Profiad o Ansawdd ar gyfer Myfyrwyr
Yn y bôn mae sicrhau a gwella ansawdd yn ymwneud â sicrhau a gwella’r profiad ar gyfer myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth gyda myfyrwyr i sicrhau bod ganddynt lais yn ansawdd eu profiadau dysgu, ac o ran sut i sicrhau bod hyn yn cael ei wella’n barhaus.Mae myfyrwyr yn aelodau llawn o bob Pwyllgor a Bwrdd ar lefel Colegau/Ysgolion a’r Brifysgol, ac fe’u gwahoddir i gyflwyno papurau a hefyd i godi busnes trwy Ffenestri Myfyrwyr pwrpasol. Mae myfyrwyr yn aelodau o Fyrddau Astudiaethau ar lefel pynciau, lle maent yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar ddylanwad y cwricwlwm, ac maent hefyd yn rhan o’r tîm sydd â gorchwyl i ddrafftio’r ddogfen hunanwerthuso ar gyfer Adolygiadau Ansawdd.Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cynrychioli myfyrwyr ar y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, sy’n gyfrifol am gymeradwyo datblygiad rhaglenni newydd a ffioedd dysgu. Rydym yn gweithio gyda Chynrychiolwyr Myfyrwyr trwy’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni i sicrhau bod myfyrwyr yn rhan allweddol o’r broses ar gyfer dylunio a chymeradwyo rhaglenni newydd. Fe wnaeth cynrychiolydd myfyriwr a oedd yn bresennol yn y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn ddiweddar y sylw canlynol:“Fe fwynheais i’r profiad yn fawr ac fe’i cefais yn foddhaus iawn…. Nid oeddem yn teimlo ein bod wedi ein cau allan ar unrhyw adeg yn ystod y cyfarfod ac roeddwn yn hapus iawn ynglŷn â sut y byddai’r cadeirydd yn troi ac yn ein gwahodd i siarad ar adegau rheolaidd trwy gydol y cyfarfod”Cynrychiolydd Myfyrwyr Biocemeg, Y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni 2018 Rydym wrthi’n datblygu amrywiaeth o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr am brosesau sicrhau ansawdd, gan gynnwys yr Arweiniad i Fyfyrwyr ar y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni.