Datblygu Rhaglenni Newydd

Beth yw Portffolio Rhaglenni’r Brifysgol?
Mae gan y Brifysgol lond gwlad o wahanol raglenni y gall myfyrwyr ymgeisio am le arnynt ar bob lefel astudio ac ym mhob Coleg. Gyda’i gilydd, y rhaglenni hyn yw portffolio rhaglenni’r Brifysgol. Mae’r portffolio hwn yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn gallu cynyddu lefelau recriwtio i’r eithaf a rheoli ei chynnig i fyfyrwyr yn effeithiol, gan fynd i’r afael â newidiadau o ran y galw yn y farchnad.


Sut y mae’r Brifysgol yn Penderfynu pa Raglenni Ddylai gael eu Datblygu i Wella’i Bortffolio?
Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn crynhoi data recriwtio allweddol gan yr Awdurdod Safonau Addysg Uwch ac o ffynonellau eraill sy’n ei galluogi i ddadansoddi marchnadoedd byd-eang a thueddiadau recriwtio cenedlaethol dros amser ar draws pob maes pwnc. Trwy driongli’r data hwn â gwybodaeth gan asiantau rhyngwladol, cyrff proffesiynol ac asiantaethau allanol eraill (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) a gweithio gydag arbenigwyr mewn Colegau, mae’r Brifysgol yn datblygu rhestr o feysydd pwnc neu raglenni i’w datblygu mewn modd wedi’i dargedu. Caiff y rhestr hon ei chytuno gyda Cholegau trwy Gynllunio Busnes a’i chyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni i’w hadolygu a’i chymeradwyo, gan greu Cynllun Datblygu Portffolio Strategol y Brifysgol. Yn y ffordd hon, mae’r Brifysgol yn amcanu at ganolbwyntio adnoddau ar raglenni sydd fwyaf tebygol o wella cyfraddau recriwtio a/neu uchelgeisiau strategol a lleihau nifer y rhaglenni nad ydynt yn recriwtio’n dda.


Beth sy’n Goleuo dull Datblygu Rhaglenni’r Brifysgol?
Caiff dull strategol y Brifysgol o ddatblygu rhaglenni ei oleuo gan Arweiniad i-MAP Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr Innovation in the Market Assurance of New Programmes sydd ar gael yn. 


Pam fod y Brifysgol wedi rhoi’r Arweiniad i-MAP ar Waith?
Mae’r Brifysgol wedi canfod bod dull mwy strategol o ddatblygu rhaglenni’n ofynnol i atal lluosogiad nifer fawr o raglenni â chyfraddau recriwtio myfyrwyr isel (yn anad dim ar lefel rhaglenni ôl-raddedig a addysgir) ac i ganolbwyntio ymdrechion ar ddarparu rhaglenni a fydd yn hybu twf ac incwm y Brifysgol. Yn dilyn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2012 a’i ddiweddaru yn 2015, aeth y Brifysgol ati i adolygu’r dadansoddiad a’r argymhellion ynddo, a rhoi’r argymhellion ar waith yn ei phrosesau ei hun, sef: ‘“ Roedd “llwyddiant cyflym” yn hynod ragfynegol o lwyddiant parhaus. Yn groes i’r canfyddiad cyffredin, bu dechrau gyda lefelau isel iawn o dderbyniadau gan dyfu i niferoedd ymarferol yn anghyffredin.’ Mae’n amlwg na all y Brifysgol fforddio gwastraffu adnoddau ar ddatblygu rhaglenni nad ydynt yn recriwtio’n gryf, ac felly mae adolygiad hyfywedd llawn o’r holl gynigion newydd wedi cael ei gyflwyno i liflinio ac alinio datblygiad â nodau strategol y Brifysgol.


Bob blwyddyn, mae’r Uned Ystadegau a’r tîm Recriwtio Myfyrwyr yn llunio adroddiadau sy’n seiliedig ar ddata cenedlaethol yr Awdurdod Safonau Addysg Uwch sydd ar gael i Golegau ac a adolygir yn ganolog ar ran y Bwrdd Rheoli Rhaglenni. Cyflwynir adroddiad penodol i bob Coleg i helpu i oleuo datblygiad a chynllunio busnes, sy’n darparu tueddiadau recriwtio mewn meysydd pwnc perthnasol yn genedlaethol, ar gyfer myfyrwyr cartref a rhyngwladol. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu data cymharol ar gyfer Abertawe, i alluogi Colegau/Ysgolion i benderfynu a oes cyfle i wella cyfraddau recriwtio ar gyfer rhaglenni presennol.


Beth yw strategaeth y Brifysgol ar gyfer Datblygu Rhaglenni?
Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gyflawni twf cyflymach gyflymach yn niferoedd y myfyrwyr i 25,000 erbyn 2025, ac ar ôl cynyddu i’r eithaf y cyfraddau recriwtio i lawer o’i rhaglenni presennol, mae wrthi’n archwilio cyfleoedd i ddatblygu meysydd pwnc, rhaglenni a dulliau darparu newydd a fydd yn cynyddu ac yn cynnal cyfradd y twf ar y cyfan. Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn archwilio’r potensial ar gyfer ehangu i faes dysgu ar-lein a dysgu o bell, ar y cyd â darpariaeth dramor trwy bartneriaethau addysg trawswladol.


< Cwestiynau Cyffredin | Cam y Cysyniad >

css.php