Mae Arholwyr Allanol rhaglenni a addysgir yn derbyn ffi unwaith y byddant yn cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn gan ddefnyddio system ar-lein y Brifysgol. Sylwer bod yn rhaid i Arholwyr Allanol gyflwyno ffurflen hawlio wedi’i llofnodi, oherwydd na chaiff y ffi ei thalu’n awtomatig.
Mae Adran Gyllid y Brifysgol yn prosesu ffioedd oddeutu’r 15fed o bob mis. Fodd bynnag, i fodloni’r dyddiad cau hwn, rhaid cwblhau a chyflwyno’r holl ffurflenni hawlio erbyn 21 y mis blaenorol er mwyn prosesu’r taliad y mis canlynol. Sylwer bod yn rhaid i chi fod wedi cwblhau gwiriadau Hawl i Weithio yr UKVI cyn y gellir talu ffi.
Talu Treuliau
Cyflwynwch eich ffurflen ffioedd/treuliau wedi’i llofnodi naill ai’n electronig (os nad oes gennym unrhyw dreuliau) neu gyda’r derbynebau treuliau i’r:
Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
Gwasanaethau Academaidd
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
externalexaminers@swansea.ac.uk.
Gofynnir yn garedig i Arholwyr Allanol gadw copi o dderbynebau a gyflwynir. Sylwer y gellir hawlio treuliau derbyniedig cyn cyflwyno adroddiad.
Cyfrifo ffioedd
Ar gyfer Arholwyr Allanol sy’n dechrau eu dyletswyddau o sesiwn 2018/19 ymlaen:
Mae strwythur bandio ffioedd diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Arholwyr Allanol rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir sy’n dechrau ar eu cyfnod yn y swydd o sesiwn 2018-19, fel y manylir yn y tablau isod:
Arholwyr Allanol Rhaglenni Israddedig
BAND | Cyfanswm y Modiwlau | Ffi Safonol |
A | 1 | £200 |
B | 2-6 | £350 |
C | 7-14 | £450 |
Ch | 15-22 | £550 |
D | 23-29 | £650 |
Dd | 30+ | £750 (uchafswm y ffi) |
Arholwyr Allanol Rhaglenni Ôl-radd a Addysgir
BAND | Cyfanswm y Modiwlau * | Ffi Safonol |
A | 1 | £250 |
B | 2-10 | £450 |
C | 11-19 | £650 |
Ch | 19+ | £750 (uchafswm y ffi) |
*Sylwer, bod pob modiwl traethawd hir yn cyfrif fel pum modiwl pan gyfrifir y ffi.
Ar gyfer Arholwyr Allanol sydd â chontractau a ddechreuodd cyn sesiwn 2018-19 – bydd y strwythur ffioedd canlynol yn parhau i fod mewn grym:
Pan gyflwynir yr adroddiad, y ffi leiaf fydd £250, ac ychwanegir swm sy’n cynrychioli llwyth y myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen.
Er mwyn cyfrifo’r ffi, bydd angen yr wybodaeth ganlynol:
Cyfradd Credyd y Modiwl ÷ Nifer y Myfyrwyr x £3 = cyfanswm y ffi ar gyfer y modiwl
Gwerth Credyd | Pwysoliad y Credyd |
10 | 1/12 |
15 | 1/8 |
20 | 1/6 |
30 | 1/4 |
40 | 1/3 |
50 | 1/2.4 |
60 | 1/2 |
Enghraifft:
11 modiwl gwerth 20 credyd gyda 170/6 o fyfyrwyr wedi cofrestru = |
28 |
Ac: 1 modiwl gwerth 60 credyd gyda 4/2 myfyriwr wedi cofrestru = | 2 |
Cyfanswm = | 30 |
Cyfanswm y ffioedd ar gyfer y modiwlau:30 x £3= | £90 |
Ffi = | £250 |
CYFANSWM Y FFI = | £340 |
Ffi uchaf: £750. Os bydd y ffi yn uwch na hyn, cysylltir â’r Coleg/Ysgol i ofyn iddynt benodi Arholwr Allanol ychwanegol i rannu’r llwyth gwaith.
Ym mhob achos, caiff ffioedd eu talu ar ôl cyflwyno adroddiad blynyddol yn unig.
Mae’r ffi hon wedi’i phennu am gyfnod y penodiad, oni bai fod gwaith ychwanegol yn cael ei gyflawni. Gallai fod cynnydd canrannol cynyddrannol bob blwyddyn ddilynol (yn unol ag adolygiad blynyddol).
Ffioedd ar gyfer rhaglenni nyrsio a rhaglenni cysylltiedig
Telir y ffi ar ôl cyflawni’r gwaith. Mae’r Coleg yn cadw cofnod o’r gwaith a anfonir at yr Arholwr Allanol, a defnyddir hyn i gyfrifo’r ffi.
Y ffi leiaf yw £250, ac ychwanegir cyfanswm nifer yr aseiniadau/papurau/papurau arholiad, e.e. 1 – 15 = £10; 16 – 30 = £20; 31 – 45 = £30 ac i fyny, at y ffi leiaf o £250. Caiff y ffi hon ei chyfrifo bob blwyddyn.
Ffioedd ar Gyfer Modiwlau Annibynnol Ym Maes Nyrsio
Telir y ffi ar ôl cyflawni’r gwaith. Mae’r Coleg yn cadw cofnod o’r gwaith a anfonir at yr Arholwr Allanol, a defnyddir hwn i gyfrifo’r ffi.
Y ffi leiaf yw £150, a chyfanswm nifer yr aseiniadau/papurau/papurau arholiad. Wedyn, cyfrifir y ffi fel uchod.
Ffioedd ar Gyfer Rhaglenni Ôl-radd a Addysgir
(gan gynnwys Diplomâu Ôl-radd a thystysgrifau Ôl-radd, heb gynnwys yr MA mewn Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith)
Y ffi leiaf yw £175, ac yn ategol at hyn y mae swm sy’n cynrychioli llwyth y myfyrwyr cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen.
Mae’r ffi ar gyfer cyrsiau Meistr a Addysgir fel a ganlyn:
Rhan Un
£15 am bob myfyriwr amser llawn neu £7.50 am bob myfyriwr rhan-amser a thâl cadw
Cyfrifir y ffi bob blwyddyn (y ffi uchaf yw £750).
Am bob traethawd estynedig a safonir: £25.
Ffioedd ar Gyfer y Rhaglen MA mewn Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith (MALT)
Ffioedd am fod yn Brif Arholwr Allanol
Cyfanswm y ffi ar gyfer y Prif Arholwr Allanol (heblaw am yr MBBCh) yw £250.
Mae Arholwyr Allanol GEM MBBCh yn derbyn isafswm ffi o £250.00 ynghyd â thaliad ychwanegol yn seiliedig ar faint o waith a welir mewn sesiwn academaidd (ar draws pob lefel y rhaglen). Telir y ffi bob blwyddyn ar ôl derbyn adroddiad blynyddol a ffurflen hawlio.
Ar gyfer Prif Arholwyr Allanol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, cyfrifir unrhyw waith ychwanegol fel yr uchod yn yr adran ar ffioedd ar gyfer rhaglenni Nyrsio a rhaglenni cysylltiedig.
< Adroddiadau’r Arholwyr Allanol | Canllawiau ar gyferTrefniadau Dwyochrog ar gyfer Arholi Allanol >