Mae gan Arholwyr Allanol rôl hanfodol wrth sicrhau safonau ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i’w cefnogi i wneud hyn yn unol â Chôd Ansawdd, Cyngor a Chanllawiau Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch y DU: Arbenigedd Allanol. I gael y manylion llawn, gweler yr adran Paratoi Arholwyr Allanol yn y Rheoliadau.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd drwy e-bostio externalexaminers@abertawe.ac.uk.
Adnoddau’r BrifysgolMae’r adnoddau canlynol yn berthnasol:
Polisïau:
Cywirdeb y Weithdrefn Marciau a Gyhoeddwyd
Gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd
Rheoliadau ar gyfer Apeliadau Academaidd
Polisi ar Gymedroli
Polisi Adborth ac Asesu
Rheoliadau Rhaglen/Asesu ar gyfer Rhaglenni a addysgir
Rheoliadau Asesu Israddedigion
Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol a Gwobrau Israddedig
Rheoliadau Asesu a Addysgir i Israddedigion
Rheoliadau Cyffredinol
Rheoliadau Gradd Sylfaen
Rheoliadau Asesu ar gyfer Gradd MBBCh
Rheoliadau Academaidd ar gyfer Gradd Meistr Ymchwil (Mhres)
Rheoliadau Academaidd ar gyfer Gradd Doethuriaeth Broffesiynol
Rheoliadau Rhaglen/Asesu ar gyfer Rhaglenni Ymchwil
Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer Dylunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â chymeradwyo, monitro ac adolygu rhaglenni.
Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu yn cynnwys gwybodaeth ynghylch:
- Anghydfod o ran safoni a marcwyr;
- Cosbau ar gyfer mynd yn uwch na therfynau geiriau;
- Marcio prosiectau blwyddyn olaf.
Yn ogystal, dylai Arholwyr Allanol fod wedi derbyn (os yw’n briodol) gopi o’r adroddiad ac ymateb gan Arholwr Allanol blaenorol rhaglen y Coleg/Ysgol ynghyd â’u llythyr penodi. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd os nad yw hyn wedi digwydd: externalexaminers@abertawe.ac.uk.
Adnoddau’r Coleg/ysgol
Disgwylir i Ysgolion/Colegau ddarparu dogfennau amrywiol i Arholwyr Allanol. Dylai Arholwr Allanol dderbyn y canlynol:
- Trosolwg o’r Rhaglen
- Datganiadau meincnodi pwnc perthnasol (gellir hefyd gael y rhain o wefan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch);
- Manylebau’r rhaglen ar gyfer y rhaglen berthnasol/rhaglenni perthnasol;
- Cofnodion cyfarfod(ydd) perthnasol y bwrdd arholi;
- Ystadegau cymharol ar berfformiad myfyrwyr;
- Crynodeb o ganlyniadau dosbarth graddau (mae’r rhain ar gael i Golegau/Ysgolion ar wefan Sharepoint y Brifysgol);
- Y marc cymedr ar gyfer modiwlau dros yr ychydig sesiynau diwethaf a’r marc cymedr ar draws yr holl fodiwlau. Yn ganolog, darperir ystadegau modiwlar drwy wefan Mewnwelediadau Abertawe ac maen nhw ar gael i Golegau/Ysgolion.
- Dysgu, Addysgu ac Asesu
- Meini prawf marcio asesiadau;
- Llawlyfr Pwnc a Pholisi Asesu Coleg/Ysgol a/neu Bwnc (gan gynnwys meini prawf marcio, cosbau hwyr, amgylchiadau esgusodol, arferion cymedroli a manylion y modiwlau ac ati);
- Copi o’r maes llafur ar gyfer y modiwlau a hefyd yr amserlen asesu (os nad yw wedi’i chynnwys yn y Llawlyfr i Fyfyrwyr).
- Gweithdrefnau ar gyfer honiadau o dorri uniondeb academaidd a chamymddygiad academaidd
- Gweithdrefnau ar gyfer ystyried amgylchiadau esgusodol.
- Materion Logisteg
- Amserlen o weithgareddau/dyletswyddau allweddol yn ystod y flwyddyn;
- Gwybodaeth am nifer tebygol y llawysgrifau/darnau o waith asesedig i’w goruchwylio a chyflwyno sylwadau ar y broses gymedroli (gweler yr adran Swm y Gwaith a Aseswyd i’w Graffu).
Dylai Colegau/Ysgolion ddweud pwy y dylech gysylltu â hwy yn y Coleg/Ysgol a thrafod dulliau cyfathrebu â chi a sut rydych am dderbyn deunyddiau. Yn ogystal â’r dogfennau uchod, dylech hefyd gael gwybod am y canlynol:
- Dyddiad cyfarfod/ydd y Bwrdd Arholi, yn ddelfrydol ar ddechrau pob blwyddyn academaidd;
- Gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno papurau arholi drafft ac asesiadau eraill er cymeradwyaeth;
- Trefniadau ar gyfer cymeradwyo asesiadau atodol. Ystyrir ei fod yn arfer da cyflwyno prif bapurau arholi a phapurau arholi atodol er mwyn sicrhau cymeradwyaeth ar yr un pryd;
- Dyddiadau rhagweledig derbyn y gwaith asesedig (os defnyddir copïau caled), a’r dyddiad dychwelyd gofynnol i’r Coleg/Ysgol a fformat y cyflwyniad (papur neu electronig);
- Ar gyfer gwaith sy’n cael ei gyflwyno’n electronig, y dyddiad pan roddir mynediad i BlackBoard.
Dylai Arholwyr Allanol fod yn gyfarwydd ag unrhyw systemau electronig a ddefnyddir fel rhan o’r broses farcio.
Ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn benodol, dylai Colegau/Ysgolion hysbysu’r Arholwr Allanol o’r dyddiadau y rhagwelir i’r darnau o waith gael eu cyflwyno yn dilyn eu dysgu annibynnol cyfeiriedig ar gyfer goruchwylio’r broses safoni.
Gallwch weld amserlen fras Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau lefelau’r Brifysgol drwy glicio ar y ddolen ar y dde. Fel arfer, cynhelir Byrddau lefelau pynciau ychydig ddiwrnodau cyn y Byrddau Prifysgol hyn.
Arholwyr Allanol Newydd
Mae’n rhaid i Arholwyr Allanol newydd gysgodi’r Arholwr Allanol sy’n ymadael yn ystod blwyddyn olaf ei gyfnod yn y swydd. Dylai Arholwyr Allanol fynd i Fwrdd/Byrddau Arholi Colegau/Ysgolion o leiaf, ond ni fydd ganddo ddyletswyddau eraill fel Arholwr Allanol y sesiwn honno. Ni fyddwch yn derbyn ffi, ond byddwch yn derbyn ad-daliad ar gyfer unrhyw dreuliau am eich presenoldeb yn y Bwrdd Arholi.
Ni all Arholwyr Allanol heb unrhyw brofiad o Addysg Uwch fod yn gyfrifol am oruchwylio rhaglen.
Sefydlu Arholwyr Allanol Newydd
Rydym yn disgwyl i Arholwyr Allanol newydd fynychu’r digwyddiad cyflwyno blynyddol fel arfer.
Mae croeso i Arholwyr Allanol sydd bellach yn eu hail flwyddyn nad oeddent wedi gallu mynd i ddigwyddiad cyflwyno’r flwyddyn flaenorol gymryd rhan fel staff yn y Brifysgol.
Gwybodaeth am Arholwyr Allanol
Yn unol â Chôd Ansawdd y DU ar gyfer Cyngor ac Arweiniad Addysg Uwch: caiff arbenigedd allanol, enwau, swyddi a sefydliadau’r Arholwyr Allanol eu cynnwys yn llawlyfrau’r Coleg/Ysgol. Ni ddylai myfyrwyr gysylltu ag Arholwyr Allanol yn uniongyrchol, ac os ydynt, dylent gysylltu â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.
Anghydfod sy’n Cynnwys yr Arholwr Allanol
Mae Arholwyr Allanol wedi’u rhwymo gan reoliadau academaidd ac asesu’r Brifysgol. Caiff y rhain eu cyhoeddi yn y Rheoliadau Academaidd.
Mae Arholwyr Allanol yn cynnig cyngor a sylwadau ynghylch safonau’r garfan a’r broses asesu. Mae gan yr Arholwr Allanol bŵer cyfwerth ag aelodau mewnol y Bwrdd Arholi ac nid oes modd iddynt wrthwneud barn gyfunol y Bwrdd. Lle nad yw’r Arholwr Allanol yn fodlon gyda’r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd neu ei fod yn anghytuno â materion safonau ar fodiwlau a addysgir, bydd barn yr Arholwr Allanol yn cael ei nodi yng nghofnodion Bwrdd Arholi’r Coleg/Ysgol ac yn adroddiad yr Arholwr Allanol. Gellir cyflwyno’r sylwadau hyn i’r sefydliad drwy ei adroddiad blynyddol a/neu drwy ohebiaeth ar wahân i’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg).
Gall yr Arholwr Allanol apelio, mewn amgylchiadau eithriadol, i’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) neu Ddirprwy Is-ganghellor arall (pan nad yw’r Dirprwy Is-ganghellor Addysg ar gael neu mae gwrthdaro buddiannau yn bodoli). Mae penderfyniad y Dirprwy Is-ganghellor yn derfynol.
Pan fydd penderfyniad Arholwr Allanol sy’n ystyried traethawd hir a gyflwynwyd ar gyfer Gradd Meistr trwy Arholiad a Thraethawd Hir yn achosi anghydfod rhwng yr Arholwr Allanol a’r Arholwr/Arholwyr mewnol, y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) sydd â’r hawl i ddod i benderfyniad, yn ôl ei ddoethineb, neu i benodi Arholwr Allanol arall i roi barn annibynnol. Gall yr Is-Ganghellor (Addysg) ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan aelodau’r Bwrdd Arholi.
Wrth ddewis ail Arholwr Allanol, caiff y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) hefyd gymryd i ystyriaeth, er na chaiff ei rwymo gan, unrhyw enwebiad (os oes un) ar gyfer ail Arholwr Allanol a wnaed gan Fwrdd Arholi. Yr ail Arholwr Allanol sydd â’r hawl, yn ei ddoethineb, i benderfynu a ddylid ailgynnull y Bwrdd Arholi ai peidio, a bydd ei benderfyniad ar y mater yn derfynol.