Mae’r Tîm Ymgysylltu Allanol yn gyfrifol am reoli’r broses Arholi Allanol, gan oruchwylio ansawdd Partneriaethau Cydweithredol y Brifysgol a rheoli cofnodion y Brifysgol o ran Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio, a’i pherthynas â nhw.
Catherine McVeigh, Swyddog Gwella Ansawdd Academaidd, Ymgysylltu Allanol
Manylion Cyswllt: c.m.mcveigh@swansea.ac.uk
Cyfrifoldebau: Partneriaethau Cydweithredol, Arholwyr Allanol, Cyrff Statudol a Rheoleiddio Proffesiynol.
Amdanaf Fi: Ymunodd Catherine McVeigh â Phrifysgol Abertawe yn 2005 fel cydlynydd Astudio Dramor yn yr adran Astudiaethau Americanaidd. Yn y swydd honno, gweithiodd Catherine gyda myfyrwyr Astudiaethau Americanaidd i’w paratoi ar gyfer eu blwyddyn ymsangol, gan reoli profiad myfyrwyr o’r UD ag Abertawe. Yn 2010, symudodd Catherine i’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol lle roedd yn gyfrifol am gydlynu profiad astudio dramor myfyrwyr ar draws y Brifysgol ar raglenni lle mae elfen ryngwladol. Symudodd Catherine i’w swydd bresennol yn y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn 2013. Fel Swyddog Datblygu Ansawdd, mae ganddi drosolwg o ansawdd partneriaethau cydweithredol. Yn ogystal, mae’n arwain y Tîm Ymgysylltu Allanol sy’n rheoli systemau Arholwyr Allanol y Brifysgol. Mae ymrwymiad Catherine i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer addysg ryngwladol yn dod â’r holl rolau hyn ynghyd ac mae ei gwaith yn plethu’n dda â’i chariad at deithio a diwylliannau’r byd.
Nicola Hodgson, Swyddog Gwella Ansawdd Academaidd, Ymgysylltu Allanol
Manylion Cyswllt: nicola.hodgson@swansea.ac.uk
Cyfrifoldebau: Partneriaethau Cydweithredol, Arholwyr Allanol, Cyrff Statudol a Rheoleiddio Proffesiynol.
Amdanaf Fi: Ymunodd Nikki â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ym mis Ionawr 2020, ar ôl gweithio’n flaenorol fel rheolwr bwyty. Mae’n gweithio’n bennaf yn y Tîm Ymgysylltu Allanol, gan reoli systemau’r arholwyr allanol a rhoi cymorth wrth oruchwylio ansawdd partneriaethau cydweithredol. Mae Nikki hefyd yn cymryd rhan yn uniongyrchol wrth gadw cofnodion cyfredol, canolog o achrediadau proffesiynol y Brifysgol. Enillodd Nikki BSc (Sŵoleg) ac MRes o Brifysgol Abertawe.
< Tîm Datblygu, Cymeradwyo a Rheoli’r Portffolio | Y Tîm Rheoliadau, Systemau a Chyfathrebu >