Cam y Cysyniad

Sut ydw i’n Sefydlu Prawf o Gysyniad ar Gyfer Syniadau Newydd?

Pan fo gennych syniad newydd am raglen yr ydych wedi’i drafod i ddechrau yn y Coleg/Ysgol, ac sydd â rhywfaint o farchnad bosibl (y gellir cael ymdeimlad cychwynnol ohoni trwy ddata recriwtio presennol ar raglenni mewn sefydliadau eraill, cyfran o’r farchnad a thrwy gysylltu â’r Timau Gwybodaeth am y Farchnad a Datblygu Rhyngwladol) dylech gwblhau Ffurflen Prawf o Gysyniad. Ffurflen fer yw hi, ond mae angen i chi feddwl yn ofalus sut y bydd eich rhaglen yn cydweddu a faint o botensial sydd ar ei chyfer, ynghyd â’r costau, manteision a gwerth posibl. Yn y bôn mae’r rhan hon o’r broses yn ymwneud â datblygu broliant ac achos busnes cychwynnol, fel bod y Coleg/Ysgol a’r Brifysgol yn gallu asesu potensial strategol ac ariannol y cysyniad, a phenderfynu a fydd yr amser, ymdrech ac arian a fuddsoddir yn rhoi adenillion da i’r Brifysgol ar y buddsoddiad hwnnw.


Pwy sy’n Adolygu Ffurflenni Prawf o Gysyniad?

Pwyllgor Dysgu ac Addysgu neu Ymchwil y Coleg fydd yn adolygu ffurflenni Prawf o Gysyniad i ddechrau, cyn eu cyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni ar gyfer penderfyniad ar lefel y Brifysgol.


Am Beth mae’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni’n Chwilio mewn Cysyniadau Newydd?

Wrth werthuso cysyniad newydd, bydd y Bwrdd Rheoli Rhaglenni yn ystyried y gwerth ac aliniad strategol ac ariannol posibl, y risgiau posibl a’r manteision ar y cyfan gan ddefnyddio system sgorio gychwynnol. Fel arfer bydd cysyniadau sy’n cael sgôr da’n gyson â strategaeth datblygu portffolio’r Brifysgol ac yn dwyn adenillion sylweddol ar fuddsoddiad. Fodd bynnag, bydd y Bwrdd hefyd yn chwilio am gyfleoedd posibl yn y dyfodol a allai ddeillio o ddatblygiadau llai sy’n ymwneud â chysyniadau.


Pam Fod Cam Prawf o Gysyniad i’w gael – Onid yw hyn yn Syml yn Ychwanegu Rhagor o Gamau at y Broses?

Sefydlwyd y cam Prawf o Gysyniad i gynyddu trosolwg a rheolaeth strategol y Brifysgol ar gynigion i’r eithaf, ac i ganolbwyntio egni ac arbenigedd yn well ar ddwyn yr adenillion gorau ar fuddsoddiad. Er bod hyn yn dechnegol yn ychwanegu cam, mewn gwirionedd mae’n gwneud y broses yn fwy effeithlon gan fod y Brifysgol yn gallu gwneud penderfyniad cyflym a allai’r cysyniad fod yn hyfyw, ynteu a ddylid ei roi o’r neilltu cyn bod gormod o waith wedi cael ei wneud arno. Mae’r dull hwn hefyd yn sicrhau bod y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd a’r Adran Partneriaethau Academaidd yn gallu adnabod a chefnogi cysyniadau a chynigion mor gynnar â phosibl yn y broses, gan felly gynyddu i’r eithaf y potensial ar gyfer llwyddiant.


Pam Nad Wyf yn Gallu Parhau i Ddatblygu fy Nghysyniad os nad yw’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni yn ei Gymeradwyo?

Os nad yw’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni yn cymeradwyo eich rhaglen, ni fydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gallu dyrannu adnoddau i gefnogi ei datblygiad pellach a chymeradwyaeth, gan olygu y bydd unrhyw waith y byddwch chi’n ei wneud ar y rhaglen yn mynd yn wastraff. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu rhaglenni effeithiol, arloesol i sbarduno twf mewn cyfraddau recriwtio a gwneud y Brifysgol yn ddeniadol mewn marchnadoedd myfyrwyr newydd, ac mae felly’n canolbwyntio ar gyflawni hyn lle bynnag y bo’n bosibl. Fodd bynnag, gallwch ystyried diwygio eich cynnig gyda chyngor a chymorth ychwanegol gan y Tîm Gwybodaeth am y Farchnad ac ailgyflwyno’r cynnig i’r Bwrdd.


Sut ydw i’n Penderfynu ar y Teitl Gorau ar Gyfer fy Rhaglen?

Mae dewis y teitl cywir ar gyfer eich rhaglen yn un o’r ffactorau allweddol ar gyfer llwyddiant. Rhaid iddi nid yn unig apelio at fyfyrwyr, ond at gyflogwyr posibl hefyd, a rhaid iddi fod yn hawdd dod o hyd iddi ond eto sefyll allan ymhlith rhaglenni sydd mewn cystadleuaeth â hi.

Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod hyn yn gryn her ac mae wedi ymgorffori cyngor ac arweiniad ynghylch datblygu teitlau rhaglenni effeithiol yn strwythur yr adroddiad cychwynnol ar wybodaeth am y farchnad. Mae cyngor pellach ar gael gan y Tîm Gwybodaeth am y Farchnad a’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol.


Beth sy’n digwydd os yw fy Mhrawf o Gysyniad yn cael ei Gymeradwyo?

Unwaith y mae’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni wedi cymeradwyo eich cysyniad, mae’r prosiect yn symud i gam y Cynnig, sy’n gofyn am set fwy manwl o wybodaeth, gan gynnwys adroddiad llawn ar wybodaeth am y farchnad.


 

< Datblygu Portffolio Rhaglenni’r Brifysgol | Cam Gwybodaeth am y Farchnad & Cyflwyno’r Rhaglen >

css.php