Mae’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni yn Fwrdd ar lefel y Brifysgol, sy’n adrodd i’w riant bwyllgor – sef y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd. Mae’r Bwrdd hefyd yn craffu i ddechrau ar gynigion ar gyfer rhaglenni newydd, cyn cyflwyno i’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni.
Pwrpas y Bwrdd yw sicrhau bod y Brifysgol yn goruchwylio’n effeithiol ac yn cyfarwyddo’r rheolaeth, y datblygiad ac adolygiad o’i phortffolio rhaglenni ar bob lefel yn strategol, (Israddedig, Ôl-raddedig a Addysgir ac Ymchwil Ôl-raddedig). Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am asesu hyfywedd cynigion newydd a blaenoriaethu datblygiad er mwyn amlhau llwyddiant. Yn olaf, mae o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd i reoli, adolygu a chymeradwyo ffioedd dysgu ar bob lefel (Israddedig, Ôl-raddedig a Addysgir ac Ymchwil Ôl-raddedig).
Ar gyfer mwy o fanylion, gweler yr adran benodol Cwestiynau Cyffredin.
Cadeirydd: Professor Martin Stringer
Ysgrifennydd: Jennifer Hann
Cyflwyno papur: Cwblhewch ac atodwch y dalen glawr i’ch papur a’i gyflwyno i academicprogrammes@swansea.ac.uk.
Ymholiadau: Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, e-bostiwch academicprogrammes@swansea.ac.uk.