Sut rydw i’n newid rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig bresennol?
Sut mae rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig yn cael eu monitro a’u hadolygu i sicrhau ansawdd?
Mae prosesau sicrhau ansawdd yn berthnasol i bob rhaglen ar bob lefel astudio yn y Brifysgol lle mae myfyrwyr yn rhan ohonynt, gan gynnwys rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig. Fodd bynnag, mae angen addasu’r dull ychydig oherwydd natur rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig, gan roi pwyslais mwy penodol ar yr amgylchedd ymchwil, y cyfleusterau, y gallu o ran goruchwylio a’r arbenigedd er enghraifft, i ychwanegu at y profiad cyffredinol i fyfyrwyr ymchwil. O ganlyniad, mae’r Brifysgol yng nghanol datblygu proses adolygu Ymchwil Ôl-raddedig gymesur â phwyslais penodol ar hyn o bryd, sy’n cyd-fynd â phroses Adolygu Ansawdd y Brifysgol sy’n seiliedig ar risgiau. Y nod yw dod o hyd i feysydd posibl a allai fod angen eu cefnogi a’u gwella cyn gynted ag y bo modd, ac i sicrhau bod problemau’n cael eu trin yn gynnar cyn iddynt barhau a chael effaith negyddol ar brofiad y myfyrwyr. Caiff y broses hon ei lansio ym mis Medi 2020.
Sut rydw i’n ysgrifennu Deilliannau Dysgu ar gyfer rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig?
Mae’r Brifysgol wedi datblygu set graidd o Ddeilliannau Dysgu ar gyfer rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig, y gellir ei haddasu ar gyfer y lefelau FHEQ perthnasol:
Ar gyfer rhaglenni Doethur mewn Athroniaeth (FHEQ 8), y deilliannau dysgu arfaethedig yw:
Erbyn diwedd eu rhaglen, dylai myfyrwyr allu:
- Creu, dehongli, dadansoddi a datblygu gwybodaeth newydd drwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall.
- Dangos sut i gaffael a deall corff sylweddol o wybodaeth mewn modd systematig, sydd ar flaen y gad mewn [disgyblaeth/maes academaidd o ymarfer proffesiynol] drwy ddatblygu traethawd ymchwil ysgrifenedig.
- Cysyniadu, llunio a rhoi prosiect ar waith ar gyfer y genhedlaeth newydd o wybodaeth neu gymwysiadau mewn [disgyblaeth].
- Ymateb yn briodol i broblemau annisgwyl wrth lunio prosiect drwy wneud addasiadau addas.
- Dewis, dehongli a chymhwyso technegau perthnasol ar gyfer ymchwil ac ymholiadau academaidd uwch yn gywir.
- Gwneud dyfarniadau gwybodus ar faterion cymhleth ym meysydd [__], yn aml heb ddata cyflawn a chyfiawnhau’r dyfarniadau hynny i gynulleidfa briodol.
- Cyfleu canfyddiadau ymchwil cymhleth yn eglur ac yn effeithiol ac mewn modd diddorol i gynulleidfaoedd arbenigol (gan gynnwys y gymuned academaidd) ac anarbenigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a digwyddiadau priodol, gan gynnwys cyflwyniadau mewn cynadleddau, seminarau a gweithdai.
- Rhannu gwybodaeth newydd a ddarganfyddir trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall mewn cyhoeddiadau o safon uchel a adolygir gan gymheiriaid yn y ddisgyblaeth.
- Datblygu’r rhwydweithiau a’r sylfeini ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu parhaus yn y ddisgyblaeth.
- Dangos y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae gofyn iddynt arfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol.
Gweller Ysgrifennu Deilliannau Dysgu
< Ymchwil Ôl-raddedig | Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig: Derbyn Myfyrwyr ac Ymgeisyddiaeth >