Pa Rôl sydd gan Arbenigwyr pwnc Allanol yn y Broses Datblygu Rhaglen?
Mae un o’r Arferion Cyffredinol yn y rhan ar Ansawdd Disgwyliadau a amlinellwyd yng Nghôd Ansawdd Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) (03/05/2018) yn datgan y canlynol:
‘Mae ymagwedd y darparwr at reoli ansawdd yn ystyried arbenigedd allanol’
Wrth lunio eich rhaglen, mae’n hanfodol sicrhau mewnbwn gan arbenigwyr pwnc academaidd o sefydliadau eraill a chyflogwyr sy’n gweithio yn y maes, i sicrhau y bydd y rhaglen yn cynnig cadernid academaidd ac addysgol a sgiliau cyflogadwyedd. Fel rhan o’r broses ddatblygu, bydd angen i chi holi am farn unigolion cynrychioli a’i hystyried a gofyn am adroddiad ffurfiol gan Arbenigwr Pwnc Allanol (Ffurflen Adroddiad Adolygwr sy’n Arbenigwr Pwnc Allanol) sy’n cymryd rôl “cyfaill beirniadol” a chyflogwr priodol (Ffurflen Adroddiad Cyflogwr).
Beth yw rôl yr Arbenigwr Pwnc Allano?
Rôl yr Arbenigwr Pwnc Allanol yw adolygu cynnwys academaidd a chynnwys penodol y rhaglen a rhoi cyngor i Bwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni am unrhyw agwedd y mae angen ei gwella. Bydd yr Arbenigwr Pwnc Allanol yn derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni dros dro i gynnig arbenigedd pwnc penodol academaidd ar gyfer datblygiadau risg canolig neu risg uchel.
Pwy all fod yn Arbenigwr Pwnc Allanol?
Fel arfer, mae Arbenigwyr Pwnc Allanol yn academyddion uwch a phrofiadol mewn maes perthnasol i’r rhaglen sy’n cael ei chynnig a fydd yn gallu sicrhau cynnwys a safon academaidd y rhaglen. Ni ddylai Arbenigwyr Pwnc Allanol feddu ar gysylltiadau ffurfiol ag Abertawe neu bartneriaid allanol ar gyfer rhaglenni cydweithredol.
Sut gallaf enwebu Arbenigwr Pwnc Allanol?
Gellir enwebu Arbenigwyr Pwnc Allanol drwy ddefnyddio’r Ffurflen Enwebu ar gyfer Arbenigwyr Pwnc Allanol. Dylid enwebu o leiaf ddau arbenigwr annibynnol, ac efallai y bydd rhagor o enwebiadau yn angenrheidiol. I raglenni sy’n cynnwys mwy nag un maes pwnc, efallai y bydd angen recriwtio Arbenigwr Pwnc Allanol ar gyfer pob maes. Dylid darparu gwybodaeth lawn am brofiad pob un a enwebir, ei gefndir a’i faes o arbenigedd.
Pwy sy'n cymeradwyo Arbenigwyr Pwnc Allanol?
Caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu dethol gan y Brifysgol i sicrhau annibyniaeth, a chan amlaf gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni neu Ddirprwy Is-ganghellor.
Sut caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu Penodi?
Caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu dethol gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni o blith yr enwebiadau a ddarparwyd gan Dîm Cynnig y Coleg/yr Ysgol. Pan gânt eu dethol, rhaid iddynt gwblhau gwiriadau Hawl i Weithio’r UKVI a chyflwyno pasbort yn bersonol (neu’n rhithwir os ydynt yn cysylltu yn y ffordd honno).
Faint caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu Talu?
Ar hyn o bryd, caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu talu £200 fesul adolygiad, ynghyd â threuliau. Mae’r ffi wrthi’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, i sicrhau bod Prifysgol Abertawe’n parhau i fod yn gystadleuol.
Beth yw rôl yr Adolygwr sy’n Gyflogwr?
Rôl yr Adolygwr sy’n Gyflogwr yw adolygu cynnig y rhaglen o safbwynt diwydiant i sicrhau bod y rhaglen yn cynnig y cyfle i fagu’r sgiliau a’r nodweddion perthnasol i sicrhau bod graddedigion yn cryfhau eu cyflogadwyedd gymaint â phosib. Mae hyn yn fwy syml i rai rhaglenni nac eraill, ond dymuniad y Brifysgol yw y dylai pob rhaglen sicrhau ei bod yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau perthnasol at ddibenion cyflogaeth.
Sut caiff Adolygwyr sy’n Gyflogwyr eu Dethol?
Gellir dewis cynrychiolwyr sy’n gyflogwyr mewn sawl ffordd, fel y bo’n berthnasol i’r rhaglen. Er mwyn cyflawni rhaglenni ar y cyd â chyflogwr, bydd Cynrychiolydd Cyflogwyr yn dod o gwmni partner. Mewn achosion eraill, gellir tynnu’r Cynrychiolydd Cyflogwyr o blith Ymgynghorwyr Diwydiannol presennol, Bwrdd Rheoli Academi Rheoli Abertawe neu enwebiadau perthnasol eraill a fydd yn gallu darparu adborth gwybodus am gynnig y rhaglen o safbwynt cyflogaeth.
Oes Angen imi Sicrhau Cefnogaeth yr Arholwr Allanol ar gyfer y Rhaglen Newydd neu Ddiwygiad i Raglen?
Os ydych chi’n cynnig rhaglen mewn disgyblaeth pwnc newydd neu ddiwygiad sylweddol, ni fydd arholwr allanol priodol yn ei le. Ni chaiff arholwr allanol ei benodi nes y caiff rhaglen newydd ei chymeradwyo. Fodd bynnag, os ydych chi’n cynnig diwygiad i raglen sydd eisoes yn bodoli, yna rhaid cael cefnogaeth arholwyr allanol presennol ac awdurdodi’r diwygiad cyn ei chymeradwyo yn y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Mae templed penodol i’w gwblhau er mwyn dangos cymeradwyaeth gan arholwr allanol.
Sut Gallaf Sicrhau bod Myfyrwyr yn cael eu Cynnwys yn y Broses o Ddatblygu Rhaglen Newydd?
Dylai myfyrwyr fod yn rhan o gynllunio a datblygu rhaglenni newydd lle bynnag y bo modd, i sicrhau y caiff profiad myfyrwyr ei ystyried o safbwynt myfyrwyr.Gall myfyrwyr fod yn rhan o’r broses fel aelodau o Fyrddau Astudiaethau a Phwyllgorau Dysgu ac Addysgu Colegau/Ysgolion, ond yr arfer gorau yw bod Datblygwyr Rhaglenni yn ymgysylltu â Chynrychiolwyr Myfyrwyr a myfyrwyr ar raglenni tebyg yn ystod y cam llunio i gadarnhau’r hyn mae myfyrwyr yn ei feddwl am y cynigion newydd, a sut y gellid eu llywio i ddarparu cynnwys a phrofiad sy’n diwallu anghenion myfyrwyr.Y nod yn y pen draw yw creu rhaglenni newydd ar y cyd â myfyrwyr.
Mae Côd Ansawdd y DU yn ei gwneud hi’n glir y dylid cynnwys myfyrwyr wrth greu a monitro rhaglenni. Mae’r Disgwyliad Ansawdd sy’n berthnasol i lunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglen a chynnwys myfyrwyr wrth wneud hynny, fel a ganlyn:-
“Mae dysgu’n bartneriaeth; mae ymdrech a diddordeb myfyrwyr yn agwedd hanfodol ar eu cyflawniad. Mae myfyrwyr yn darparu safbwynt hollbwysig ar yr amodau sy’n angenrheidiol ar gyfer profiad academaidd o safon a sut y gellir parhau i wella hyn yn barhaus.
Gall myfyrwyr ddarparu adborth, gweithio’n gydweithredol gyda staff a rhanddeilaiid eraill wrth iddynt ystyried adborth a dangosyddion ansawdd eraill a chymryd rôl cyd-lunwyr cwricwlwm. Bydd y gweithgareddau hyn yn cyfrannu at adolygiadau achlysurol o lunio a chymderadwyo cyrsiau effeithiol a chydnabyddiaeth addysgu o safon.”
Mae’r Gwasanaethau Academaidd wedi cychwyn y broses o ddatblygu Cymuned Adolygu Myfyrwyr. Mae aelodau o’r Gymuned yn ymrwymedig i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud â Sicrhau a Gwella Ansawdd, gan gynnwys llunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni. Caiff aelodau o Gymuned Adolygu Myfyrwyr eu hyfforddi’n llawn er mwyn gwneud cyfraniad effeithiol fel aelodau o baneli cymeradwyo ac adolygu. Gellir galw ar fyfyrwyr o’r Gymuned Adolygu Myfyrwyr i gymryd rhan yn y broses, gan sicrhau y bydd cyfraniad gan fyfyrwyr.
Dylai datblygwyr rhaglenni fod yn effro i’r ffaith mai blaenoriaeth allweddol myfyrwyr yw eu hastudiaethau academaidd. Mae amserlenni digwyddiadau allweddol megis ‘gweithdai datblygu rhaglenni’ a gynhelir ar lefel Colegau/Ysgolion yn hanfodol, a gall effeithio ar y tebygrwydd y bydd myfyrwyr ar gael i gefnogi gwaith datblygu.
Efallai y byddwch chi hefyd yn dymuno holi barn cyn-fyfyrwyr, ac efallai hyd yn oed ddarpar fyfyrwyr y dyfodol sy’n astudio Safon Uwch neu Fagloriaeth Cymru, a fydd hefyd yn gallu cynnig safbwyntiau a phrofiad defnyddiol o ran eu disgwyliadau.
Am ragor o wybodaeth am sut i gynnwys myfyrwyr wrth ddatblygu rhaglenni, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.
< Dylunio, Datblygu a Chymeradwyo Rhaglenni Astudio Newydd | Adroddiadau Cyrff Proffesiynol >