Dysgu Addysgu ac Asesu

Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu’n rhoi’r fframwaith, yr egwyddorion, y polisi, y prosesau a’r arweiniad sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgeg effeithiol a chynhwysol, ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, Academi Dysgu ac Addysgu AbertaweAcademi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe, a’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd.

Mae’r Côd Ymarfer hwn yn ymdrechu i fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’n cyd-fynd â disgwyliadau, ymarferion ac egwyddorion arweiniol Cyngor ac Arweiniad Côd Ansawdd y DU (yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch – QAA).



Ym mis Mehefin 2018, sicrhaodd Prifysgol Abertawe ddyfarniad aur am Ragoriaeth Addysgu. Yn ogystal, enillodd y Brifysgol bum seren am ansawdd addysgu gan y system graddio prifysgolion fyd-eang, QS Stars. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen we Rhagoriaeth Addysgu ym Mhrifysgol Abertawe.


Mae’r Côd Ymarfer hwn yn cyd-fynd â Graddedig Abertawe ac Ymrwymiadau Canmlwyddiant y Brifysgol, a amlinellir yn Strategaeth Dysgu ac Addysgu 2019-2024 y Brifysgol, sy’n tanategu datblygiadau arfaethedig ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu dros y pum mlynedd nesaf. Felly, rhennir adnoddau’r Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu yn unol â’r themâu canlynol:

                             Ymagweddau at Asesu Cynhwysol                                                  

                                     

                      https://indd.adobe.com/view/78a11b04-f28b-4b75-b733-b027cd2d9442                  

                                                         

 

Drwy’r themâu allweddol hyn, ac yn unol â’r rhaglen 7 Characteristics of a Good Teacher a ddatblygwyd gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, mae’r Côd Ymarfer yn cynnig arweiniad ac adnoddau i staff a myfyrwyr ym meysydd dysgu ac addysgu cynhwysol, dysgu gweithredol, cyfathrebu a chreu ar y cyd rhwng staff a myfyrwyr, yn ogystal ag asesu effeithiol ac adborth. Bydd Prifysgol Abertawe yn parhau i ddatblygu amgylchedd lle gall myfyrwyr ddysgu a thyfu, teimlo eu bod yn rhan o gymuned, meithrin ymdeimlad o berthyn, a datblygu cyfalaf cymdeithasol. 

Gweler hefyd Bolisi Asesu ac Adborth Prifysgol Abertawe.

Caiff yr egwyddorion, y polisïau a’r prosesau sy’n ymwneud â dysgu, addysgu ac asesu eu hadolygu’n flynyddol.


< External Examiners | Postgraduate Research >

css.php