Dylunio, Datblygu a Chymeradwyo Rhaglenni Astudio Newydd

I gyrraedd y cam hwn, ysgrifennu manylion y rhaglen a’r cwricwlwm ei hun, bydd angen i chi fod wedi cwblhau’r camau gweithredu canlynol:

  1. Cael cymeradwyo Prawf o Gysyniad gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni
  2. Cael Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad
  3. Cael cymeradwyo Cynnig am Raglen Newydd i’w ddatblygu’n llawn
  4. Ychwanegu eich rhaglen newydd at Dudalennau Datganiadau o Ddiddordeb y Brifysgol

Os ydych wedi hepgor unrhyw un o’r camau hyn sicrhewch eich bod yn darllen yr adrannau canlynol o’r Cod Ymarfer hwn:

  1. Cyflwyniad/Trosolwg
  2. Cam y Cysyniad a’r Cynnig

Faint o Waith Fydd Rhaid i mi ei Wneud i Ddatblygu Rhaglen Newydd?

Caiff maint y gwaith a wneir i ddatblygu rhaglen newydd ei adlewyrchu fel arfer yn ansawdd y rhaglen a gymeradwyir ac a ddarperir ar gyfer myfyrwyr – po fwyaf o waith y byddwch yn ei wneud ar y dechrau, po orau fydd ansawdd y rhaglen ac felly po orau fydd profiad myfyrwyr!

Nid yw datblygu rhaglen newydd o’r dechrau un yn dasg y dylid ei chymryd yn ysgafn ac mae’n golygu buddsoddi cryn dipyn o amser ac ynni. Ni ddylech anwybyddu gofynion datblygu rhaglen newydd hyd yn oed os yw’n seiliedig ar raglen bresennol. Mae’r gofynion ar gyfer dogfennaeth cynnig wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf ac efallai y bydd gofyn gwneud mwy o waith nag a ragwelwyd.

Mae’r agwedd hon yn cyd-fynd ag Egwyddor Arweiniol 5 ar gyfer Dylunio a Datblygu Cyrsiau fel y’i nodir yn y Cyngor a’r Arweiniad sy’n gysylltiedig â Chôd Ansawdd ASA y DU.


Faint o Amser Fydd yn ei Gymryd i Gwblhau Cynnig am Raglen?

Mae’n anodd dweud yn union faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau cynnig am raglen newydd o’r dechrau un gan y bydd yn dibynnu ar y cynnwys, argaeledd gwybodaeth flaenorol sy’n ymwneud â’r rhaglen a’r amser a’r arbenigedd sydd ar gael i chi yn ogystal ag argaeledd pwyllgorau mewnol. Fodd bynnag, dylech ystyried caniatáu o leiaf 12-15 wythnos o’r cysyniad cychwynnol i gael cymeradwyaeth derfynol (gan gynnwys 4-6 wythnos ar gyfer cwblhau’r adroddiad gwybodaeth am y farchnad gan y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr). Os oes gennych brofiad o ddatblygu rhaglenni, neu os ydych yn seilio’ch datblygiad ar ddogfennaeth bresennol sydd o ansawdd da, efallai y byddwch yn gallu cwblhau’r broses datblygu a chymeradwyo’n gyflymach.


Beth yw’r Fframiau Amser ar Gyfer Datblygu?

Caiff y fframiau amser a argymhellir ar gyfer datblygu eu darparu yn y Llinell Amser Datblygu Rhaglenni. Mae rhaglenni newydd yn fwy tebygol o recriwtio’n gryf os yw’r gwaith datblygu wedi’i alinio â strategaeth farchnata glir, gan gynnwys cyhoeddi deunyddiau marchnata, yn anad dim prosbectysau’r Brifysgol, sy’n dal i gael eu defnyddio gan nifer fawr o ymgeiswyr a’u rhieni/y rhai sy’n eu cynghori. Felly dylai Colegau a Datblygwyr Rhaglenni fod yn ystyried strategaethau datblygu o leiaf 2-3 blynedd cyn y dyddiad lansio arfaethedig fel arfer. Gweler y tabl isod:

Yn naturiol bydd rhai achlysuron pan fydd ceisiadau gan bartneriaid allanol neu ymatebion cyflym i farchnadoedd newydd neu gystadleuwyr yn ofynnol, ond mae tystiolaeth yn dangos y bydd rhaglenni sydd wedi’u halinio’n glir â strategaethau ac amserlenni recriwtio yn recriwtio’n gryfach.


Pwy Ddylai Ddatblygu Rhaglenni?

Gall rhaglenni gael eu datblygu gan unrhyw aelod o staff academaidd, a gall y ddogfennaeth gael ei chwblhau gan staff gweinyddol priodol hefyd os oes angen, ar yr amod bod academydd yn goruchwylio’r gwaith datblygu. Mae fel arfer yn wir y bydd datblygwr y rhaglen yn dod yn Gyfarwyddwr y Rhaglen, ond nid bob amser.

Mae datblygu rhaglen yn aml yn ymarfer defnyddiol i helpu staff i gamu ymlaen a datblygu eu sgiliau a’u profiad eu hunain. Lle nad yw Datblygwr Rhaglen yn brofiadol, dylai gael cymorth gan aelod mwy profiadol o staff trwy gydol y broses ddatblygu. Hefyd, mae cymorth a hyfforddiant ar gyfer yr holl ddatblygwyr rhaglenni ar gael gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, gyda hyfforddiant ar gael trwy’r Gwasanaethau Datblygu a Hyfforddiant.


Sut y Caiff Arbenigwyr Allanol a Chyflogwyr eu Cynrychioli yn Ystod Cam Datblygu’r Rhaglen?

Wrth ddylunio eich rhaglen, mae’n hanfodol ceisio mewnbwn arbenigol arbenigwyr pynciau academaidd mewn sefydliadau eraill a chyflogwyr sy’n weithredol yn y maes, i sicrhau y bydd y rhaglen yn darparu trylwyredd academaidd a sgiliau cyflogaeth. Fel rhan o’r gwaith datblygu, bydd angen i chi chwilio am unigolion o’r fath a cheisio adroddiad ffurfiol gan Aseswr Allanol a fydd yn gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ a chyflogwr priodol. Nid oes cyfyngiadau o ran pwy all yr unigolion hyn fod, ar yr amod nad ydynt yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. 


Sut Allaf Sicrhau bod Myfyrwyr yn Ymgysylltu â’r Broses o Ddatblygu Rhaglenni Newydd?

Dylai myfyrwyr wastad bod yn rhan o ddylunio a datblygu rhaglenni newydd lle bynnag y bo’n bosibl, i sicrhau bod profiad myfyrwyr yn cael ei ystyried o bob ongl. Gall myfyrwyr gael eu cynnwys fel aelodau o Fyrddau Astudiaethau a Phwyllgorau Dysgu ac Addysgu Colegau, ond mae’n well os yw Datblygwyr Rhaglenni’n ymgysylltu â Chynrychiolwyr Myfyrwyr a myfyrwyr ar raglenni tebyg yn ystod y cam dylunio i gadarnhau’r hyn y mae myfyrwyr yn ei feddwl am gynigion newydd, a sut y dylid eu llunio i ddarparu cynnwys a phrofiad sy’n diwallu anghenion myfyrwyr.

Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ceisio barn cyn-fyfyrwyr a hyd yn oed darpar fyfyrwyr posibl sy’n gwneud Safon Uwch neu Fagloriaeth Cymru, a fyddai o bosibl yn gallu darparu mewnwelediadau a phrofiad defnyddiol o ran eu disgwyliadau.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ennyn ymgysylltiad myfyrwyr â’r broses o ddatblygu rhaglen, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Ymgysylltu â Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Academaidd.


Sut ydw i’n Defnyddio Datganiadau Meincnodi Pynciol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd?

Dylid defnyddio Datganiadau Meincnodi Pynciol perthnasol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (gallwch ddefnyddio mwy nag un lle y bo’n berthnasol – er enghraifft ar gyfer rhaglenni rhyngddisgyblaethol) fel y man cychwyn ar gyfer datblygu rhaglen newydd, a dyma ddylai fod y sail i adolygu rhaglenni, er mwyn sicrhau bod rhaglenni’n cael eu gwella a’u datblygu o fewn fframweithiau’r meincnodau pynciau. Dylech sicrhau bod eich rhaglen newydd, ddiwygiedig neu gyfredol yn amlwg wedi’i goleuo gan a’i halinio â’r Datganiad(au) Meincnodi Pynciol perthnasol.

Yn gynyddol, mae datblygwyr rhaglenni’n ceisio dangos yn glir bod eu rhaglen wedi’i halinio â’r meincnodau pynciol perthnasol trwy fapio’r cwricwlwm, a argymhellir.

Lle nad oes datganiadau meincnodi pynciol priodol neu berthnasol ar gael, yn enwedig ar gyfer astudiaethau Lefel 7, gall meincnodau pynciol israddedig cyfwerth gael eu hallosod i Lefel 7 gan ddefnyddio disgrifiadau cymwysterau perthnasol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a disgrifiadau lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch, i ddarparu rhywfaint o gysondeb.


Sut ydw i’n Gofyn am Ddull Enwi ar Gyfer Dyfarniad Newydd?

Os oes arnoch angen dull enwi ar gyfer dyfarniad newydd i’ch cynnig am raglen, bydd angen i hwn gael ei gynnig i Bwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd y Brifysgol a chael ei gymeradwyo ganddo cyn bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol i gael ei hadolygu gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni.

Bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen Cais am Ddyfarniad Newydd sydd ar gael yma a chyflwyno hon i quality@swansea.ac.uk gyda rhesymeg lawn ar gyfer datblygu dull enwi ar gyfer dyfarniad newydd.


Sut ydw i’n Gofyn am Newid i Reoliadau?

Os bydd eich rhaglen newydd yn golygu ei bod yn ofynnol diwygio rheoliadau presennol (rhaglenni neu asesu), neu os bydd set benodol o reoliadau’n ofynnol ar ei chyfer (e.e. ar gyfer rhai rhaglenni proffesiynol), yna rhaid i gais am ddiwygiadau neu reoliadau newydd gael ei gyflwyno i’r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd a chael ei gymeradwyo ganddo cyn cyflwyno rhaglen i gael ei hadolygu. Os ydych chi’n meddwl y bydd angen rheoliadau newydd neu ddiwygiedig arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar y cyfle cynharaf i drafod y gofynion yn quality@swansea.ac.uk.


Sut ydw i’n Sefydlu Rhaglenni ‘Lluosog’?

Caiff rhaglenni lluosog, er enghraifft Tystysgrifau a Diplomâu Ôl-raddedig sy’n gysylltiedig â rhaglenni MSc, rhaglenni llawn-amser a rhan-amser neu lwybrau rhaglenni lluosog, eu sefydlu yn yr un ffordd â rhaglenni safonol. Fodd bynnag, unwaith y caiff gwybodaeth ‘sylfaen’ ei chofnodi ar gyfer un fersiwn o’r rhaglen, gellir clonio hon wedyn a’i diwygio i adlewyrchu’r rhaglen/llwybr ychwanegol, er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o ailadrodd. Mae’r broses hon yn sicrhau bod cod llwybr unigryw yn cael ei neilltuo i bob rhaglen er mwyn cofnodi gwybodaeth pob myfyriwr yn gywir. Beth am Flwyddyn Dramor neu Flwyddyn ym Myd Diwydiant?

Rhaid i’r holl raglenni neu lwybrau fod â gwybodaeth benodol sy’n unigryw i’r rhaglen honno, ond gallant (a dylent) fod wedi’u halinio â’r rhaglenni cysylltiedig.

Ar gyfer amrywiadau sy’n rhaglenni rhan-amser, bydd gwybodaeth y rhaglen fel arfer yr un fath, ond rhaid cynnwys gwybodaeth bellach sy’n nodi sut y gellir darparu’r rhaglen ar sail ran-amser a sut y gallai hyn effeithio ar brofiad myfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn quality@swansea.ac.uk neu, os ydych eisoes wedi sefydlu rhaglen ar PAM gallwch ‘glonio’ trwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://intranet.swan.ac.uk/PAM/ProgrammeList/Proformas.


Beth yw Lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FfCAU) a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a sut Maent yn Effeithio Arnaf fi?

Fframwaith y cytunwyd arno’n genedlaethol ac sydd wedi’i fwriadu i sicrhau defnydd cyson o deitlau a lefelau cymwysterau ar draws y sector, trwy ddefnyddio disgrifiadau cymwysterau, yw’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FfCAU) a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC). Ynghyd â Manylebau Rhaglenni, Datganiadau Meincnodi Pynciol a Chod Ansawdd Addysg Uwch y DU, mae’r Fframwaith yn rhan allweddol o’r Seilwaith Academaidd. Wrth ddatblygu neu adolygu rhaglen neu fodiwl, rhaid i chi sicrhau bod lefel, rhaglen a deilliannau modiwlau’r dyfarniad yn cydymffurfio â’r lefelau a nodir isod.


Beth yw Cymwysterau Ymadael?

Dyfarniadau sy’n cynrychioli cyflawniad myfyrwyr pan nad ydynt yn cwblhau’r dyfarniad gwreiddiol y gwnaethant gofrestru ar ei gyfer, ond a hwythau wedi cwblhau digon o gredydau i fod yn gymwys i gael dyfarniad ar lefel is yw cymwysterau ymadael. Er enghraifft, ni fyddai myfyriwr sy’n cyflawni 120 o gredydau a addysgir ar Lefel 7 ond nad yw’n cwblhau’r traethawd hir neu’r prosiect terfynol yn gymwys ar gyfer Dyfarnu Gradd Meistr, ond byddai’n gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig.

Dylai cymwysterau ymadael perthnasol fod wedi’u nodi ar gyfer pob rhaglen, a rhaid iddynt fod yn seiliedig ar gyfundrefn enwau dyfarniadau presennol a bod o fewn y rheoliadau presennol. Ceir manylion llawn y gofynion o ran credydau ar gyfer dyfarniadau yn yr Rheoliadau Academaidd. Dylid gofyn am y Cymwysterau Ymadael ar adeg cymeradwyo’r rhaglen, yn hytrach na chyflwyno cynnig pellach (profforma Diwygiad i Raglen Bresennol) ar adeg ddiweddarach.


Sut ydw i’n Cwblhau’r Cynnig llawn am Raglen ar y System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni?

Unwaith y byddwch wedi cwblhau cam y Cynnig am Raglen Newydd trwy’r System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni a’i fod wedi cael ei gymeradwyo i’w ddatblygu gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, bydd angen i chi gwblhau’r cynnig llawn am raglen. Bydd y system yn cael ei hagor i chi gwblhau’r cynnig llawn a’r wybodaeth a ddarparoch ar gyfer y Bwrdd Rheoli Rhaglenni fydd yn dechrau’r cynnig llawn. I gwblhau’r cynnig llawn mae gofyn cynnwys gwybodaeth ar draws ystod o feysydd, gan ddibynnu ar y math o raglen yr ydych yn ei chynnig (rhaglen safonol, rhaglen ymchwil, rhaglen gydweithredol safonol neu raglen gydweithredol ymchwil). Mae gwybodaeth lawn am yr hyn y mae’n ofynnol i chi ei ddarparu ym mhob adran o’r cynnig wedi’i hymgorffori yn y system, ond mae hefyd ar gael yn y (canllawiau ar gyfer system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni) fel crynodeb.

Bydd yn ofynnol cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar gyfer rhaglenni ymchwil ôl-raddedig neu gydweithredol (mae’r elfen hon ar y system Rheoli Rhaglenni hefyd). Mae’r system Rheoli Rhaglenni wrthi’n cael ei datblygu ar gyfer rhaglenni ymchwil. Fodd bynnag, mae’r Rhestri Gwirio Cymeradwyo Rhaglenni yn darparu gwybodaeth lawn am yr hyn sy’n ofynnol i gwblhau’r cynigion am raglenni ar gyfer pob math o raglen.


Sut ydw i’n cael mynediad at y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni?

Ceir mynediad at y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni ar y fewnrwyd dan cofnodion academaidd>cyrsiau>PAM https://intranet.swan.ac.uk/PAM.  Os ydych wedi cyrraedd y cam hwn dylai fod gennych ganiatadau yn barod, ond os nad oes, neu os oes angen mynediad ar gydweithwyr ychwanegol, anfonwch neges e-bost i quality@swansea.ac.uk.


Ble mae fy Rhaglen ar y System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni?

Dim ond rhaglenni sy’n cael eu datblygu ar gyfer eich maes pwnc neu eich Coleg chi (gan ddibynnu ar eich caniatadau) y byddwch yn gallu eu gweld. Dylai rhaglenni ar y cam hwn fod wedi’u lleoli yn y wedd ‘profformas cyfredol’ ar y cwarel gwelywio chwith, ac o dan y flwyddyn academaidd yr ydych yn bwriadu lansio’r rhaglen ynddi. Os nad ydych yn gallu gweld y rhaglen y mae arnoch angen mynediad ati, anfonwch neges e-bost i quality@swansea.ac.uk.


Sut ydw i’n Creu Modiwl Newydd?

Modiwlau yw conglfeini’r holl raglenni. Rhaid i’r holl fodiwlau a ddefnyddir fel rhan o raglen, gan gynnwys modiwlau newydd, gael eu cymeradwyo cyn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynnig neu broses adolygu, a dylai’r holl fodiwlau gael eu hadolygu a, lle bynnag y bo’n bosibl, eu gwella’n flynyddol.

Mae gwybodaeth lawn am ddatblygu modiwl newydd ar gael yma.


Ydw i’n Gallu Defnyddio Modiwlau Presennol ar Gyfer Cynnig am Raglen Newydd Neu Ddiwygiedig?

Mae llawer o raglenni’n cynnwys modiwlau sydd eisoes yn cael eu darparu fel rhan o gyrsiau eraill, sy’n helpu i greu portffolio o fodiwlau, ac sydd hefyd yn helpu i ddatblygu amgylchedd dysgu a rennir. Rhaid i’r holl fodiwlau presennol a fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o raglen newydd neu ddiwygiedig fod yn gyson â’r maes llafur ar y cyfan a bod yn gyson â chymeriad/ethos y rhaglen. Rhaid i fodiwlau nad ydynt wedi bod yn weithredol am ddwy flynedd neu fwy fynd drwy broses gymeradwyo’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni ac nid oes modd eu ‘hail-actifadu’ heb hynny hyd yn oed os cawsant eu cymeradwyo’n swyddogol o fewn ffenest gymeradwyo pum mlynedd y rhaglen/ni yr oeddent yn weithredol yn wreiddiol fel rhan ohoni/ohonynt.

Wrth gyflwyno modiwlau presennol i’w defnyddio fel rhan o raglenni newydd neu ddiwygiedig, rhaid i chi sicrhau bod y modiwlau hyn yn cael eu diweddaru gan y Cydlynydd Modiwl perthnasol a’u bod o’r safon a ddisgwylir i gael eu hadolygu gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Bydd yr HOLL fodiwlau’n cael eu hadolygu’n ofalus gan y Pwyllgor gan y byddant yn .


Sut ydw i’n Diwygio Neu’n Gwella Modiwlau Presennol, yn Enwedig os Ydynt o’r tu Allan i’m Maes Pwnc Neu Goleg?

Bydd unrhyw fodiwlau a fydd yn rhan o raglen (boed yn rhai craidd, gorfodol neu ddewisol) o unrhyw Goleg yn cael eu hadolygu’n fanwl gan y Pwyllgor i sicrhau eu bod o’r safon briodol a ddisgwylir gan y Brifysgol. Cyfrifoldeb Cynigiwr y Rhaglen (gan y bydd yn gyfrifoldeb i Gyfarwyddwr y Rhaglen os caiff y rhaglen ei chymeradwyo) yw sicrhau bod yr holl fodiwlau mewn rhaglen astudio’n cael eu ei hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd, a bod y maes llafur, y deilliannau dysgu a’r asesiad yn dal i fod yn addas i’w diben. Wrth ddatblygu rhaglen newydd sy’n golygu ei bod yn ofynnol defnyddio modiwlau o Golegau eraill, bydd yn ofynnol i Dîm y Cynnig gysylltu â’r Cydlynwyr Modiwlau perthnasol i sicrhau bod y modiwlau’n cael eu diweddaru (os yw’n ofynnol). Os nad ydynt yn cael eu diweddaru i’r safon berthnasol, bydd hyn yn creu risg nad yw’r rhaglen yn cael ei chymeradwyo.


Beth yw Llwybrau Rhaglenni / Rheolau Meysydd Llafur a Pham eu bod yn Bwysig?

Y Llwybr Rhaglen (a elwir hefyd yn Rheolau Maes Llafur) yw’r system y mae’r Brifysgol yn ei defnyddio i gofnodi a diffinio pa fodiwlau sy’n cael eu cynnwys fel rhai craidd, gorfodol neu ddewisol ar bob rhaglen, ac sy’n galluogi myfyrwyr i ddethol modiwlau ar-lein, a’r Brifysgol i gofnodi a chyhoeddi data ar y wefan unistats fel sy’n ofynnol gan y Cyngor Cyllido. Mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu diweddaru a’u bod yn gywir, gan mai dyma fydd myfyrwyr yn ei weld ar brif wefan y Brifysgol. Hefyd, bydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn adolygu’r modiwlau sydd wedi’u cynnwys ar y Llwybr Rhaglen, a all arwain at oedi os nad yw’r rhain yn gyflawn ac yn gywir pan gânt eu cyflwyno.


Sut Allaf Gael Mynediad at y Llwybrau Rhaglenni/Rheolau Meysydd Llafur Perthnaso?

Dylai fod gennych fynediad yn awtomatig at y llwybr(au) perthnasol pan aseinir mynediad i chi at y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, ond os nad ydych yn gallu cael mynediad, gweld neu olygu Llwybrau Rhaglenni, anfonwch neges e-bost i quality@swansea.ac.uk i ofyn am gymorth.


Sut ydw i’n Diweddaru’r Llwybrau Rhaglenni/Rheolau Meysydd Llafur

Unwaith yr ydych yn gallu cael mynediad at y Llwybr Rhaglen ar gyfer eich rhaglen (y gellir cael mynediad ato trwy’r profforma Cynnig am Raglen yn y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni dan Strwythur Rhaglen), dylai fod yn rhwydd creu neu olygu’r detholiad o fodiwlau ar gyfer pob blwyddyn (trwy ddewis creu neu olygu testun ar bwys y flwyddyn ac yna ychwanegu modiwlau naill ai trwy fewnbynnu’r codau neu chwilio). Wedyn gallwch ddiffinio statws y modiwl fel gorfodol neu ddewisol.

Os ydych yn profi unrhyw anawsterau neu os hoffech gyngor pellach, anfonwch neges e-bost i quality@swansea.ac.uk.


 

< Bwrdd Rheoli Rhaglenni | Dysgu, Addysgu ac Asesu >

css.php