Mae’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni’n atebol i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd ac mae ganddo orchwyl i oruchwylio’r broses o reoli a datblygu portffolio rhaglenni’r Brifysgol, ac i gynyddu effeithiolrwydd ei darpariaeth i’r eithaf i wella cyfraddau recriwtio.
Mae gan y Grŵp nifer o rolau, sef:
- Adolygu holl bortffolio rhaglenni’r sefydliad yn flynyddol i’w gwneud yn bosibl rheoli hyfywedd yn weithredol.
- Sefydlu a monitro cynllun datblygu rhaglenni strategol sy’n ymateb i ofynion y farchnad ar gyfer y sefydliad.
- Adolygu a chymeradwyo cynigion am raglenni newydd.
- Adolygu a goruchwylio’r broses strategol flynyddol o bennu ffioedd dysgu.
Pwy yw Aelodau’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni?
Mae’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni’n cynnwys yr aelodau allweddol canlynol:
- Cadeirydd: Y Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd)
- Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd Rheoli Rhaglenni (2)
- Y Cyfarwyddwr Cyllid
- Cynrychiolydd o Blith y Myfyrwyr
- Cynrychiolwyr o’r Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol a’r Gwasanaethau Academaidd
- Pennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Y Rheolwr Gwybodaeth am y Farchnad
- Deon Rhaglenni Rhyngwladol a Rheoli Partneriaethau
- Deon Rhaglenni ôl-raddedig a Addysgir
- Deon Ymchwil ôl-raddedig
Hefyd ac yn ôl y gofyn:
- Pennaeth y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol
- Pennaeth yr Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwahoddir Penaethiaid Colegau i gyflwyno cynigion newydd i’r Bwrdd
Gellir gwahodd cynigwyr rhaglenni i gynorthwyo Penaethiaid Colegau i gyflwyno cynigion newydd am raglenni i’r Bwrdd.
Pa Benderfyniadau fydd y Bwrdd Rheoli Rhaglenni yn eu Gwneud?
Unwaith y bydd y Bwrdd Rheoli Rhaglenni wedi adolygu’r cynnig am raglen a’r adroddiad gwybodaeth am y farchnad, bydd yn gwneud un o’r penderfyniadau canlynol:
- Cymeradwyo’r rhaglen i gael ei datblygu’n llawn (gyda neu heb amodau ac argymhellion).
- Argymell bod y cynnig yn cael ei wella a’i gyfeirio’n ôl at y Coleg.
- Gwrthod y cynnig ar gyfer datblygiad pellach.
- Cymeradwyo hyrwyddo’r cynnig trwy dudalennau Datganiadau o Ddiddordeb y Brifysgol.
- Dan amgylchiadau eithriadol ac yn seiliedig ar risg, cymeradwyo gwaith marchnata a recriwtio yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol.
Ni chaniateir i unrhyw raglenni symud ymlaen i gael eu datblygu’n llawn, na chael eu marchnata a recriwtio myfyrwyr, oni bai eu bod wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni.
Mae fy Rhaglen Wedi Cael ei Chymeradwyo i Gael ei Datblygu’n Llawn – Beth y Mae Angen i mi ei Wneud Nesaf?
Os yw eich cynnig am raglen wedi cael ei atgyfeirio at y coleg i gael ei wella ymhellach, byddwch yn cael rhestr o argymhellion allweddol gan Ysgrifennydd y Bwrdd. Unwaith y byddwch wedi gwella’r cynnig ac wedi mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed, gallwch wedyn ailgyflwyno eich cynnig trwy’r broses a nodir uchod.
Os yw eich rhaglen wedi cael ei gwrthod byddwch yn cael rheswm dros ei gwrthod. Bydd angen i chi fyfyrio ynghylch y rheswm pam y cafodd y cynnig ei wrthod er mwyn cadarnhau a ellir gwneud unrhyw beth i’w wella i’r graddau bod y Grŵp yn gallu ailystyried cynnig newydd. Ar y cyfan, dim ond os nad ydynt yn hyfyw y mae rhaglenni’n cael eu gwrthod, a hynny’n seiliedig ar yr wybodaeth am y farchnad a ddarparwyd.
Pryd Allaf Farchnata fy Rhaglen?
Byddwch yn cael hyrwyddo eich rhaglen ar dudalennau Datganiadau o Ddiddordeb y Brifysgol ar unwaith, ond fel arfer ni fyddwch yn cael marchnata’r rhaglen yn llawn a recriwtio myfyrwyr nes bod y rhaglen wedi cael ei chymeradwyo’n ffurfiol gan y Brifysgol.
Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai rhaglenni gael eu datblygu’n ddigon cynnar ymlaen llaw i gynyddu effeithiolrwydd gweithgarwch recriwtio i’r eithaf, ac i sicrhau y cydymffurfir yn llawn â Chyfraith Defnyddwyr a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Gweler y Llinell Amser Datblygu Rhaglenni i gael gwybodaeth am y fframiau amser datblygu delfrydol.
Pam Nad Wyf yn Gallu Marchnata fy Rhaglen yn Awtomatig cyn Cael Cymeradwyaeth Derfynol?
Oherwydd yr angen i gydymffurfio â Chyfraith Defnyddwyr a chanllawiau’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, nid yw Prifysgol Abertawe yn marchnata rhaglenni sy’n amodol ar gymeradwyaeth mwyach. Dan amgylchiadau eithriadol, gall y Bwrdd wneud penderfyniad yn seiliedig ar y risg tebygol na fydd y broses gymeradwyo lawn yn cael ei chwblhau, gyda phenderfyniadau’n cael eu hadolygu fesul achos unigol ar gais penodol y Pennaeth Coleg sy’n cynnig.
Y broses arferol yw bod yr holl raglenni a gymeradwywyd ar gyfer eu datblygu’n cael eu hyrwyddo fel rhai sydd ‘i ddod cyn bo hir’ trwy’r tudalennau Datganiadau o Ddiddordeb.
Sut Allaf Farchnata fy Rhaglen?
Gall yr holl raglenni newydd gael eu marchnata trwy’r adrannau ‘I Ddod Cyn Bo Hir’ ar y tudalennau cyrsiau, a dylent fod â strategaeth a chynllun marchnata, gan gynnwys dull ymgysylltu aml-blatfform i sicrhau bod yr holl ddarpar fyfyrwyr, y rhai sy’n eu cynghori a’u rhieni a’u cyflogwyr ac asiantaethau allweddol eraill yn ymwybodol y bydd y rhaglen yn cael ei lansio. Hefyd, bydd yr Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad yn nodi’r rhanbarthau byd-eang allweddol lle mae’r galw ar ei fwyaf, y dylid eu targedu’n effeithiol. Mae recriwtio i raglen newydd sbon yn gryn her, yn anad dim er mwyn sicrhau niferoedd hyfyw yn y flwyddyn gyntaf; felly dylid defnyddio dull mwy hirdymor o ddatblygu a lansio rhaglenni er mwyn sicrhau’r siawns orau bosibl o recriwtio’n llwyddiannus. Dylai Swyddogion Marchnata Colegau lywio’r gwaith o ddatblygu’r cynllun marchnata mewn cyswllt â’r Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr.
Sut Allaf Gynyddu i’r Eithaf y Cyfraddau Recriwtio i’m Rhaglen?
Unwaith y bydd eich rhaglen newydd wedi’i chymeradwyo’n ffurfiol dylech geisio marchnata a hyrwyddo eich rhaglen yn effeithiol i sicrhau eich bod yn cyrraedd eich targedau recriwtio ym mlwyddyn gyntaf ei gweithrediad. Bydd angen i chi gymryd y camau gweithredu canlynol:
- Creu tudalen/tudalennau cwrs amlinellol ar wefan y Brifysgol ar gyfer pob rhaglen
- Llunio cofnod ar gyfer y prosbectws – yn ddelfrydol dylai hwn gael ei gynnwys yn y prosbectws ar gyfer y flwyddyn pan gaiff y rhaglen ei lansio, a fydd yn galw am alinio’r ffrâm amser datblygu’n ofalus â’r amserlen gyhoeddi (cliciwch yma).
- Gweithio gyda’r Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr, y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Cyn-fyfyrwyr i sicrhau bod eich rhaglen yn cael ei thargedu tuag at bob marchnad.
- Hyrwyddo eich rhaglen ar ddiwrnodau agored ac mewn ffeiriau recriwtio yn ôl y gofyn.
Beth yw Marchnata ‘Yn Amodol ar Gymeradwyaeth?
Dan amgylchiadau eithriadol, gall y Bwrdd Rheoli Rhaglenni gymeradwyo gwaith i farchnata cynigion newydd ‘yn amodol ar gymeradwyaeth’ a recriwtio myfyrwyr. Bydd pob cynnig yn cael ei wneud yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol i’r rhaglen gan y Brifysgol. Bydd unrhyw fyfyrwyr sydd â chynigion am raglenni nad ydynt wedi’u cymeradwyo’n cael cynnig rhaglenni amgen, er nad yw’r dull hwn yn darparu’r gwasanaeth gorau ar gyfer ymgeiswyr a bod y Brifysgol yn ceisio lleihau i’r eithaf unrhyw raglenni a gynigiwyd ar gyfer eu datblygu nad ydynt yn debygol o gwblhau’r broses gymeradwyo lawn.
Mae’n well sicrhau bod datblygiadau rhaglenni’n cael eu cynllunio a’u cymeradwyo’n ddigon pell ymlaen llaw i alluogi cylch marchnata a recriwtio llawn i gael ei gynnal cyn y broses arfaethedig gyntaf i dderbyn myfyrwyr. Ceir effaith negyddol amlwg ar recriwtio os nad yw myfyrwyr yn cael eu sicrhau y bydd rhaglenni’n rhedeg mewn gwirionedd.
Gweler y Llinell Amser Datblygu Rhaglenni am ragor o wybodaeth am y cylch datblygu delfrydol.
A oes Targed Recriwtio Gofynnol ar Gyfer fy Rhaglen?
Oes, er y gall hyn ddibynnu ar y math o raglen a gynigir. Bydd y targed recriwtio gofynnol ar gyfer pob rhaglen yn nhair blynedd gyntaf eu gweithrediad yn cael ei gytuno gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad ac amcanestyniadau’r Coleg. Mae’n ofynnol i golegau ddangos y bydd y targed recriwtio a nodwyd o leiaf yn talu am y costau darparu bras ac yn cyfrannu at dargedau cyffredinol y Brifysgol ar gyfer twf. Caiff cyfraddau recriwtio i raglenni newydd eu monitro ac os nad yw’r targedau wedi cael eu cyrraedd o fewn tair blynedd, gall y Brifysgol gymryd camau gweithredu i wella’r rhaglen neu ei thynnu’n ôl o’r portffolio.
Sut y Caiff Ffioedd Dysgu ar Gyfer Rhaglenni Newydd eu Pennu a’u Cymeradwyo?
Mae colegau’n cynnig ffioedd dysgu i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad, bras amcan o gostau rhaglenni, bri’r pwnc yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a safle yn y tabl cynghrair, yn amodol ar nifer o gyfyngiadau.
Fel arfer caiff Ffioedd Dysgu eu cymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni ar ran y Cyfarwyddwr Cyllid ac Uwch Dîm Rheoli’r Brifysgol.
Wrth adolygu cynigion ar gyfer ffioedd, bydd y Bwrdd Rheoli Rhaglenni’n cymryd pob ffactor i ystyriaeth er mwyn sicrhau bod lefel y ffi a bennir yn sicrhau bod rhaglenni Prifysgol Abertawe yn cael eu meincnodi yn erbyn cystadleuwyr perthnasol. Mae’r ffioedd dysgu ar gyfer yr holl raglenni’n cael eu hadolygu’n flynyddol yn erbyn meincnodau’r sector i sicrhau bod Prifysgol Abertawe’n dal i fod yn gystadleuol.
< Cam Gwybodaeth am y Farchnad & Cyflwyno’r Rhaglen | Dylunio, Datblygu a Chymeradwyo Rhaglenni Astudio Newydd >