Tîm Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni

Mae’r Tîm Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni’n arbenigo mewn datblygu rhaglenni a phortffolios a chymeradwyo, rheoli a sicrhau ansawdd yr holl raglenni astudio’n barhaus, gan sicrhau y gall y Brifysgol gynnig i fyfyrwyr bortffolio o raglenni arloesol a lywir gan y farchnad sydd oll yn cynnig sicrwydd ansawdd o ran y dysgu, yr addysgu a’r profiad a gynigir i fyfyrwyr.


James Bennett, Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd: Dylunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni

Cyfrifoldebau: d.j.bennett@swansea.ac.uk

Meysydd Cyfrifoldeb: Llunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni, Ysgrifennydd i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni, y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a’r Pwyllgor Ymgynghori Academaidd. Partner Ansawdd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar gyfer y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd a’r Coleg, Prifysgol Abertawe.

Amdanaf Fi:

Mae James yn arwain yr is-dîm sy’n gyfrifol am lunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni, gan oruchwylio prosesau cymeradwyo rhaglenni’r Brifysgol, yn ogystal ag adolygu rhaglenni a modiwlau bob blwyddyn ac adolygu ansawdd bob pum mlynedd. Mae James yn Gymrawd Cysylltiol o AdvanceHE ac yn Aelod Achrededig o’r AUA (Association of University Administrators). Ef yw Eiriolydd yr AUA ar ran Prifysgol Abertawe hefyd.


 

Helen Macrae, Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd: Dylunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni

Cyfrifoldebau: h.m.macrae@swansea.ac.uk

Meysydd Cyfrifoldeb: Llunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni, Ysgrifennydd i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni, y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a’r Pwyllgor Ymgynghori Academaidd. 

Amdanaf Fi:

Ymunodd Helen â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ym mis Ebrill 2021 lle mae’n gweithio’n bennaf yn y Tîm Rhaglenni’n cefnogi’r prosesau dylunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni a Phwyllgorau a Byrddau. Cyn hyn, bu Helen yn gweithio fel athrawes Ysgol Gynradd ac wedyn fel athrawes gwaith maes awyr agored mewn Daearyddiaeth a Bioleg, gan weithio’n bennaf gyda myfyrwyr Safon Uwch rhwng 2013 a 2020.  Derbyniodd Helen ei BSc (Daearyddiaeth ac Astudiaethau Datblygu Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Caer a’i TAR lefel Gynradd o Brifysgol Liverpool Hope.  


Laura Baker, Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd: Dylunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni 

Cyfrifoldebau: l.m.baker@swansea.ac.uk

Cyfrifoldebau allweddol:

  • Dylunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni
  • Ysgrifennydd i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni, y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a’r Pwyllgor Ymgynghorol Academaidd.
  • Swyddog Ymgysylltu’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar gyfer y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a’r Coleg, Prifysgol Abertawe.

Amdanaf i:

Ymunodd Laura â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ym mis Ebrill 2022, gan weithio’n bennaf yn y Tîm Rhaglenni, yn cefnogi prosesau dylunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni.   Yn ogystal, mae hefyd yn ysgrifennydd sawl pwyllgor a bwrdd. Prosiect presennol y mae’n gweithio arno yw defnyddio data i arwain prosesau.

Mae gan Laura berthynas hirsefydlog â Phrifysgol Abertawe, gan ymuno yn 2014 fel myfyrwyr BSc mewn Bioleg.  Wedi hyn yn 2022, enillodd Laura ei PhD mewn Geneteg Ficrobaidd gydag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Treuliodd Laura flwyddyn yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ar brosiect amlddisgyblaethol ar draws y brifysgol, cyn ymuno â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.  Wrth gynnal cariad at bopeth sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, mae’n awyddus i ddatblygu ei gwybodaeth am ei chariad arall, addysg uwch a phrosesau cysylltiedig, gyda’r nod o helpu’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i gael y profiad gorau yn Abertawe, sy’n debyg i’w phrofiad hi. 


< Tîm Rheoli | Tîm Ymgysylltu Allanol >

css.php