Canllawiau ar gyferTrefniadau Dwyochrog ar gyfer Arholi Allanol

Sicrhau Ansawdd: Trefniadau Dwyochrog ar gyfer Arholi Allanol

1. Cefndir/Crynodeb

Mae’r Brifysgol yn gwerthfawrogi rôl Arholwyr Allanol, a’r manteision i’r sefydliad a’r unigolion dan sylw o ran sicrhau ansawdd a safonau a chyfleoedd i wella a datblygu.

Er mwyn sicrhau craffu annibynnol a gwrthrychol ac er mwyn sicrhau cysondeb parhaus â Chôd Ansawdd Addysg Uwch y DU, mae’r Brifysgol yn sicrhau nad oes trefniadau dwyochrog rhwng meysydd pwnc ym Mhrifysgol Abertawe a sefydliadau eraill o ran Arholi Allanol.

2. Diben

Mae’r polisi hwn yn sicrhau bod fframwaith clir i sicrhau nad oes trefniadau dwyochrog ar gyfer Arholi Allanol at ddibenion sicrhau ansawdd rhwng cydweithwyr mewn meysydd pwnc penodol ym Mhrifysgol Abertawe a meysydd pwnc cyfatebol mewn sefydliadau eraill (sefydliadau Addysg Uwch yn bennaf).

Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall trefniadau dwyochrog effeithio ar annibyniaeth a gwrthrychedd sy’n hollbwysig i gynnal ansawdd a safonau’n effeithiol, a allai gael effaith niweidiol ar enw da’r Brifysgol os nad yw wedi’i ddiffinio a’i gynnal yn glir.

3. Cwmpas/ Eithriadau

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i drefniadau dwyochrog ar gyfer staff sy’n ymwneud ag arholi allanol at ddibenion sicrhau ansawdd:

• Staff Prifysgol Abertawe’n gweithio fel Arholwyr Allanol ar gyfer sefydliadau eraill
• Arholwyr Allanol o sefydliadau eraill

Mae pob math arall o arbenigedd allanol wedi’i eithrio ar hyn o bryd o’r polisi hwn.

4. Diffiniadau

Telerau sy’n benodol i’r polisi hwn.

Arholwyr Allanol (Rhaglenni a Addysgir) Mae rôl yr Arholwr Allanol yn cynnwys, ymysg dyletswyddau eraill, ddarparu trosolwg annibynnol, gwrthrychol ac arbenigol ar y cwricwlwm ac arferion asesu, a safonau’r asesu (gan gynnwys adolygu papurau arholiad a chwestiynau asesu, adolygu marcio asesiadau, newidiadau i’r cwricwlwm). Disgwylir i Arholwyr Allanol gyflwyno adroddiad llawn i’r Brifysgol, yn crynhoi ansawdd a safonau’r ddarpariaeth.

Dwyochredd Yr arfer o un darparwr yn penodi arbenigwr mewn maes pwnc gan ddarparwr arall ac yna’n darparu arbenigwr pwnc o faes pwnc cysylltiol yn gyfnewid.

5. Datganiad Polisi

Mae’r Brifysgol yn cefnogi disgwyliadau’r gymuned Addysg Uwch a Chôd Ansawdd Addysg Uwch y DU wrth werthuso/arsylwi/adolygu cymheiriaid ac mae’r polisi hwn yn ceisio sicrhau gwrthrychedd Arholi Allanol mewn Addysg Uwch drwy ddarparu fframwaith i gynnal safonau ac annibyniaeth drwy atal trefniadau dwyochrog rhwng meysydd pwnc cysylltiol rhwng sefydliadau.

Bydd Sicrhau Ansawdd yn rhan o’r broses ar gyfer y Brifysgol a Sefydliadau Addysg Uwch y mae ganddynt berthynas ag Abertawe. Ni ddylai’r penodiad/gweithgarwch effeithio ar waith yr aelod o staff yn y Brifysgol gartref, cynnwys gwrthdaro buddiannau, cynnwys risg ariannol neu ddwyn gwarth ar y Brifysgol.

6. Arferion

1. Staff Prifysgol Abertawe’n gweithio fel Arholwyr Allanol ar gyfer sefydliadau eraill

Bydd y Brifysgol yn cofnodi enwau staff Prifysgol Abertawe sy’n gweithio fel Arholwyr Allanol ar gyfer sefydliadau eraill. Caiff y gweithgarwch hwn ei gofnodi drwy broses/system Datganiad o Fuddiannau Allanol y Brifysgol (gweler y ddolen isod) i gynnal annibyniaeth a gwrthrychedd. Caiff y data hwn ei gynnal yn gywir a’i adolygu gan staff y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar adeg enwebu Arholwyr Allanol o sefydliadau eraill (gweler 2).

2. Penodi Arholwyr Allanol o Sefydliadau Eraill

Bydd y Brifysgol yn penodi Arholwyr Allanol o sefydliadau eraill ar gyfer pob rhaglen a addysgir yn unol â meini prawf penodi cyhoeddedig yng Nghôd Ymarfer ar gyfer Arholwyr Allanol y Brifysgol. Rhaid i enwebai ddatgan unrhyw drefniadau dwyochrog ar yr adeg penodi, a chaiff hyn ei gadarnhau cyn cymeradwyo gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd. Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cadw cofnod o’r holl Arholwyr Allanol o sefydliadau eraill, a chyfeirir at hyn pan fydd staff Prifysgol Abertawe’n nodi rolau fel Arholwyr Allanol (gweler 1).

7. Polisïau Cysylltiedig

Dolen i bolisïau cysylltiedig.
Teitl Dolen
Côd Ymarfer ar gyfer Arholwyr Allanol y Brifysgol
Datgan Buddiannau Allanol

8. Cydymffurfio

Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn monitro holl benodiadau staff Prifysgol Abertawe mewn sefydliadau eraill a’r holl Arholwyr Allanol a benodir i Brifysgol Abertawe o sefydliadau eraill, i sicrhau nad oes trefniadau dwyochrog ar adeg penodi.

Caiff fframwaith y polisi hwn ei adolygu a’i ddiweddaru gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd bob tair blynedd academaidd ar ran y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd, yn unol â Chôd Ansawdd Addysg Uwch ASA y DU a thrwy ymgynghori ag Adnoddau Dynol ac UCU.

9. Hanes y Canllawiau

Dyddiad Adolygu Awdur Disgrifiad
Tachwedd 2019 Gwasanaethau Ansawdd Academaidd Cyflwyno’r Canllawiau.

 

< Talu Ffioedd a Threuliau | Dysgu Addysgu ac Asesu >

css.php