Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd camau breision anferth yn y blynyddoedd diweddar ym maes partneriaeth ac ymgysylltu â myfyrwyr. Mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, wedi datblygu i fod yn rhwydwaith ffyniannus, gan gefnogi a hyrwyddo llais y myfyriwr ar draws ein cymuned. Unwaith eto, mae’r Gwasanaethau Academaidd, mewn partneriaeth â’r Undeb a chyda chymorth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, yn falch o gyhoeddi cam nesaf ein menter partneriaeth myfyrwyr, y Gymuned Myfyrwyr Adolygu. Rydym yn dymuno recriwtio myfyrwyr adolygu newydd heddiw. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth a chael profiad proffesiynol gwerthfawr, parhewch i ddarllen! Beth yw Cymuned Myfyrwyr Adolygu?
Beth yw'r manteision i chi?
- Tystiolaeth o’ch natur broffesiynol a’ch gallu i gymryd cyfrifoldeb
- Profiad uniongyrchol o ddiwylliant rheoli/gweinyddol a arweinir gan werthoedd
- Hyder mewn amgylchoedd cyfarfodydd
- Eich gallu i gyfrannu at drafodaethau academaidd a gwneud penderfyniadau
- Diddordeb brwd mewn dysgu, addysgu, ansawdd academaidd, llunio cwricwlwm a themâu addysgol eraill.
- Eich gallu i drin gwybodaeth gyfrinachol a gweithio o dan ddeddfau diogelu data
- Eich ymrwymiad i gyfleu a dylanwadu ar newid cadarnhaol yn y Brifysgol
- Hunanhyder, cadw amser, blaenoriaethu gwaith ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Ar gyfer myfyrwyr adolygu profiadol, profiad o gyflwyno hyfforddiant i’ch cyfoedion
Darperir hyfforddiant llawn i’r holl fyfyrwyr adolygu, gan ddechrau gyda sesiynau grŵp ac yna symud ymlaen at hyfforddiant unigol mwy arbenigol. Cynigir sesiynau gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe i’ch helpu chi i siarad am eich profiadau fel Myfyriwr Adolygu â darpar gyflogwyr. Bydd gennych hefyd gofnod pendant, gan y gall gweithgareddau myfyrwyr adolygu gyfrif tuag at eich Gwobr HEAR, a Gwobr Academi Cyflogadwyedd Abertawe. Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, byddwch yn cwrdd â phobl llawn angerdd, ysbrydoliaeth sy’n gyfeillgar ar bob lefel ar draws y sefydliad sy’n gweithio i geisio gwneud pethau’n well. Mae’n argoeli i fod yn brofiad cadarnhaol i bawb sy’n rhan o hyn.
Pa gyfleoedd sydd ar gael?
Gweithgaredd | Disgrifiad | Ymrwymiad a amcangyfrifir |
Cymeradwyo’r Rhaglen | Rhoi safbwynt myfyrwyr ar gynigion am raddau academaidd newydd sy’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni (PAC). | Tua 2 awr o ddarllen a 2 awr ar gyfer y cyfarfod. |
Adolygiadau Ansawdd | Gweithredu fel un o’r panelwyr ar gyfer adolygiadau manwl o raglenni academaidd. Cynhelir oddeutu 20 o adolygiadau yn 2019/20. | Tua 3 awr o ddarllen, paratoi a diwrnod llawn (6 awr) ar gyfer yr adolygiad. Darperir cinio! |
Grwpiau Ffocws Ansawdd | Cyfrannu at gynulliadau achlysurol o academyddion, myfyrwyr a staff i ddatblygu ymatebion i heriau ansawdd academaidd penodol. | 1 – 2 awr |
Pwyllgorau | Mae swyddi opsiynol ar gael ar bwyllgorau academaidd eraill, gan gynnwys Ymchwil Ôl-raddedig, Partneriaethau Cydweithrediadol, Rheoliadau ac Achosion, Dysgu ac Addysgu a Dyfarniadau ac Asesiadau. | Tua 2 awr ar gyfer pob cyfarfod. |
Cynllunio Cwricwlwm | Cymryd rhan mewn gweithdai a chyfarfodydd dros nifer o wythnosau i gefnogi creu rhaglenni gradd newydd. | Ymrwymiadau amrywiol rhwng 5 ac 20+ awr |
Adolygiad Gwella Ansawdd Sefydliadol | Caiff Prifysgol Abertawe ei hadolygu gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn 2020. Bydd amrywiaeth o rolau a phrosiectau ar gael i fyfyrwyr adolygu. | O awr i brosiectau amryw o wythnosau. |
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Chymuned Myfyrwyr Adolygu, gallwch gofrestru isod: Edrychwn ymlaen at glywed gennych!