Mae dull Prifysgol Abertawe o Sicrhau a Gwella Ansawdd yn seiliedig ar God Ansawdd Addysg Uwch y DU gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, ac wedi’i alinio’n llawn â’r Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Mae defnyddio ystod lawn o fertigau allweddol, ac integreiddio elfennau o’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, wedi ein galluogi i greu dull cytbwys, cymesur a seiliedig ar risgiau o sicrhau a gwella ansawdd, sy’n canolbwyntio ar adnabod ble y mae gwelliannau’n ofynnol, a sicrhau bod y rhain yn digwydd.
Mae gan Abertawe hefyd Strwythur Llywodraethu o Bwyllgorau a Byrddau ar lefel Colegau/Ysgolion a’r Brifysgol, a oruchwylir yn y pen draw gan Senedd a Chyngor y Brifysgol.
Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd wedi darparu ystod o Godau Ymarfer sydd wedi’u bwriadu i ddarparu fframwaith ar gyfer Sicrhau a Gwella Ansawdd yn effeithiol, gan gefnogi a galluogi staff a myfyrwyr i ymgysylltu’n llawn â darparu profiad o ansawdd da ar gyfer myfyrwyr ar draws pob rhaglen ac ar bob lefel astudio. Mae’r Codau Ymarfer wedi’u bwriadu i ddarparu trosolwg gryno o brosesau allweddol, ynghyd â chwestiynau cyffredin mwy manwl, gan ddarparu dull cam wrth gam o sicrhau ansawdd yn effeithiol.
Mesur Ansawdd: Gwneud y defnydd gorau o ddata
Er ei bod yn hanfodol peidio â cholli golwg ar y gwerth cynhenid mewn data ansoddol, sgyrsiau ac ymgysylltu uniongyrchol, rydym wedi ailadeiladu ein prosesau ansawdd fel eu bod yn cael eu goleuo gan ddata, ac wedi’u halinio â strategaeth a phroses cynllunio busnes y Brifysgol, gan gredu bod rhaid i sicrhau ansawdd fod yn rhan annatod o lwyddiant y Brifysgol fel busnes. Gan fod Prifysgolion bellach yn cael eu mesur a’u gosod mewn trefn restrol a hynny’n gyhoeddus, dyma ble’r ydym yn cymryd ciw ar gyfer y setiau data, i sicrhau bod rhaglenni a meysydd pwnc yn cael eu meincnodi yn erbyn grwpiau cystadleuwyr cenedlaethol. O ganlyniad, mae ein proses Adolygu Ansawdd integredig yn arbennig yn gwneud defnydd llawn o setiau data allweddol, a’r rheiny wedi’u halinio’n bennaf â’r Fframwaith Rhagoriaeth Ansawdd a data Tablau Cynghrair.
Mae’r dull hwn yn ein galluogi i wneud penderfyniadau a oleuir gan ddata ac sy’n seiliedig ar risgiau ynghylch ble i dargedu cymorth a gwelliant yn fwyaf effeithiol, i ddarparu’r profiad gorau posibl ar gyfer myfyrwyr, gan sicrhau ein bod yn gallu cyflawni’r broses fwyaf effeithlon ac uchaf ei heffaith sy’n bosibl.