Y Broses Datblygu a Chymeradwyo ar gyfer y Bartneriaeth / Rhaglen Gydweithredol Newydd

Y Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd sy’n rheoli perthnasoedd â sefydliadau allanol i gefnogi rhaglenni cydweithredol Colegau/Ysgolion.

Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys:

  • Trefniadau breiniol;
  • Trefniadau dilysu;
  • Trefniadau Cyfadran Hedegog;
  • Graddau Ymchwil Gydweithredol;
  • Graddau Ymchwil ar y Cyd;
  • Graddau Deuol;
  • Graddau Dwbl.

Camau’r Broses Datblygu a Chymeradwyo:


Cam 1

Ffurflen Prawf o Gysyniad: Fe’i datblygir gan Academydd Arweiniol y Coleg gyda chymorth gan Bennaeth y Coleg a’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd.

Gwybodaeth y dylid ei chynnwys ar y ffurflen Prawf o Gysyniad:

  • Arweinydd Academaidd;
  • Yr Adran Academaidd y bydd y bartneriaeth wedi’i lleoli ynddi;
  • Lefel, Teitl, Maes Pwnc, Dull Darparu a Hyd y bartneriaeth arfaethedig;
  • Crynodeb byr o’r cynnig am bartneriaeth (pwy yw’r partner, sut y mae’r cyfle wedi codi, trosolwg gychwynnol o’r bartneriaeth arfaethedig, cydweddiad strategol (sut y mae’n bartneriaeth yn cyflawni amcanion strategol y Brifysgol/y Coleg);
  • Costau a ragwelir am sefydlu a chyflawni’r bartneriaeth, a chynllun busnes sylfaenol (gan gynnwys incwm a chostau a awgrymir unwaith y bydd y bartneriaeth wedi’i sefydlu).
  • Rhaid i’r Prawf o Gysyniad gael ei gefnogi gan Bwyllgor perthnasol yr Ysgol/y Coleg (h.y. y Pwyllgor Dysgu ac Addysgu neu Ymchwil). Rhaid iddo gael ei gefnogi gan Bennaeth y Coleg hefyd.

b): Cymeradwyaeth gychwynnol gan Brifysgol Abertawe

Wedyn bydd y ffurflen Prawf o Gysyniad wedi’i chwblhau yn cael ei hystyried gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni.


Cam 2

Os bydd y Prawf o Gysyniad yn cael ei gefnogi gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, gwneir y canlynol:

 

  • Prosesau diwydrwydd dyladwy llawn (cyfreithiol, ariannol a moesegol) yn cael eu cyflawni gan y Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd;
  • Ymweliad â safle’r partner (os yw’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni/Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol yn argymell hynny) a chwblhau Adroddiad ar Ymweliad â Safle;
  • Cwblhau ffurflen Rhannu Cyfrifoldebau;
  • Datblygu achos busnes llawn (gan y Coleg/yr Ysgol sy’n cynnig, gyda chymorth gan Bartner Busnes Cyllid y Coleg/yr Ysgol a’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd);
  • Cwblhau “Ffurflen Rhaglen Newydd/Ddiwygiedig” y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd (gan y Coleg a’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd).

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r camau nesaf yn y broses gymeradwyo.


Am fwy o wybodaeth ar ddatblygu rhaglenni cydweithredol gweler yr adran Cwestiynau Cyffredin perthnasol:

Mae’r holl ffurflenni angenrheidiol yn ein Hyb Dogfennau

 

< Trosolwg o Ddatblygu, Rheoli ac Adolygu Partneriaeth Gydweithredol | Cod Ymarfer: Arholwyr Allanol >

css.php