Mae adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad yn rhoi gwybodaeth i chi am raglenni tebyg yn y sector AU, ynghyd â’r galw, y cystadleuwyr sy’n perfformio orau, lefelau ffioedd dysgu a gwybodaeth gan asiantau rhyngwladol am recriwtio posibl yn fyd-eang. Mae’r adroddiad yn darparu darlun cynhwysfawr o’r potensial i recriwtio ar gyfer eich rhaglen, er bod rhai cyfyngiadau iddo lle ceir meysydd newydd.
Sut ydw i’n cael Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad?
Caiff adroddiadau Gwybodaeth am y Farchnad eu paratoi gan y Tîm Gwybodaeth am y Farchnad ac fe gymer 4-6 wythnos i’w cwblhau fel arfer. Sicrhewch fod y ffrâm amser hwn yn cael ei hystyried yn eich cynlluniau datblygu. I ofyn am adroddiad, cwblhewch y Ffurflen Cais am Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad a chyflwynwch y ffurflen i’r tîm Gwybodaeth am y Farchnad trwy m.w.skippen@swansea.ac.uk.
Fel arfer, NI fydd Cynigion am Raglenni Newydd yn cael eu hystyried ar gyfer eu hadolygu gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni heb Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad cyflawn. Os ydych chi’n meddwl bod gennych ddigon o wybodaeth am y farchnad heb adroddiad ffurfiol, neu os yw eich rhaglen wedi cael ei chomisiynu gan asiantaeth allanol a bod sicrwydd y bydd myfyrwyr yn cael eu recriwtio, cysylltwch â’r tîm Gwybodaeth am y Farchnad a/neu’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd i gadarnhau beth sy’n ofynnol.
A oes Marchnad ar Gyfer fy Rhaglen?
Bydd yr Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad yn darparu gwybodaeth ynghylch y galw tebygol yn y farchnad am eich rhaglen newydd arfaethedig. Bydd yr adroddiad yn dynodi a yw’n debygol y bydd galw sylweddol, peth galw neu alw cyfyngedig, a bydd yn dynodi ffynonellau’r galw hwn (y farchnad gartref neu dramor, a gwledydd neu ardaloedd penodol). Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu strategaeth i farchnata’r rhaglen newydd arfaethedig yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn cynyddu i’r eithaf y cyfraddau recriwtio yn y marchnadoedd a nodwyd. Os yw’r adroddiad yn canfod mai marchnad gyfyngedig sydd, dylech ystyried diwygio’r cynnig tuag at raglen wahanol.
Fodd bynnag, mae eithriadau i hyn. Mae rhai meysydd pwnc yn newydd i’r sector (yn anad dim ym meysydd iechyd a’r gwyddorau) ac felly nid oes digon o ddata i ddangos marchnad amlwg. Yn yr achosion hyn bydd yr adroddiad ar y farchnad yn dynodi marchnadoedd posibl, a dylai’r Coleg gyflwyno achos clir y bydd y rhaglen newydd yn recriwtio’n ddigonol.
Mae cynigion mewn marchnad newydd yn fwy o risg i’r sefydliad, felly rhaid cyflwyno achos cadarn i ddatblygu rhaglenni yn y meysydd hyn.
Does neb yn Gwneud Rhaglen fel hon, Felly Rhaid bod y Potensial yn y Farchnad yn Anferth!
Mae hon yn farn sy’n cael ei harddel yn gyffredin ond mae’n fwy tebygol nad oes marchnad ac nad yw cystadleuwyr wedi datblygu rhaglenni am y rheswm hwn. Ar achlysuron prin efallai y byddwn yn gallu sicrhau mantais symudwr cyntaf mewn marchnadoedd newydd, yn enwedig lle mae gennym berfformiad sydd ar flaen y gad yn y sector, ond nid yw rhagoriaeth ymchwil wastad yn trosi’n rhaglenni sydd ar flaen y gad yn y farchnad.
Sut ydw i’n Canfod a yw fy Rhaglen yn Hyfyw?
Unwaith y byddwch yn cael yr Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad fel arfer bydd gennych ddigon o wybodaeth ynghylch y galw am eich cynnig yn y farchnad. Lle nad oes ond data cyfyngedig, efallai y bydd rhywfaint o ymchwil arbenigol bellach yn ofynnol i bennu’r marchnadoedd recriwtio tebygol.
Bydd angen i chi ystyried y potensial i gystadleuwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol recriwtio o’r un gronfa o ymgeiswyr. Bydd angen i chi hefyd ystyried bras amcan o’r costau darparu, i gadarnhau a fydd yr incwm rhagamcanol yn uwch na’r costau sefydlu a darparu. Yn olaf, bydd angen i chi ddarparu amcanestyniadau seiliedig-ar-dystiolaeth o’r gyfradd recriwtio debygol ar gyfer eich rhaglen arfaethedig am y 3-5 mlynedd gyntaf. Dylech nodi bod yr Adroddiad i-MAP yn dod i’r casgliad nad yw rhaglenni sy’n methu â recriwtio’n llwyddiannus yn yr 1-2 flynedd gyntaf yn llwyddiannus fel arfer. Mae felly’n hanfodol caniatáu digon o amser dirwyn i farchnata rhaglenni newydd yn effeithiol a recriwtio myfyrwyr.
Dylech hefyd gadw mewn cof ei bod yn bosibl na fydd rhaglen a all fod yn hyfyw yn ariannol yn recriwtio digon o fyfyrwyr i fod yn hyfyw yn addysgol – h.y. i gyflawni amgylchedd dysgu cyffredin cadarnhaol o fewn y grŵp o fyfyrwyr.
Pam ei Bod yn Bwysig Cadarnhau a yw fy Rhaglen yn Hyfyw?
Mae hyfywedd ariannol ac addysgol yn hollbwysig i lwyddiant parhaus y Brifysgol yn yr amgylchedd newydd y mae Addysg Uwch yn gweithredu ynddo yn awr. Mae’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni yn sicrhau bod yr holl weithgarwch datblygu rhaglenni’n hyfyw ac yn cyfrannu at dwf y Brifysgol. Bydd yr holl weithgarwch recriwtio ar gyfer rhaglenni’n cael ei adolygu’n flynyddol a byddir yn ymchwilio ymhellach i unrhyw raglenni nad ydynt yn hyfyw a gall y rhaglenni hyn gael eu hamlygu ar gyfer eu tynnu’n ôl.
Mae cadarnhau hyfywedd ar y cam cynharaf yn osgoi gwastraff amser posibl trwy ddatblygu rhaglenni nad ydynt yn recriwtio niferoedd digonol o fyfyrwyr, gan ei gwneud yn bosibl canolbwyntio amser ac arbenigedd yn well ar ddatblygu rhaglenni sydd â mwy o ffocws ar y farchnad.
< Cam y Cysyniad | Bwrdd Rheoli Rhaglenni >