Cynwysoldeb

Decorative

Pobl i siarad â nhw:

Nigel Mason, Ymarferydd Awtistiaeth/ADHD Arbenigol – Gwasanaeth Lles Myfyrwyr

Cymorth SPLDD

Mae Nigel yn disgrifio’r gwaith a arweiniodd i’w Wobr Rhagoriaeth mewn Cymorth i Fyfyrwyr yn 2018:

Roedd hi’n fraint ac yn anrhydedd i gael fy enwebu ac yna dderbyn gwobr a oedd yn cydnabod y gefnogaeth rwyf yn ei rhoi i’m myfyrwyr ag awtistiaeth ac ADHD ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’n bwysig nodi fy mod yn rhan o dîm, ac rydym oll yn haeddu’r wobr. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i alluogi’r myfyrwyr rydym yn eu cefnogi i fwynhau eu hamser yma yn y Brifysgol, yn academaidd ac yn gymdeithasol.
Fel rhan o’m rôl i, rwy’n cwrdd â myfyrwyr i gynnig cymorth iddynt. Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar anawsterau y maent yn eu cael a chyda’n gilydd, rydym yn ceisio dod o hyd i atebion.
Yn aml, rydym yn trafod diagnosis y myfyriwr, gan ei alluogi i ddeall ei hun yn well a gall hyn, yn ei dro, newid ei ganfyddiad o’i hun o fod yn negyddol i fod yn gadarnhaol.
Gyda llawer o fyfyrwyr, gall gwybod bod ganddynt sesiynau wedi’u cynllunio eu galluogi i ymdopi ag amseroedd anodd, gan eu bod yn gwybod y bydd ganddynt y cyfle i drafod eu hanawsterau.
Fel tîm, rydym wedi sefydlu grŵp cymdeithasol i fyfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd cymdeithasu. Cynhelir y grŵp, o’r enw Eureka, ar nos Fercher, sy’n adnabyddus am fod yn ‘Noson Myfyrwyr’ pan fydd llawer o’u cymheiriaid yn mynd i Abertawe i’r clybiau nos. Yn aml, nid yw ein myfyrwyr ni’n hoffi’r diwylliant yfed ac felly edrychant ymlaen at ddod i Eureka. Mewn holiadur diweddar i fyfyrwyr, gofynnon ni: ‘Beth byddech chi’n ei wneud os na fyddech chi’n mynychu grŵp Eureka?’ Yr ymateb gan y myfyrwyr oedd: ‘Byddwn i’n unig ar fy mhen fy hun’.
Rwy’n ymwybodol y daeth un o’r myfyrwyr a enwebodd fi i’m gweld i drafod a oedd ffurf ar awtistiaeth ganddo. Ar ôl cwrdd ag ef a gwrando ar ei stori, trefnais iddo gael ei asesu’n ffurfiol, ac yn dilyn hynny, cafodd ddiagnosis. Ar ôl cael y diagnosis, roedd gan y myfyriwr well dealltwriaeth o’i hun, a daeth yn fwy cadarnhaol am bwy yw e. Gadawodd y myfyriwr Brifysgol Abertawe gyda gradd dosbarth cyntaf mewn peirianneg awyrofod a bellach, mae’n astudio gradd meistr.
Rydym yn credu ei bod hi’n bwysig gweld y myfyriwr fel unigolyn ac nid rhywun â diagnosis, er mwyn ei gefnogi o’r eiliad mae’n gwneud cais i ddod i’r Brifysgol, drwy ei amser yn y Brifysgol ac yna ei helpu gyda’r newidiadau a fydd yn dod wrth iddo gynllunio i adael.

Mae Nigel yn disgrifio ei farn ehangach am gefnogi myfyrwyr SPLDD ac effeithiau hirdymor ei waith:

Mae’r cymorth rydym yn ei roi i fyfyrwyr ag awtistiaeth ac ADHD yn hanfodol, gan ein bod wedi gweld cynifer o fyfyrwyr yn cyrraedd y Brifysgol yn ei chael hi’n anodd deall ffyrdd newydd o astudio, amgylchedd newydd, a chyda staff addysgu newydd a set newydd o gymheiriaid. Mae angen i’r cymorth hwn i’r myfyrwyr hyn barhau, gan mai nhw yw peirianwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol, mathemategwyr, ffisegwyr a haneswyr y dyfodol.
Rydym wedi sefydlu Digwyddiad Dod o Hyd i Bethau sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â’r Brifysgol ac aros dros nos yn ystod mis Awst bob blwyddyn i helpu i leihau’r pryder cyn iddynt gyrraedd ym mis Medi.

Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn gwybod bod ymarferwyr ar gael i’w cefnogi a threfnu addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnynt ar gyfer problemau academaidd a bywyd bob dydd.Effaith hirdymor ein gwaith yw sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn y cymorth cywir a’r ddealltwriaeth er mwyn iddynt gyflawni eu potensial personol llawn.
Rydym yn ymdrechu i alluogi’r amrywiaeth eang o staff yma ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu eu gwybodaeth a’u ddealltwriaeth o anhwylderau niwro-ddatblygiadol megis awtistiaeth ac ADHD, fel y gellir cydnabod ein Prifysgol fel un sy’n arwain y ffordd wrth gefnogi myfyrwyr ag anableddau ym maes addysg uwch.“


< Gwaith Grŵp | Gweithgareddau Rhyngweithiol >

css.php