Cod Ymarfer: Partneriaethau Cydweithredol

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Partneriaethau Cydweithredol yn darparu’r fframwaith, yr egwyddorion a’r prosesau ar gyfer nodi, datblygu, cymeradwyo, rheoli ac adolygu’r holl bartneriaethau cydweithredol a rhaglenni astudio cysylltiedig (gan gynnwys rhai israddedig, ôl-raddedig a addysgir, ymchwil ôl-raddedig), a dylid ei ddarllen ar y cyd ag adrannau perthnasol o’r Cod Ymarfer ar gyfer Dylunio, Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni. Mae’r agweddau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer fel a ganlyn:

  1. Datblygu a Chymeradwyo Partneriaid, Rhaglenni Cyfnewid Symudedd Myfyrwyr a Rhaglenni Astudio Cydweithredol Newydd;
  2. Adolygu, Diwygio a Gwella Partneriaethau, Rhaglenni Cyfnewid Symudedd Myfyrwyr a Rhaglenni Astudio Cydweithredol Presennol;
  3. Rheoli Partneriaethau, Rhaglenni Cyfnewid Symudedd Myfyrwyr a Rhaglenni Astudio Cydweithredol Presennol.

Mae’r Cod Ymarfer hwn yn ceisio bod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae’n seiliedig ar y disgwyliadau a’r dangosyddion yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU (Yr Asiantaeth Gwella Ansawdd). Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn croesawu adborth ar effeithiolrwydd y Cod Ymarfer hwn a bydd yn ceisio gweithredu gwelliannau trwy gydol y flwyddyn i wella profiad defnyddwyr. Anfonwch unrhyw adborth i quality@Swansea.ac.uk gyda ‘COP Feedback’ fel Pwnc y Neges. Gobeithio y cewch chi fod y Cod Ymarfer hwn yn ddefnyddiol ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Os yw’n well gennych weld y côd ymarfer hwn fel PDF rhyngweithiol, cliciwch ar y llun isod: Cod Ymarfer: Partneriaethau Cydweithredol Phil Maull Pennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd

< Cod Ymarfer: Datblygu, Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni | Egwyddorion Partneriaethau Cydweithredol >

css.php