Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau

Crynodeb

Mae sicrhau cywirdeb gwybodaeth am fodiwlau’n ofyniad ansawdd hanfodol. Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Abertawe amrywiaeth o ymarferion yn y maes hwn. Mae’r ddogfen hon yn nodi fframwaith sy’n cyflwyno strwythur a chyfrifoldebau clir, yn ogystal â bod yn ddigon hyblyg i ymateb i adborth pwysig neu amgylchiadau annisgwyl (e.e. sylwadau arholwr allanol, adborth am fodiwl, materion staffio, cyfnodau sabothol).

Y Rhesymeg dros y Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau

  • Mae’n ofynnol ein bod yn rhoi gwybodaeth gywir am fodiwlau a rhaglenni i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yn unol â Chôl Ansawdd (Cynllunio a Datblygu Cyrsiau) yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a’n bod yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
  • Defnyddir systemau lleol ar hyn o bryd ac ni chaiff newidiadau i wybodaeth am fodiwlau eu monitro ar-lein. Heb lywodraethu ac atebolrwydd priodol, y perygl yw y byddwn yn dangos gwybodaeth am fodiwlau ar y wefan sy’n anghywir neu sydd bellach yn amherthnasol.
  • Mae fframwaith manwl yn gam cyntaf pwysig wrth sicrhau cywirdeb gwybodaeth am fodiwlau ar draws platfformau. Gwybodaeth anghywir am fodiwlau yw’r categori mwyaf mewn perthynas â chwynion myfyrwyr. Mae myfyrwyr yn gweld gwybodaeth am eu modiwlau yn Canvas yn bennaf. Ar hyn o bryd, gall yr wybodaeth hon fod yn wahanol iawn i ffurflenni’r modiwlau y gall myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr ei gweld ar dudalennau’r cyrsiau. Credir hefyd y dylai’r wybodaeth hon am fodiwlau a geir ar y system cynnal a chadw modiwlau fwydo Canvas – nod y fframwaith yw creu un ffynhonnell o wybodaeth sy’n cael ei diweddaru ac sy’n gywir, sy’n cael ei gwirio bob blwyddyn, ac sy’n bwydo’r catalog modiwlau, tudalennau’r cyrsiau a Canvas.
  • Mae’r Fframwaith Llywodraethu Modiwlau’n nodi pwy sy’n gyfrifol am gamau amrywiol y broses hon a phryd dylid cwblhau’r camau hyn yn ddelfrydol.
  • Mae’n bwysig ymgorffori yn y fframwaith hwn elfen o hyblygrwydd i allu ymateb i gyd-destunau sy’n newid, e.e. cyfnodau sabothol, staff yn gadael, adborth gwael neu negyddol gan fyfyrwyr neu sylwadau arholwyr allanol.
  1. Llif Gwaith – Newidiadau i Fodiwlau
  • Cydlynydd y modiwl sy’n llunio newidiadau iddo ac sy’n gyfrifol amdanynt drwy ffurflen newid modiwlau.
  • Ar ôl iddi gael ei llenwi, caiff y ffurflen newid modiwlau ei throsglwyddo i Gyfarwyddwr y Rhaglen a/neu’r Bwrdd Astudio er mwyn cadarnhau nad yw’r newidiadau i’r modiwl yn newid naws/cynnwys y rhaglen yn sylweddol. Y nod yw sicrhau nad yw’r newidiadau’n creu anghydbwysedd yn arlwy’r rhaglen neu’r proffiliau asesu, ac nad ydynt yn pellhau’r rhaglen yn sylweddol oddi wrth ddatganiad meincnodi pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.
  • Ar ôl iddi gael ei chadarnhau gan Gyfarwyddwr y Rhaglen/Bwrdd Astudio, cyflwynir y ffurflen newid modiwlau i’r Tîm Ansawdd Academaidd ac Asesu, a fydd yn cysylltu ag Arweinydd Addysg yr Ysgol i gael cymeradwyaeth. Mae hyn hefyd yn galluogi’r ysgol i fod yn ymwybodol o’r newidiadau ac unrhyw effaith a allai ddeillio ohonynt ar strwythur neu naws eu rhaglenni, yn enwedig wrth ystyried rhaglenni mân a mawr a rhaglenni ar y cyd.
  • Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Arweinydd Addysg yr Ysgol, rhaid i aelod o Dîm Ansawdd ac Asesu’r Ysgol ei ddiweddaru yn y catalog modiwlau. Bydd aelod o dîm y gwasanaethau proffesiynol yn ymgymryd â’r dasg o ddiweddaru’r modiwl ar y system cynnal a chadw modiwlau er mwyn sicrhau y caiff y broses hon ei rheoli ac y bydd atebolrwydd amdani.
  • Rhaid i’r aelod staff academaidd ddiweddaru’r modiwl ar Canvas i adlewyrchu’r newidiadau a gymeradwywyd ac i sicrhau bod yr wybodaeth ar Canvas ac yn y catalog modiwlau yn union yr un peth.
  1. Y Broses Diweddaru Gwybodaeth am Fodiwlau

Mae’r broses hon wedi cael ei datblygu er mwyn sicrhau y caiff data am fodiwlau ei ddiweddaru a’i fod yn gywir ar adegau allweddol ac erbyn terfynau amser allweddol drwy gydol y flwyddyn academaidd, yn ogystal â sicrhau y caiff yr wybodaeth gywir am fodiwlau ei chadw ar gyfer gweithgareddau eraill megis marchnata, amserlennu, dyrannu llwythi gwaith ac ati.

  • Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill (cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf), h.y. Ionawr 2022 ar gyfer mynediad ym mis Medi 2022.
  • Bydd cydlynydd y modiwl yn adolygu’r modiwl yn seiliedig ar ei farn am berfformiad y modiwl yn ystod y sesiwn neu’r tymor diwethaf, gan gynnwys: data ARQUE; sylwadau’r Arholwr Allanol; adborth EVaSYS; data arolygon myfyrwyr a chynlluniau gweithredu cysylltiedig.
  • Os bydd newidiadau i’r modiwl yn ofynnol, dylid llenwi’r ffurflen newid modiwlau a’i chyflwyno i Arweinydd Addysg yr Ysgol yn unol â’r llif gwaith uchod
  • Mae’r tabl canlynol yn amlinellu’r math o ddiwygiadau a ystyrir yn fân neu’n fawr.

Mân ddiwygiad

Rhaid i’r diwygiad gael ei nodi ar y Ffurflen Newid Modiwlau a’i gadarnhau gan Gyfarwyddwr y Rhaglen.

 

Mae mân ddiwygiadau’n cynnwys:

·       newid bloc addysgu;

·       newid cyfyngedig i’r cwricwlwm;

·       newid cyfyngedig i restr o lyfrau

 

Diwygiad mawr

Rhaid i’r diwygiad gael ei nodi ar y Ffurflen Newid Modiwlau a’i gadarnhau gan Gyfarwyddwr y Rhaglen ac Arweinydd Addysg yr Ysgol a’i nodi gan Fwrdd Rheoli’r Ysgol.

 

Mae diwygiadau mawr yn cynnwys:

·       teitl y modiwl,

·       deilliannau dysgu; math o asesu a’i batrwm;

·       nodiadau ar gyfer y catalog

  • Os bydd y broses adolygu modiwl yn mynnu newid sylweddol sy’n golygu bod angen modiwl newydd yn hytrach na newid i fodiwl, yna bydd proses y modiwl newydd yn dechrau gyda thrafodaeth gan y Bwrdd Astudio.
  • Erbyn dechrau mis Ionawr, bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen yn llunio fersiwn ddrafft o strwythur y rhaglen ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol, gan ystyried pa fodiwlau a gyflwynir ym mhob bloc addysgu, pwy sy’n addysgu/cyd-addysgu’r modiwlau, rheolau’r modiwlau a strwythur y rhaglen, a chyfnodau sabothol [amserlen addysgu]
  • Erbyn diwedd mis Chwefror, dylid cadarnhau rheolau’r modiwl a dylai staff y gwasanaethau proffesiynol wirio a nodi’r modiwl yn barod am y cyfnod cyn cofrestru. Gellir bellach gynnal proses cyn cofrestru’r modiwl.
  • Tua diwedd mis Mawrth neu ym mis Ebrill, cynhelir proses cyn cofrestru’r modiwl. Bydd y gweithgarwch hwn yn bwydo’r broses amserlenni i alluogi amserlen ddrafft i gael ei datblygu erbyn mis Gorffennaf.

 

css.php