Llunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni

Mae’r Cod Ymarfer Llunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni yn darparu’r fframwaith, yr egwyddorion a’r prosesau ar gyfer dylunio, datblygu, cymeradwyo, rheoli ac adolygu’r holl raglenni astudio (gan gynnwys rhai israddedig, ôl-raddedig a addysgir, ymchwil ôl-raddedig a datblygiadau cydweithredol) yn effeithiol, gan gynnwys modiwlau cyfansoddol. Mae’r Brifysgol yn ceisio gwneud myfyrwyr yn gwbl ganolog i’w dysgu, ac mae hyn yn dechrau ag ymgysylltu cadarnhaol a gweithredol â myfyrwyr trwy gydol pob cam o’r gwaith datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni.

Mae’r agweddau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer fel a ganlyn:

1. Datblygu a Chymeradwyo Rhaglenni Astudio Newydd
2. Datblygu, Adolygiad a Gwella’r Modwil
3. Adolygu, Diwygio a Gwella Rhaglenni Astudio Presennol
4. Rheoli Rhaglenni Astudio Presennol: Adolygu’r Portffolio ac Atal Rhaglenni
a’u Tynnu’n Ôl.

Os yw’n well gennych weld y côd ymarfer hwn fel PDF rhyngweithiol, cliciwch ar y llun isod:

Llunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni

 


Ansawdd a Safonau Addysg

QAA logo

Lluniwyd egwyddorion Prifysgol Abertawe i fodloni’r disgwyliadau a’r ymarferion a amlinellwyd yng Nghôd Ansawdd Addysg Uwch y DU (Mai 2018) a’r Egwyddorion Arweiniol a nodir yn y Cyngor a’r Arweiniad ar Lunio a Datblygu Cyrsiau a’r Gwerthuso a Monitro (Tachwedd 2018).

Yn ôl y DISGWYLIADAU AR GYFER SAFONAU

Mae’r Ymarfer Craidd fel a ganlyn:

  • Mae’r darparwr yn sicrhau bod safonau trothwy ei gymwysterau’n gyson â’r fframweithiau cymwysterau cenedlaethol perthnasol. Yn ymarferol, golyga hyn y cyfeirir at fframweithiau cymwysterau cenedlaethol perthnasol wrth lunio a chymeradwyo cyrsiau.
  • Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd wedi rhoi trefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod safonau ei ddyfarniadau’n gredadwy ac yn ddiogel, ni waeth ble neu sut y cyflwynir cyrsiau neu bwy sy’n eu cyflwyno. Yn ymarferol, golyga hyn fod Prifysgol Abertawe’n parhau i fod yn gyfrifol am osod a chynnal safonau cwrs, ni waeth ble y caiff ei gyflwyno.
  • Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol a phrosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, yn deg ac yn dryloyw. Yn ymarferol, golyga hyn y defnyddir adborth gan randdeiliaid allanol i lywio’r broses o lunio a datblygu cyrsiau.

Mae’r Ymarfer Cyffredin fel a ganlyn:

  • Mae’r darparwr yn adolygu ei ymarferion craidd mewn perthynas â safonau’n rheolaidd ac mae’n defnyddio’r canlyniadau i ysgogi gwelliannau. Yn ymarferol, golyga hyn y defnyddir monitro a gwerthuso’n rheolaidd i ysgogi gwelliannau i brosesau llunio a datblygu cyrsiau.

Yn ôl y DISGWYLIADAU AR GYFER ANSAWDD

Mae’r Ymarfer Craidd fel a ganlyn:

  • Mae’r darparwr yn llunio a/neu’n cyflwyno cyrsiau o safon.Yn ymarferol, golyga hyn fod y prosesau o gymeradwyo cyrsiau’n hwyluso llunio a datblygu cyrsiau perthnasol o safon uchel sy’n ddeniadol i’r farchnad ac sy’n arwain at ddeilliannau cadarnhaol, credadwy a chydnabyddedig i fyfyrwyr.
  • Mae gan y darparwr ddigon o staff â chymwysterau a sgiliau priodol i gyflwyno profiad academaidd o safon uchel. Yn ymarferol, golyga hyn fod y prosesau o gymeradwyo cyrsiau’n sicrhau bod staff â chymwysterau a sgiliau priodol i gyflwyno profiad academaidd o safon uchel.
  • Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy’n ddigonol ac yn briodol, gan gyflwyno profiad academaidd o ansawdd uchel. Yn ymarferol, golyga hyn fod y prosesau o gymeradwyo cyrsiau’n sicrhau bod cyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn briodol, gan gyflwyno profiad academaidd o safon.
  • Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd wedi rhoi trefniadau effeithiol ar waith i sicrhau profiad academaidd o safon, ni waeth ble neu sut y cyflwynir cyrsiau neu bwy sy’n eu cyflwyno. Yn ymarferol, golyga hyn fod prosesau cymeradwyo cyrsiau’r corff sy’n dyfarnu graddau’n ystyried ac yn dogfennu cyfrifoldebau mewn perthynas â threfniadau cyflwyno, cefnogi a monitro pan gaiff cwrs ei lunio a’i ddatblygu mewn partneriaeth â sefydliad allanol.

Mae’r Ymarfer Cyffredin fel a ganlyn:

  • Mae’r darparwr yn adolygu’i ymarferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i ysgogi gwelliannau. Yn ymarferol, golyga hyn y defnyddir monitro a gwerthuso’n rheolaidd i ysgogi gwelliannau i brosesau llunio a datblygu cyrsiau.
  • Mae’r darparwr yn cynnwys myfyrwyr, fel unigolion a chyda’i gilydd, wrth ddatblygu, sicrhau a gwella ansawdd eu profiad addysgol. Yn ymarferol, golyga hyn fod myfyrwyr yn rhanddeiliaid allweddol yn y prosesau o lunio a datblygu cyrsiau.

 

< Codau Ymarfer | Datblygu, Adolygiad a Gwella’r Modiwl >

css.php