Mae’r Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol yn fwrdd ar lefel y Brifysgol sy’n cynghori ac yn adrodd i’r Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd ar bob mater sy’n ymwneud â gweithgareddau cydweithredol sy’n arwain at ddyfarniad/gredyd gan y Brifysgol.
Pwrpas y bwrdd yw sicrhau bod trefniadau cydweithredol yn cael eu trafod, eu cytuno a’u rheoli yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol a nodwyd yn ffurfiol. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau bod safonau academaidd pob dyfarniad a wneir o dan drefniad cydweithredol yn gallu bodloni disgwyliadau Côd Ansawdd y DU, a bod ansawdd y cyfleoedd dysgu a gynigir trwy drefniad cydweithredol yn ddigonol i alluogi myfyriwr i gyflawni’r safon academaidd sy’n ofynnol ar gyfer dyfarniad.
Cadeirydd Dros Dro: Professor Martin Stringer
Ysgrifennydd: Catherine McVeigh
Cyflwyno papur: Cwblhewch daflen flaen y Bwrdd a’i hatodi i’ch papur, gan ei chyflwyno i collaborative@swansea.ac.uk.
Ymholiadau: Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar unrhyw adeg, e-bostiwch collaborative@swansea.ac.uk.
< Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd | Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd >