Egwyddorion Partneriaethau Cydweithredol

Mae’r Brifysgol yn ceisio datblygu a chynnal partneriaethau strategol a byd-eang cyffrous a fydd yn galluogi ei myfyrwyr i ehangu eu gorwelion a gwella’r profiad ar gyfer myfyrwyr trwy symudedd, astudio dramor a thrwy ryngweithio â sefydliadau a staff rhyngwladol uchel eu proffil.

Mae dull cymesur a seiliedig-ar-risgiau Prifysgol Abertawe o ddylunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu partneriaethau cydweithredol yn seiliedig ar yr egwyddorion craidd canlynol:
1. Bydd yr holl bartneriaethau cydweithredol yn ymateb i anghenion y farchnad, wedi’u halinio’n strategol ac yn hyfyw o safbwynt ariannol ac addysgol;
2. Bydd aliniad rhwng y partner arfaethedig a blaenoriaethau strategol a gwerthoedd y Brifysgol/Coleg/yr Ysgol;
3. Bydd yr holl bartneriaethau cydweithredol yn cael eu dylunio fel eu bod yn cyd-fynd â’r ansawdd a’r safonau a bennir gan brosesau cymeradwyo’r Brifysgol, y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch a Meincnodau Pynciol perthnasol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch;
4. Bydd yr holl bartneriaethau cydweithredol yn cael eu dylunio fel eu bod yn cyd-fynd â’r ansawdd a’r safonau a bennir gan brosesau cymeradwyo’r Brifysgol, y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch a Meincnodau Pynciol perthnasol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch;
5. Bydd yr holl bartneriaid cydweithredol o galibr addas, gan ystyried enw da a statws o ran eu Safle yn Nhrefn Restrol y Byd;
6. Bydd yr holl drefniadau cydweithredol yn sicrhau cydraddoldeb y profiad ar gyfer myfyrwyr;
7. Lle bynnag y bo’n bosibl a/neu’n briodol, bydd cyflogwyr a myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn weithredol yn y prosesau datblygu, cymeradwyo ac adolygu;
8. Bydd yr holl bartneriaethau cydweithredol yn cael eu monitro’n effeithiol trwy’r broses Adolygu Ansawdd a bydd cyfraddau recriwtio’n cael eu monitro trwy’r adolygiad portffolio blynyddol

Mae’r egwyddorion craidd wedi’u bwriadu i fynd i’r afael â disgwyliadau a dangosyddion arfer cadarn a nodir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch. Bydd yr egwyddorion a’r prosesau ar gyfer cymeradwyo partneriaethau cydweithredol newydd yn cael eu hadolygu’n flynyddol.

Bydd yr egwyddorion a’r prosesau ar gyfer cymeradwyo partneriaethau cydweithredol newydd yn cael eu hadolygu’n flynyddol.

Dyddiad yr adolygiad diwethaf: 9 Rhagfyr 2019

< Partneriaethau Cydweithredol | Trosolwg o Ddatblygu, Rheoli ac Adolygu Partneriaeth Gydweithredol >

css.php