Mae’r Tîm Adborth Myfyrwyr yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi data adborth myfyrwyr at ddibenion gwella ansawdd, yn enwedig cyfleoedd i staff ddefnyddio adborth myfyrwyr.
Sophie Leslie, Swyddog Datblygu Partneriaethau ac Adborth Myfyrwyr
Cyfrifoldebau:
- Gweinyddu a dadansoddi Arolygon Mawr Abertawe, Adborth ar Fodiwlau ac Unitu.
- Cyfleoedd eraill am adborth gan fyfyrwyr, gan gynnwys gweinyddu arolygon ychwanegol.
- Croesgyfeirio a dosbarthu data adborth myfyrwyr at ddibenion gwella
Manylion Cyswllt: sophie.leslie@swansea.ac.uk
Amdanaf Fi: Swyddog Datblygu Partneriaethau ac Adborth Myfyrwyr ac Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch yw Sophie. Mae ei gwaith yn archwilio profiad y myfyrwyr a gwella ansawdd yn y brifysgol, ymgysylltu â myfyrwyr a phartneriaethau â myfyrwyr. Mae ymchwil flaenorol wedi canolbwyntio ar fyfyrwyr fel partneriaid, cymunedau dysgu ar-lein a dysgu gan gyfoedion, a datblygu rhinweddau staff a’u pwysigrwydd o ran profiad y myfyrwyr. Mae Sophie’n goruchwylio’r sianelau adborth gan fyfyrwyr canolog gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Arolygon Mawr Abertawe, Adborth ar Fodiwlau ac Unitu.
Hayley Coffey, Swyddog Datblygu Partneriaethau ac Adborth Myfyrwyr
Manylion Cyswllt: h.j.coffey@swansea.ac.uk
Cyfrifoldebau:
- Gweinyddu adborth am fodiwlau ar gyfer y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
- Cyfranogiad staff a myfyrwyr mewn adborth am fodiwlau
· Cynnal a chadw a gwella meddalwedd arolygon a meddalwedd gysylltiedig.
Amdanaf Fi: Ar ôl gweithio mewn swyddfeydd Cyfreithwyr am lawer o flynyddoedd, yn fwy diweddar fel Cynorthwy-ydd Personol Cyfreithiol, ymunodd Hayley â Phrifysgol Abertawe yn 2009. Mae Hayley wedi gweithio’n cefnogi gweinyddu achosion myfyrwyr mewn asesiadau, apeliadau, cwynion a materion disgyblu.
Yn fwy diweddar, mae ei rolau wedi cynnwys cefnogi’r Gwasanaethau Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr, a bellach mae Hayley’n gweithio fel Swyddog Adborth Myfyrwyr yn y tîm Gwasanaethau Ansawdd Academaidd wrth weinyddu a chefnogi adborth ar fodiwlau ar gyfer y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
Sophie Thomas, Swyddog Datblygu Partneriaethau ac Adborth Myfyrwyr
Manylion Cyswllt: s.m.l.thomas@swansea.ac.uk
Cyfrifoldebau:
Amdanaf Fi: Symudodd Sophie i’r rôl Swyddog yn nhîm y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn 2022 a, chyn hynny, bu’n Gynorthwy-ydd Adborth Myfyrwyr yn y Tîm Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr gan ymuno â nhw yn 2018. Cyn hynny, enillodd Sophie radd is-raddedig a gradd Meistr mewn Cyfieithu o Brifysgol Abertawe.
Jac Davies, Cynorthwy-ydd Adborth Myfyrwyr
Cyfrifoldebau:
- Ymdrin ag ymholiadau drwy e-bost
- Dadansoddi data hanesyddol myfyrwyr trwy systemau EvaSys ac EvaSys+
- Creu arolygon adborth ar fodiwlau.
Manylion Cyswllt: jac.p.davies@swansea.ac.uk
Amdanaf Fi:
Cyn ymuno â’r Brifysgol, enillodd Jac radd mewn Cerddoriaeth a, chyn hynny, bu’n gweithio i J.D. Wetherspoon ac Admiral cyn cymryd rhan yn y rhaglen TAR yn ystod 2020-2021. Mae ei brif gyfrifoldebau’n cynnwys y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, gan sicrhau bod holl arolygon y Gyfadran wedi’u creu a’u hagor yn y cyfnod amser cywir gan ddatrys problemau y gallai aelodau’r Gyfadran eu profi.
< Tîm Cyfathrebu, Rheoliadau a Chyhoeddiadau Digidol | Operations and Support Team >