Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid

Adolygwyd y polisi yn unol â Chôd Ansawdd diwygiedig yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd: Dysgu ac Addysgu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018.

Cefndir

Mae’r broses Arsylwi ar Gymheiriaid yn arfer sefydledig a gorfodol ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae ymagweddau lleol ar waith ar lefelau Cyfadrannau/Ysgolion unigol. Golyga hyn addasu’r broses i gyd-fynd â chyd-destunau gwahanol a rhoi systemau cofnodi priodol ar waith. Anogir cydweithwyr i ddefnyddio’r ffurflen Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid a ddatblygwyd gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT).

Er mwyn llywio trafodaethau ynghylch datblygiad personol a phroffesiynol, anogir staff i fyfyrio ar yr arsylwi a wnaed arnynt gan gymheiriaid yn ystod cyfarfodydd Adolygiad Datblygiad Proffesiynol. Caiff hyn ei gofnodi drwy’r ffurflen Adolygiad Datblygiad Proffesiynol ar-lein.

Yn ystod yr adolygiad presennol o’r broses arsylwi ar gymheiriaid, eir i’r afael â’r meysydd canlynol:

Wrth ddiweddaru’r polisi, rhoddwyd sylw i arferion ym mhrifysgolion Lerpwl, Manceinion, Reading a Winchester. Roedd canllaw Prifysgol Caerdydd ar ddatblygu addysgu drwy arsylwi ar gymheiriaid yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer datblygu ffeithlun canllaw cyflym.

Diben

Mae arsylwi ar addysgu gan gymheiriaid yn broses sy’n grymuso ac yn gyfle i staff â chyfrifoldebau addysgu fyfyrio ar eu harferion addysgu a’u gwella. Felly, dylai’r holl staff addysgu ddefnyddio’r polisi hwn a’r ffeithlun wrth iddynt gydweithio i addysgu’n fwy effeithiol drwy arsylwi, trafod a myfyrio. Mae gan y broses hon y potensial i rannu arfer gorau ar draws disgyblaethau, gan wella ansawdd profiad dysgu myfyrwyr. Gall hefyd fod yn sbardun ar gyfer creu cymunedau ymarfer.

Caiff arsyllwyr, a’r rhai hynny yr arsylwir arnynt, eu hannog i ddefnyddio’r broses arsylwi ar gymheiriaid i nodi a rhannu arfer da. Gellir defnyddio hyn i ddangos perfformiad at ddibenion cydnabyddiaeth broffesiynol a dilyniant.

Gweithrediad

Mae arsylwi ar gymheiriaid yn gefnogol ac yn gadarnhaol yn hytrach nag yn feirniadol, a’r un sy’n addysgu sy’n pennu’r maes y dylid canolbwyntio arno. Mae hon yn agwedd hanfodol ar arsylwi ar gymheiriaid sy’n helpu i fagu sgiliau myfyrio ac arloesi’r arsyllwr a’r un yr arsylwir arno.

Mae arsylwi ar gymheiriaid yn gefnogol ac yn ddatblygol yn hytrach nag yn feirniadol, a’r un sy’n addysgu sy’n pennu’r maes y dylid canolbwyntio arno. Mae hon yn agwedd hanfodol ar arsylwi ar gymheiriaid sy’n helpu i fagu sgiliau myfyrio ac arloesi’r arsyllwr a’r un yr arsylwir arno.

  1. Mae’r broses arsylwi ar gymheiriaid yn un orfodol ac mae’n rhaid i’r holl staff addysgu ymgymryd â hi o leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, er yr anogir staff i arsylwi ar gymheiriaid yn fwy rheolaidd.
  2. Dylai rheolwyr gadarnhau yn ystod y cyfarfod Adolygiad Datblygiad Proffesiynol a gynhaliwyd gweithgaredd arsylwi ar gymheiriaid, ac anogir staff i rannu eu harsylwad(au) â’u rheolwyr llinell i ddangos eu bod wedi myfyrio ar eu harfer addysgu a’i wella.
  3. Dylai arsyllwyr fod yn aelodau o staff yr un ddisgyblaeth yn y Brifysgol, neu’n aelod o staff o faes cyfatebol, a dylid eu hamrywio o flwyddyn i flwyddyn. I sicrhau arfer teg ac effeithiol, ni ddylai’r broses fod yn ddwyochrog. Dylid ystyried bod arsylwi gan addysgwyr allanol (h.y. o sefydliadau neu faes ymarfer arall) yn atodol i’r broses fewnol.
  4. Rhaid defnyddio’r ffurflen arsylwi ar gymheiriaid a gymeradwywyd gan y Brifysgol.

Bwriedir i’r broses fod yn ddwyffordd, lle bydd yr un yr arsylwir arno a’r arsyllwr yn cyfrannu’n weithredol at y broses. Disgwylir i’r arsyllwr fod yn bresennol ar gyfer y sesiwn gyfan ac iddo gynnig sylwadau manwl. Gall arsylwi ar gymheiriaid gynnwys yr ystod lawn o weithgareddau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, teithiau maes a dosbarthiadau ymarferol.

Dylai arsyllwyr ystyried:

  • Dyluniad y deunyddiau addysgu, e.e. cynllun cyflwyniad PowerPoint, deunyddiau ategol.
  • Deilliannau dysgu a gweithgareddau/tasgau dysgu, e.e. cyfleoedd ar gyfer dysgu gwrthdro.
  • Tasgau asesu, gan gynnwys darparu deunyddiau, enghreifftiau, arweiniad ar aseiniadau a chynlluniau marcio.
  • Adnoddau dysgu ar-lein a chyfunol – gweler y ffeithlun.
  • Y cyfleoedd a ddarperir i bob myfyriwr, waeth beth yw ei hunaniaeth a’i gefndir.

Cyfrinachedd

Dylai’r broses fod yn gyfrinachol a dylid cadw’r wybodaeth a rennir rhwng yr arsyllwr a’r un yr arsylwir arno’n gyfrinachol, oni bai fod yr aelod staff yr arsylwir arno’n dewis rhannu’r canlyniad. Anogir staff yr arsylwyd arnynt i rannu arsylwadau â’r rheolwr llinell a lledaenu arfer da, lle bo hynny’n briodol.

css.php