Ymchwil Ôl-raddedig

Mae’r Côd Ymarfer hwn ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig yn rhoi gwybodaeth am y fframwaith, yr egwyddorion a’r prosesau ar gyfer gweithredu rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig yn effeithiol ym Mhrifysgol Abertawe.

Caiff y Côd Ymarfer hwn ei lywio gan Gôd Ansawdd Addysg Uwch y DU , yn arbennig Cyngor a Chanllawiau am Raddau Ymchwil, ond mae hefyd yn cyd-fynd â holl adrannau’r Côd Ansawdd lle mae Ymchwil Ôl-raddedig yn cael ei brif ffrydio i’r amgylchedd Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Dyma’r prif agweddau sydd wedi’u cynnwys yn y Côd Ymarfer:

  1. Sicrhau Ansawdd Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig
  2. Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig: Derbyn Myfyrwyr ac Ymgeisyddiaeth
  3. Gwybodaeth i Fyfyrwyr Ymchwil
  4. Newid, ymestyn neu ohirio Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig
  5. Cyflogi myfyrwyr Ymchwil
  6. Hyfforddi a Datblygu
  7. Yr Amgylchedd a’r Gymuned Ymchwil
  8. Goruchwylio Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
  9. Asesu Graddau Ymchwil
  10. Rheoliadau a Chanllawiau Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig
  11. Cysylltiadau Defnyddiol ar gyfer Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig

< Dysgu Addysgu ac Asesu | Sicrhau Ansawdd Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig >

css.php