Pwyllgor ar lefel y Brifysgol yw’r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig, sy’n adrodd i’r Pwyllgor ar gyfer Strategaeth Ymchwil ac Arloesi (CRIS) a’r Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd (LTQ). Mae’r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig yn gyfrifol am oruchwylio ac arwain ymchwil ôl-raddedig yn strategol ar draws y Brifysgol. Hefyd, mae’n llunio polisïau, strategaethau a chyfathrebiadau i atgyfnerthu a gwella’r ddarpariaeth ymchwil ôl-raddedig mewn meysydd sy’n cynnwys recriwtio a derbyn, hyfforddiant a datblygu sgiliau, dilyniant ac asesu academaidd, cynorthwyo ymchwil, yr amgylchedd ac effaith. Mae’r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig yn adolygu ac yn gwerthuso rheoliadau ac arweiniad Ymchwil Ôl-raddedig yn rheolaidd, gan ystyried meysydd arfer gorau ar draws y sector er mwyn iddo wneud awgrymiadau ar gyfer newid. Mae’r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.
Y Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig yw “rhiant” yr Is-bwyllgor Ysgoloriaethau Ymchwil Ôl-raddedig y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys llywodraethu, rheoli a chydlynu’r holl agweddau ar Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES), Ysgoloriaethau Ymchwil Partneriaid Strategol Prifysgol Abertawe (SUSPRS), Ysgoloriaethau James Callaghan a Gwobr Traethawd James Callaghan. Mae’r Is-bwyllgor Ysgoloriaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.
Cadeirydd: Professor Nuria Lorenzo-Dus
Ysgrifennydd: Dr Jackie Williams
Ymholiadau: Jackie Williams (j.r.williams@swansea.ac.uk) or pgrcommittee@swansea.ac.uk
< Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd | Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni >