’r Rhaglen a adolygir yr adnoddau, yr arbenigedd, y lle a’r cyfleusterau i barhau i gyflwyno profiad ardderchog i fyfyrwyr.
  • Sicrhau bod diwylliant effeithiol yn y maes pwnc i ymgorffori ymagwedd sy’n canolbwyntio ar wella’n barhaus a gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr.
  • Nodi meysydd arfer da neu arloesedd sy’n werth eu lledaenu a thynnu sylw’r sefydliad at faterion sydd o ddiddordeb iddo sy’n peri pryder iddo.
  • Sicrhau yr ymgymerir â chamau gweithredu priodol ac amserol i ymdrin â diffygion a nodir gan fyfyrwyr, y Coleg/Ysgol, y Brifysgol neu randdeiliaid eraill, gan gynnwys cyrff allanol

Elfennau Craidd Adolygiadau Ansawdd
Ceir tair elfen graidd ym mhob Adolygiad Ansawdd:

  • Dogfen Hunanwerthuso: Ymarfer hunanwerthuso strwythuredig a hysbysir gan ddata yw’r Ddogfen Hunanwerthuso a’i bwriad yw sicrhau bod timau meysydd pynciau’n myfyrio’n llawn ar berfformiad pob agwedd ar eu pynciau a’u rhaglenni ac yn archwilio syniadau ar gyfer gwell profiad y myfyrwyr. Mae’r ddogfen yn cyfuno gwybodaeth allweddol am ddysgu, addysgu ac asesu, diwylliant, gwerthoedd ac ymchwil ôl-raddedig, i wneud yn siŵr bod y meysydd pynciau’n adlewyrchu’n gyfannol. Hefyd, mae’n rhoi cyfle i arweinwyr pynciau roi cyd-destun ar gyfer Digwyddiad yr Adolygiad Ansawdd. Gan fod y Ddogfen Hunanwerthuso’n cynnwys yr wybodaeth graidd a gynhwysir yn yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni, mae meysydd pynciau sy’n destun Adolygiad Ansawdd wedi’u heithrio o broses yr Adolygiad Blynyddol. Mae’r Ddogfen Hunanwerthuso, a data a gynhwysir ynddi, yn darparu sail ar gyfer asesiad risg a fydd yn penderfynu’r math o adolygiad y mae ei angen.
  • Digwyddiad yr Adolygiad Ansawdd: Prif fantais y broses Adolygu Ansawdd yw dod â  rhanddeiliaid at ei gilydd i drafod yr heriau a dysgu gan arfer effeithiol. Cynhelir cyfarfod (a fydd yn para am gyfnod rhwng ychydig oriau a deuddydd) i sicrhau y gellir adolygu’r maes pwnc yn fanwl a llunio casgliadau i wneud gwelliannau. Bydd Tîm y Maes Pwnc/Rhaglen yn cwrdd â’r Tîm Adolygu, a fydd yn cynnwys academyddion, myfyrwyr ac Arbenigwr Pwnc Allanol ac, yn fwyfwy, bydd yn ymgysylltu â chyflogwyr lle bynnag y bo modd.
  • Adroddiad yr Adolygiad Ansawdd: Cyhoeddir adroddiadau o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cynnal Digwyddiad yr Adolygiad Ansawdd, a bydd y rhain yn darparu cofnod sy’n crynhoi’r meysydd a drafodwyd yn ogystal â chanmoliaeth, gofynion ac argymhellion a fynegwyd gan y Tîm Adolygu. Rhaid i’r Maes Pwnc roi ymateb i gamau gweithredu yr ymgymerir â hwy er mwyn bodloni gofynion ac argymhellion o fewn yr amserlen a bennir gan y Tîm Adolygu.

Camau Gweithredu Gofynnol: 

  • Rhaid i chi fyfyrio ar y tueddiadau a’r camau gweithredu a nodwyd yn yr Adolygiadau Blynyddol o Raglenni blaenorol
  • Dylech chi gwblhau’r Ddogfen Hunanwerthuso a’i chyflwyno i quality@abertawe.ac.uk
  • Rhaid i chi gymryd rhan yn Nigwyddiad yr Adolygiad Ansawdd
  • Rhaid i chi fodloni gofynion ac argymhellion o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.
  •  

< Adolygiad Blynyddol o Raglenni | Adolygiad Blynyddol o Bortffolios >

css.php